Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwahodd tendrau ar gyfer pori cadwraeth mewn dwy Warchodfa Natur Genedlaethol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd ceisiadau gan borwyr profiadol i ymgymryd â phori cadwraeth ar ddau safle o bwys cenedlaethol: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Rhos Llawr Cwrt a safle Cors y Clettwr gerllaw yng Ngheredigion, a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu ym Mhenwyllt, Powys.
Mae'r ddau gyfle yn rhan o waith CNC i amddiffyn a gwella cynefinoedd sensitif trwy reoli pori da byw yn ofalus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymrwymo i Denantiaeth Busnes Fferm 10 mlynedd, gan gefnogi rheolaeth ecolegol hirdymor y tirweddau gwarchodedig hyn.
Mae pori cadwraeth yn offeryn hanfodol wrth gynnal strwythur, amrywiaeth ac iechyd hirdymor y tirweddau hyn, ac mae CNC yn chwilio am borwyr a all weithio mewn ffordd sy'n sensitif i anghenion cadwraeth pob gwarchodfa.
Disgwylir i ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio pori fel offeryn rheoli positif ac addasu eu dull yn unol â gofynion y safle.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Rhos Llawr Cwrt a Chors y Clettwr
Mae Rhos Llawr Cwrt a Chors y Clettwr gerllaw yn cwmpasu tua 63.32 hectar, gan gynnwys mosaig o laswelltir gwlyb a chynefinoedd cyfoethog o rywogaethau sy'n dibynnu ar bori dwyster isel i ffynnu. Mae CNC yn chwilio am borwyr sy'n gallu rheoli tua 24 o unedau da byw (gwartheg neu ferlod) ar draws sawl bloc pori diffiniedig rhwng 1 Mai a 31 Hydref bob blwyddyn.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu
Mae Ogof Ffynnon Ddu sy’n ymestyn tua 406 hectar, yn un o warchodfeydd ucheldir mwyaf nodedig Cymru. Mae'r safle'n cynnwys palmant calchfaen, rhostir agored a glaswelltir llawn rhywogaethau, ac mae'n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog . Mae hefyd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'n dir mynediad agored.
Mae CNC yn chwilio am borwr i reoli:
- 20 o wartheg rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref, gyda'r opsiwn o gynyddu i 30 yn dilyn gwaith monitro
- Hyd at 10 merlen drwy gydol y flwyddyn
Bydd dyddiad cychwyn y denantiaeth, sef 1 Mai 2026, ar gyfer y ddau safle yn caniatáu i'r ymgeisydd llwyddiannus ymuno â'r tir yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Sut i wneud cais
Mae ceisiadau ar agor tan 12:00 (canol dydd) ar ddydd Mercher, 25 Mawrth.
Er mwyn gofyn am ffurflen dendro CNC ar gyfer y ddau safle neu i ymholi am y broses dendro, anfonwch e-bost at ystadaudecanolbarth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y daliadau, cysylltwch â Mike James ar 07825 843253 neu mike.james@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk