Cadeirydd annibynnol newydd wedi'i benodi i helpu i lunio dyfodol Afon Taf

Golygfa o'r awyr o Afon Taf yn llifo drwy Bontypridd. Mae'r afon yn rhedeg drwy ganol y ddelwedd, gyda chanol tref yn cynnwys adeiladau, ffyrdd a meysydd parcio ar un ochr a pharc gwyrdd mawr gyda choed ac ardaloedd chwarae ar yr ochr arall. Mae bryniau a choetiroedd yn amgylchynu'r cwm o dan awyr las gyda chymylau gwasgaredig.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi penodi Dr David Clubb yn gadeirydd annibynnol Partneriaeth Dalgylch Taf newydd.

Bydd y bartneriaeth yn dod â chymunedau, sefydliadau a busnesau ynghyd ar hyd Afon Taf, o Fannau Brycheiniog i Fae Caerdydd, i fynd i'r afael â llifogydd, i adfywio byd natur ac i ddatblygu dalgylch mwy gwydn.

Mae pobl sy'n byw ac yn gweithio yn nalgylch Afon Taf yn ymwybodol iawn o’r effaith y gall llifogydd ei chael ar gartrefi, busnesau ac ardaloedd lleol. Disgwylir i’r newid yn yr hinsawdd gynyddu pa mor aml y byddwn ni’n cael glaw trwm, a pha mor ddwys fydd y glaw hwnnw, gan wneud perygl llifogydd yn her gynyddol i gymunedau ledled yr ardal.

Bydd y bartneriaeth newydd yn dod â chyrff cyhoeddus, grwpiau amgylcheddol, tirfeddianwyr, cwmnïau dŵr, busnesau a chymunedau lleol ynghyd i edrych ar ddalgylch cyfan yr afon, a nodi pa gamau gweithredu allai fod o fudd i bobl ac i fyd natur. Gallai'r rhain gynnwys gwella ansawdd dŵr, adfer cynefinoedd, creu ffyrdd mwy naturiol o reoli dŵr a helpu cymunedau i baratoi’n well ar gyfer llifogydd.

Mae gan David gyfoeth o brofiad ym maes cynaliadwyedd, llywodraethu a gwydnwch hinsawdd. Fel cyn Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, helpodd i ddatblygu argymhellion ar sut gall Cymru baratoi'n well ar gyfer effeithiau llifogydd a newid hinsawdd.

Ei flaenoriaethau cyntaf fel Cadeirydd fydd sefydlu Partneriaeth Dalgylch Taf a sicrhau bod gan gymunedau lais cryf wrth lywio gwaith y bartneriaeth ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd David:

"Mae Afon Taf yn un o ddalgylchoedd afon pwysicaf Cymru, gan gynnal cymunedau, busnesau a bywyd gwyllt o'r ucheldiroedd i'r arfordir.
"Drwy gydweithio, mae cyfle i ni ddatblygu cynllun hirdymor ar y cyd fydd yn helpu cymunedau i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, yn lleihau'r perygl o lifogydd ac yn gwella'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
“Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n byw drwy Argyfyngau Natur a Hinsawdd. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y Bartneriaeth newydd hon yn ymgorffori Natur a chymuned ym mhopeth a wnawn, gan ddod yn esiampl o weithredu seiliedig ar dystiolaeth sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn ar draws y dalgylch.”

Mae'r penodiad yn nodi cam pwysig yn natblygiad Cynllun Strategol Dalgylch Taf CNC, sy'n ceisio dod â sefydliadau a chymunedau ynghyd i ddod o hyd i ddatrysiadau hirdymor i rai o heriau mwyaf y dalgylch. Mae'r cynllun yn cydnabod na all unrhyw un sefydliad fynd i'r afael â'r materion hyn ar ei ben ei hun, a bod cydweithio yn hanfodol er mwyn creu Afon Taf sy'n gallu gwrthsefyll llifogydd.

Am ragor o wybodaeth am Gynllun Strategol Dalgylch Taf a chyfleoedd i gymryd rhan, ewch i'r dudalen we Gweithredu dros Afon Taf sy'n gallu gwrthsefyll llifogydd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru