Cynllun grant newydd yn chwilio am atebion arloesol i ddraenio cynaliadwy
Mae ceisiadau yn agor heddiw ar gyfer cynllun grant newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gefnogi datblygiad atebion draenio cynaliadwy ar raddfa fach ac y gellir eu hôl-osod yng Nghymru.
Mae systemau draenio trefol cynaliadwy yn helpu i leihau llifogydd dŵr wyneb mewn ardaloedd adeiledig a lleihau dŵr ffo i afonydd a nentydd lleol. Mewn tirweddau gwledig, gall systemau draenio trefol cynaliadwy leihau llifogydd lleol a gwella ansawdd dŵr.
Maent yn defnyddio dull mwy naturiol o reoli llif, cyfaint ac ansawdd dŵr wyneb trwy gynnwys elfennau fel palmentydd athraidd, creu gwlyptir, suddfannau dŵr a gerddi glaw.
Pan fydd y rhwydwaith carthffosydd yn llenwi â dŵr glaw ac yn cael ei lethu, gall hyn achosi i orlifoedd storm ollwng carthion gwanedig i afonydd, nentydd a dyfroedd arfordirol.
Mae hyd at £450,000 ar gael yn y rownd gyntaf o gyllid i ganiatáu i ymgeiswyr ymgymryd ag astudiaethau dichonoldeb i fynd i'r afael â phroblemau ar safleoedd presennol, gyda'r potensial i ddatblygu cynlluniau ôl-osod ar raddfa fach drwy grant cystadleuol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae CNC yn bwriadu cefnogi prosiectau rhwng £25,000-£40,000.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y byddai eu prosiect yn defnyddio arloesedd i wella dulliau cyfredol, yn ogystal â dangos sut y byddent yn lleihau allyriadau carbon, yn gwella bioamrywiaeth ac yn darparu buddion iechyd a lles i'r gymuned leol.
Helen Haider, Uwch-gynghorydd Arbenigol o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae gan atebion draenio trefol cynaliadwy rôl bwysig i'w chwarae o ran sut rydym yn mynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur yn y dyfodol.
“Mae cawodydd trwm a tharanllyd yn dod yn fwy cyffredin, ac mae llifoedd mawr o ddŵr yn llethu ardaloedd datblygedig lle nad oes llawer o ddraenio naturiol.
“O ystyried poblogaeth sy'n tyfu a rhwydwaith carthffosiaeth sy'n heneiddio, mae angen brys i ddefnyddio atebion arloesol i leihau faint o ddŵr wyneb sy'n mynd i mewn i'n draeniau ac wedyn i’n hafonydd drwy orlifoedd storm.
“Yn ogystal â darparu atebion ymarferol i broblemau trefol, gall y cynlluniau hyn ddarparu rôl bwysig o ran lleihau llifogydd lleol, gwella ansawdd dŵr a darparu cynefin dyfrol gwerthfawr mewn ardaloedd gwledig.”
Mae'r grantiau'n cael eu hariannu gan Gronfa Gyfalaf Llywodraeth Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Llun 25 Medi 2023.
Mae holl fanylion y cynllun a sut i wneud cais ar wefan CNC.
Mae CNC hefyd yn bwriadu cynnal cyfres o weminarau lle gall darpar ymgeiswyr gael rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau am y broses. Gall pobl nodi eu diddordeb ar gyfer gweminar drwy'r dudalen we.