Diweddariad - tân ym Mhort Talbot

Diweddariad - Tan ym Mhort Talbot

Heddiw mae swyddogion rheoleiddio gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dychwelyd i safle tân gwastraff masnachol yn Heol y Doc, Port Talbot, a ddigwyddodd ar 29 Ebrill.

Mae swyddogion yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau bod y safle’n parhau i fod yn ddiogel ac i leihau unrhyw lygredd amgylcheddol wrth i’r digwyddiad symud i’r cyfnod adfer.

Cychwynnodd y tân ar 29 Ebrill, gyda chriwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn mynychu, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Mae cyfarpar symudol ar gyfer monitro ansawdd yr aer wedi’i roi ar waith dros nos ac mae’n parhau heddiw i asesu effaith y mwg ar ansawdd yr aer. 

Mae canlyniadau’r gwaith monitro’n dangos bod y crynodiadau o ronynnau (PM) yn “gymedrol” ac islaw’r lefel lle byddai disgwyl i’r boblogaeth gyffredinol brofi effeithiau iechyd pe byddent yn agored iddynt am 24 awr.

Mae asiantaethau partner wedi cynghori bod eu profiad o danau eraill yn awgrymu, er na ellir diystyru effeithiau niweidiol a hirdymor ar iechyd yn llwyr, bod y perygl y gallai hynny ddigwydd yn debygol o fod yn isel iawn.

Y cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o hyd ydy y dylai trigolion a busnesau lleol gadw eu ffenestri a’u drysau ynghau tra bod mwg yn bresennol, gan eu hagor eto pan fydd y mwg wedi clirio. Dylai unrhyw un sy’n teimlo’n sâl geisio cyngor meddygol priodol.