Cynigion i wella Coedwig Hafren er budd ymwelwyr a’r gymuned
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno cynlluniau i wella darpariaeth parcio a chyfleusterau i ymwelwyr yng Nghoedwig Hafren, ger Llanidloes.
Mae cais cynllunio yn cael ei ystyried gan Gyngor Sir Powys ar hyn o bryd.
Mae mwy o bobl wedi bod yn ymweld â'r goedwig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig oherwydd y diddordeb ynddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Er bod gwelliannau eisoes yn cael eu hystyried, mae'r cynnydd sydyn hwn yn nifer yr ymwelwyr yn golygu bod mwy o frys am gyfleusterau gwell.
Mae Coedwig Hafren yn lle hardd, a chanddi olygfeydd godidog a llwybrau y mae pobl wrth eu bodd yn crwydro ar eu hyd. Er hynny, mae'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn rhoi pwysau ar yr ardal leol.
Mae hyn yn effeithio ar drigolion a chymunedau lleol. Gall ffyrdd droi’n brysur iawn, ac mae rhai ymwelwyr yn parcio mewn mannau anniogel. Mae hyn wedi rhwystro mynediad i'r gwasanaethau brys, i drigolion ac i weithwyr. Rydym hefyd wedi gweld difrod i lwybrau a chynnydd mawr mewn sbwriel, sy’n niweidio’r amgylchedd.
Nod y gwelliannau a gynllunnir yw rheoli'r problemau hyn a gwneud ymweliadau'n fwy diogel a threfnus i bawb. Mae’r gwaith yn cynnwys:
- Ehangu'r maes parcio presennol i ddarparu 40 o fannau parcio safonol a phum man parcio i bobl anabl.
- Creu maes parcio gorlif newydd gyda 111 o fannau, gan gynnwys naw man i bobl anabl a phum man i gerbydau mawr er mwyn darparu ar gyfer y traffig ychwanegol sydd wedi bod yn achosi problemau ar y ffyrdd.
- Adeiladu toiledau newydd gyda chyfleusterau i ddynion, menywod a defnydd hygyrch, yn ogystal â lle newid babanod.
- Ychwanegu mannau i eistedd a chael picnic.
Yn ôl Nicola Maysmor, Arweinydd Tîm Rheoli Tir o CNC:
“Rydyn ni’n deall pam mae pobl eisiau ymweld â Choedwig Hafren, ond hefyd yn ymwybodol iawn bod cymunedau lleol yn teimlo’r effaith ar ffyrdd, ar eu bywydau bob dydd ac ar yr amgylchedd. Nid nod y gwelliannau hyn yw denu mwy o ymwelwyr, ond rheoli’r bobl sydd yn dod yma yn barod.
“Drwy wella mannau parcio a darparu cyfleusterau sylfaenol fel toiledau, lleoedd newid babanod a mannau picnic, rydym yn gobeithio y bydd pobl yn ymweld â’r goedwig mewn modd mwy diogel a pharchus. Bydd hyn yn ein helpu i reoli nifer yr ymwelwyr yn well a lleihau'r effaith ar y gymuned leol a'r amgylchedd.”
Os cymeradwyir y cynlluniau, disgwylir i’r gwaith ddechrau yn y gaeaf. Bydd y rhaglen waith yn cael ei chynllunio'n ofalus i sicrhau cyn lleied â phosib o aflonyddwch, a bydd cymunedau lleol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Gellir gweld y cais cynllunio llawn ar wefan Cyngor Sir Powys.