Cyhoeddi rownd nesaf o gyllid grant ar gyfer atebion arloesol i ddraenio cynaliadwy
Mae ceisiadau yn agor heddiw ar gyfer rownd nesaf cyllid grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gefnogi datblygiad atebion draenio cynaliadwy ar raddfa fach ac y gellir eu hôl-osod yng Nghymru.
Ym mis Mehefin 2023, dyfarnodd CNC grantiau gwerth rhwng £25,000 a £40,000 i 5 derbynnydd i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cynlluniau posibl yn eu hardaloedd.
Mae hyd at £300,000 bellach ar gael yn y rownd hon i alluogi ymgeiswyr i gynnal astudiaethau dylunio cysyniad i fynd i'r afael â phroblemau ar safleoedd presennol, gyda'r potensial i ddatblygu cynlluniau ôl-osod ar raddfa fach drwy grant cystadleuol yn y dyfodol.
Mae systemau draenio trefol cynaliadwy yn helpu i leihau llifogydd dŵr wyneb mewn ardaloedd adeiledig a lleihau dŵr ffo i afonydd a nentydd lleol.
Mewn tirweddau gwledig, gall systemau draenio trefol cynaliadwy leihau llifogydd lleol a gwella ansawdd dŵr.
Maent yn defnyddio dull mwy naturiol o reoli llif, cyfaint ac ansawdd dŵr wyneb trwy gynnwys elfennau fel palmentydd athraidd, creu gwlyptir, suddfannau dŵr a gerddi glaw.
Pan fydd y rhwydwaith carthffosydd yn llenwi â dŵr glaw ac yn cael ei lethu, gall hyn achosi i orlifoedd storm ollwng carthion gwanedig i afonydd, nentydd a dyfroedd arfordirol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y byddai eu prosiect yn defnyddio arloesedd i wella dulliau cyfredol, yn ogystal â dangos sut y byddent yn lleihau allyriadau carbon, yn gwella bioamrywiaeth ac yn darparu buddion iechyd a lles i'r gymuned leol.
Dywedodd Helen Haider, Uwch-gynghorydd Arbenigol o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae gan atebion draenio trefol cynaliadwy rôl bwysig i'w chwarae o ran sut rydym yn mynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur yn y dyfodol.
“Mae cawodydd trwm a tharanllyd yn dod yn fwy cyffredin, ac mae llifoedd mawr o ddŵr yn llethu ardaloedd datblygedig lle nad oes llawer o ddraenio naturiol.
“O ystyried poblogaeth sy'n tyfu a rhwydwaith carthffosiaeth sy'n heneiddio, mae angen brys i ddefnyddio atebion arloesol i leihau faint o ddŵr wyneb sy'n mynd i mewn i'n draeniau ac wedyn i’n hafonydd drwy orlifoedd storm.
“Yn ogystal â darparu atebion ymarferol i broblemau trefol, gall y cynlluniau hyn ddarparu rôl bwysig o ran lleihau llifogydd lleol, gwella ansawdd dŵr a darparu cynefin dyfrol gwerthfawr mewn ardaloedd gwledig.”
Mae'r rhaglen grant yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw cyn hanner nos ar 30 Mehefin 2025.
Mae holl fanylion y cynllun a sut i wneud cais ar wefan CNC.
Mae CNC hefyd yn bwriadu cynnal dwy weminar lle gall darpar ymgeiswyr gael rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau am y broses. Gall pobl nodi eu diddordeb ar gyfer gweminar drwy'r dudalen we.