Data CND yn dangos darlun cymysg o ran perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi ei adroddiadau perfformiad amgylcheddol blynyddol ar gyfer 2025 a data gorlifoedd storm ar gyfer Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy.
Mae'r canlyniadau'n dangos cynnydd ochr yn ochr â heriau parhaus. Mae Hafren Dyfrdwy yn parhau i berfformio'n gryf mewn sawl maes, ac mae Dŵr Cymru wedi dangos gwelliannau mewn rhai mesurau, ond yn parhau i fod yn gwmni sydd angen gwella, yn unol â’r Asesiad Perfformiad Amgylcheddol (EPA).
Er bod nifer digwyddiadau llygredd Dŵr Cymru sy’n deillio o asedau dŵr gwastraff wedi gostwng o 132 yn 2024 i 107 yn 2025, cynyddodd nifer y digwyddiadau llygredd difrifol o 6 i 9 yn yr un cyfnod.
Dyma’r nifer uchaf o ddigwyddiadau llygredd difrifol i’w gofnodi o dan y fframwaith asesu presennol, ac mae'n destun pryder sylweddol. Mae pob digwyddiad difrifol, yn ôl y diffiniad, yn achosi difrod amgylcheddol. Mae’r ffaith bod y digwyddiadau hyn yn dal i ddigwydd yn pwysleisio’r angen i weithredu i leihau'r niwed maent yn ei achosi.
Gwnaeth y cwmni wella prosesau monitro gorlifoedd storm, lleihau rhai dangosyddion llygredd a chynyddu hunan-adrodd o ran digwyddiadau. Fodd bynnag, mae’r cyfraddau adrodd yn parhau i fod islaw'r disgwyliadau, ac mae pryderon o hyd ynglŷn â chydymffurfiaeth â thrwyddedau, cydymffurfiaeth â thrin dŵr gwastraff a chyflymder y gwelliant amgylcheddol.
Dŵr Cymru yw darparwr dŵr yfed a gwasanaethau dŵr gwastraff mwyaf Cymru, ac mae Hafren Dyfrdwy, sy’n rhan o grŵp Severn Trent, yn darparu gwasanaethau i rannau o ogledd a chanolbarth Cymru.
Nid yw Hafren Dyfrdwy yn cael sgôr seren EPA gan ei fod yn gwmni llai o faint, ond mae CNC yn dal i gyhoeddi asesiad o'i berfformiad amgylcheddol.
Yn 2025, perfformiodd y cwmni'n dda mewn sawl maes allweddol, heb unrhyw ddigwyddiadau llygredd difrifol a lefel ragorol o gydymffurfiaeth â thrwyddedau rhyddhau dŵr gwastraff am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Hefyd, dim ond 3 digwyddiad a gofnodwyd yn gyffredinol, i lawr o 5 yn 2024 a'r nifer isaf ers 2015. Bu methiant i hunan-adrodd un digwyddiad.
Mae data gorlifoedd storm ar gyfer 2025 yn dangos bod y ddau gwmni dŵr wedi cofnodi llai o ollyngiadau nag yn y flwyddyn flaenorol, ochr yn ochr â gwell dibynadwyedd o ran offer monitro. Fodd bynnag, mae gollyngiadau mynych yn parhau i beri pryder sylweddol. Ledled Cymru, gwnaeth bron i draean o'r gorlifoedd sy’n cael eu monitro ollwng rhwng 40 a 99 o weithiau yn ystod 2025, a gwnaeth dros un o bob 10 ollwng dros 100 o weithiau.
Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio CNC:
"Mae'r canlyniadau hyn yn dangos arwyddion calonogol o gynnydd, ond mae'r darlun cyffredinol yn parhau i fod yn un cymysg.
“Mae Hafren Dyfrdwy yn parhau i berfformio’n gryf, gyda gwelliannau o flwyddyn i flwyddyn mewn sawl maes. Mae hefyd yn gadarnhaol gweld gwelliannau o ran rhai agweddau ar berfformiad Dŵr Cymru, gan gynnwys llai o ddigwyddiadau llygredd a gwell monitro o ran gorlifoedd storm.
"Fodd bynnag, mae digwyddiadau llygredd difrifol yn parhau i beri pryder sylweddol. Mae pob digwyddiad llygredd difrifol yn achosi niwed i'r amgylchedd, ac mae’n rhaid i leihau'r digwyddiadau hyn barhau i fod yn flaenoriaeth.
"Mae rheoleiddio cryfach, mwy o fonitro a buddsoddiad sylweddol yn helpu i ysgogi gwelliannau, ond bydd yn cymryd amser i'r newidiadau hyn gyflawni'r lefel o welliant amgylcheddol y mae pobl yn ei ddisgwyl, a hynny’n briodol, ledled Cymru."
Mae'r adroddiadau llawn ar gael ar wefan CNC:
Adroddiad perfformiad amgylcheddol blynyddol CNC ar gyfer Dŵr Cymru
Adroddiadau perfformiad blynyddol CNC ar gyfer Hafren Dyfrdwy
Adroddiad data Gollyngiadau Gorlifoedd Storm CNC