Rhannwch eich barn ar sut mae Coedwig Ceri yn cael ei rheoli ar gyfer natur, pobl a'r dyfodol

Coedwig Ceri

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd pobl i ddweud eu dweud ar ei gynlluniau i reoli a gwella Coedwig Ceri ym Mhowys.

Mae Coedwig Ceri yn cwmpasu ychydig dros 1,000 hectar ac mae'n cynnwys prif ardal ym Mryniau Sarn, ynghyd â choetiroedd llai fel Coed Gilfach, Fron Derw a Masons Bank.

Mae'r Cynllun Adnoddau Coedwig newydd yn nodi sut y bydd y goedwig yn cael ei rheoli yn y dyfodol, gyda ffocws ar wella natur a helpu'r goedwig i addasu i newid hinsawdd. Y nod yw creu coetir iachach, mwy naturiol a mwy gwydn.

Bydd y newidiadau arfaethedig yn cynnwys cynyddu nifer y coed llydanddail brodorol ac adfer ardaloedd pwysig o goetir hynafol. Mae'r ardaloedd hyn yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin a byddant yn cael eu rheoli'n ofalus i'w dychwelyd i gyflwr mwy naturiol dros amser.

Dywedodd Rob Marsh, Cynlluniwr Adnoddau Coedwig ar gyfer CNC:

“Mae’r cynllun hwn yn ymwneud â chreu coedwig sy’n well i fywyd gwyllt, pobl ac wedi’i pharatoi’n well ar gyfer y dyfodol.

“Drwy gynyddu nifer y coed brodorol a gwella cynefinoedd, gallwn helpu i amddiffyn y lle arbennig hwn wrth barhau i gynhyrchu pren cynaliadwy.

“Bydd y newidiadau hyn yn digwydd dros amser, ond byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i genedlaethau’r dyfodol.

“Rwy’n annog pobl i weld y cynllun drafft ar-lein a dweud eu dweud yn ein hymgynghoriad.”

Bydd coed yn parhau i gael eu rheoli ar gyfer pren cynaliadwy, tra bod camau'n cael eu cymryd i ddelio â chlefydau ac effeithiau newid hinsawdd drwy gynyddu'r cymysgedd o rywogaethau coed. Bydd mwy o goetir llydanddail hefyd yn cael ei sefydlu ar hyd afonydd i helpu natur a lleihau'r risg o lifogydd.

Disgwylir i ymwelwyr â Choedwig Ceri elwa o'r cynllun rheoli hefyd. Bydd CNC yn sicrhau bod y goedwig yn parhau i fod yn lle diogel a phleserus ar gyfer cerdded ac archwilio. Bydd y goedwig hefyd yn dod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, gan helpu i gysylltu mannau gwyrdd ledled y wlad.

Mae'r ymgynghoriad ar y Cynllun Adnoddau Coedwig ar agor tan 24 Mehefin. I weld mapiau a chynlluniau drafft, ac i ddweud eich dweud, ewch i'r ymgynghoriad ar-lein: https://bit.ly/CoedwigCeri

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru