Trwydded Forol wedi'i chyhoeddi ar gyfer prosiect arddangos ynni gwynt arnofiol ar y môr yn Sir Benfro
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi Trwydded Forol i Llŷr Floating Wind Limited ar gyfer prosiect fferm wynt arnofiol ar y môr – cyfleuster profi ac arddangos fydd 35km oddi ar arfordir Sir Benfro.
Mae'r prosiect arfaethedig, oddi ar arfordir Pentir Linney, ymhlith y prosiectau ynni gwynt arnofiol cyntaf ar raddfa arddangos yng Nghymru. Y nod yw datblygu a phrofi'r dechnoleg newydd hon.
Mae'n cynnwys hyd at ddeg tyrbin gydag uchder o hyd at 300m uwchben lefel y môr, a'u llwyfannau arnofiol, llinellau angori ac angorau cysylltiedig.
Y cynllun yw i hyd at ddau gebl allforio alltraeth, tua 50km o hyd, ddod â phŵer i'r lan ar Draeth Freshwater West.
Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Thrwyddedu a Gweithrediadau Morol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Yma yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, mae cyfle unigryw i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ar draws ystod o sectorau a diwydiannau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio ein pwerau trwyddedu i gefnogi Cymru wrth iddi newid i ddefnyddio ynni glân.
“Fel rheoleiddiwr a chynghorydd, rydyn ni’n sicrhau bod prosiectau ynni yn cael eu datblygu’n gynaliadwy, gan barchu’r amgylchedd a chymunedau lleol. Ar yr un pryd, rydyn ni’n chwarae rhan hanfodol wrth alluogi arloesi o ran ynni gwyrdd – gan helpu prosiectau i symud ymlaen yn ddiogel ac yn gyfrifol.
“Mae gan Gymru botensial enfawr fel arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r manteision a allai godi o ganlyniad i’r prosiectau hyn wrth i ni symud tuag at dargedau sero net.”
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r Awdurdod Trwyddedu Morol ar ran Gweinidogion Cymru.
Mae manylion llawn y Drwydded Forol sydd wedi’i chyhoeddi ar gyfer Prosiect Fferm Wynt Arnofiol ar y Môr Llŷr ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus.