Cynllun grant yn chwilio am atebion arloesol i ddraenio cynaliadwy
Mae ceisiadau yn agor ar gyfer cynllun grant newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gefnogi datblygiad atebion draenio cynaliadwy ar raddfa fach ac y gellir eu hôl-osod yng Nghymru.
Mae systemau draenio trefol cynaliadwy yn helpu i leihau llifogydd dŵr wyneb mewn ardaloedd adeiledig a lleihau dŵr ffo i afonydd a nentydd lleol. Mewn tirweddau gwledig, gall systemau draenio trefol cynaliadwy leihau llifogydd lleol a gwella ansawdd dŵr.
Maent yn defnyddio dull mwy naturiol o reoli llif, cyfaint ac ansawdd dŵr wyneb trwy gynnwys elfennau fel palmentydd athraidd, creu gwlyptir, suddfannau dŵr a gerddi glaw.
Pan fydd y rhwydwaith carthffosydd yn llenwi â dŵr glaw ac yn cael ei orlwytho, gall hyn arwain at orlifoedd storm yn gollwng carthion gwanedig i afonydd, nentydd a dyfroedd arfordirol.
Mae hyd at £300,000 ar gael yn y rownd hon o gyllid i ganiatáu i ymgeiswyr ymgymryd ag astudiaethau dylunio manwl i fynd i'r afael â phroblemau ar safleoedd presennol, gyda'r potensial i ddatblygu cynlluniau ôl-osod ar raddfa fach drwy grant cystadleuol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae CNC yn bwriadu cefnogi prosiectau rhwng £30,000 a £60,000.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y byddai eu prosiect yn defnyddio arloesedd i wella dulliau cyfredol, yn ogystal â dangos sut y byddent yn lleihau allyriadau carbon, yn gwella bioamrywiaeth ac yn darparu buddion iechyd a lles i'r gymuned leol.
Dywedodd Jill Howells, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol CNC ar gyfer y Rhaglen Cyfalaf Dŵr:
“Mae gan atebion draenio cynaliadwy rôl bwysig i'w chwarae o ran sut rydym yn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth gefnogi lles.
“Mae digwyddiadau glawiad dwys yn dod yn fwyfwy cyffredin, ac nid oes gan ein systemau draenio presennol y gallu i ymdopi â glawiad trwm.
“O ystyried hynny ynghyd â phoblogaeth sy'n tyfu a rhwydwaith carthffosiaeth sy'n heneiddio, mae angen brys i ddefnyddio atebion arloesol i leihau faint o ddŵr wyneb sy'n mynd i mewn i'n draeniau ac wedyn i’n hafonydd drwy orlifoedd storm.
“Yn ogystal â darparu atebion ymarferol i heriau trefol, gall y cynlluniau hyn chwarae rhan bwysig wrth leihau gwres trefol a llifogydd lleol, gwella ansawdd dŵr, creu cynefinoedd dyfrol gwerthfawr, a gwella mannau cyhoeddus o fewn ardaloedd trefol.”
Mae'r rhaglen grant yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos ar 31 Ionawr 2027.
Ceir manylion llawn am y cynllun a sut i wneud cais ar wefan CNC yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Grantiau a chyllid.
Mae CNC hefyd yn bwriadu cynnal dwy weminar lle gall darpar ymgeiswyr gael rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau am y broses. Gall pobl nodi eu diddordeb drwy'r dudalen we.