Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol yn gwreiddio yng Nghoedwig Gethin a BikePark Wales

Tair menyw yn beicio ar lwybr yn BikePark Wales

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a BikePark Wales wedi nodi carreg filltir bwysig yn eu partneriaeth wrth gwblhau Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol – cynllun arloesol i reoli Coedwig Gethin, ger Merthyr Tudful, at ddibenion hamdden a natur.

Yn ystod ymweliad diweddar â Choedwig Gethin, cartref BikePark Wales, bu Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC, Neil Stoddart, yn gweld gyda’i lygaid ei hun sut mae Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol (y Weledigaeth) yn trawsnewid rheoli coedwigoedd.

Mae’r Weledigaeth yn amlinellu fframwaith hirdymor ar gyfer rheoli’r goedwig i gefnogi bioamrywiaeth, hamdden, a choedwigaeth gynaliadwy. Mae’n ddull unigryw sy’n cydbwyso anghenion parc beiciau masnachol ffyniannus BikePark Wales â nodau ecolegol CNC.

Dywedodd Neil Stoddart, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy:

“Mae hon yn enghraifft wych o’r ffordd y gallwn gydweithio i gyflawni dros natur, pobl a’r economi.
“Mae Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol yn dangos sut y gall coetiroedd masnachol a chymunedol ffynnu ochr yn ochr, ac rwy’n falch o weld y dull arloesol hwn yn datblygu yng Nghoedwig Gethin.”

Mae’r Weledigaeth yn cwmpasu ardal o tua 300 hectar o goetir cymysg a thir agored. Bydd coedwigaeth gynaliadwy draddodiadol yn ategu nodau ecolegol a hamdden, gyda chefnogaeth cytundeb prydles 33 mlynedd gyda BikePark Wales.

Mae’r brydles hon yn rhoi incwm sefydlog i CNC i gefnogi’r amcanion hyn wrth ganiatáu i BikePark Wales weithredu’n ddidrafferth heb aflonyddwch torri coed ar raddfa fawr.

Mae amcanion allweddol y Weledigaeth yn cynnwys:

  • Cefnogi BikePark Wales i weithredu’n llwyddiannus.
  • Gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd, gan gynnwys adfer cynefinoedd coetiroedd brodorol a choridorau bywyd gwyllt.
  • Defnyddio technegau rheoli coedwigoedd sy’n blaenoriaethu dargadw tymor hir a’r ymyrraeth leiaf posibl.
  • Archwilio defnyddiau amgen ar gyfer pren a dulliau echdynnu amgen, fel torri a thrin coed â cheffylau.
  • Creu coedwig fwy cadarn sy'n gallu gwrthsefyll digwyddiadau tywydd eithafol fel stormydd, sychder a risgiau tân yn well.
  • Cynyddu gwasanaethau ecosystemau fel dal carbon a gwydnwch hinsawdd.

Dywedodd Martin Astley o BikePark Wales:

“Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth arloesol hon. Mae Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol yn caniatáu inni weithio’n agos ag CNC i helpu i adfer y goedwig i gyflwr mwy naturiol a gwydn wrth barhau i gynnig llwybrau o’r radd flaenaf.
“Rydym yn creu gardd goed, yn gwella bioamrywiaeth, ac yn archwilio ffyrdd newydd o reoli’r goedwig yn gynaliadwy. Mae'r cydweithio hyn yn golygu y gallwn fuddsoddi yn hyderus, ac mae gennym gynllun cyffrous iawn i dyfu a gwella'r parc beiciau. 
"Yr hyn rwy'n ei garu fwyaf am y Weledigaeth yw bod beicwyr mynydd yn cefnogi gwella'r amgylchedd lle maen nhw'n beicio, trwy ymweld â'r parc beicio yn unig. Mae'n enghraifft wych o sut y gall hamdden a chadwraeth fynd law yn llaw."

Mae’r Weledigaeth yn adeiladu ar lwyddiant y cytundeb prydles newydd a lofnodwyd yn 2024 ac yn dilyn arolwg ecolegol diweddar sy’n dangos bod yr ardal eisoes mewn cyflwr rhagorol ar gyfer ystod eang o rywogaethau. Mae cynllun rheoli cynefinoedd bellach yn cael ei ddatblygu i lywio gwelliannau yn y dyfodol.

Mae’r hyn mae Coedwig Gethin wedi’i gyflawni hefyd wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol. Rhannodd y goedwig fedal aur â Choed Cwningar yng nghystadleuaeth coetiroedd Sioe Frenhinol Cymru. Mae’r wobr yn dathlu cyfraniad rhagorol y goedwig at fynediad cymunedol, hamdden a bioamrywiaeth.

Ychwanegodd Neil Stoddart:

“Mae’r cyflawniad hwn yn tynnu sylw at gryfder ein cydweithiad â BikePark Wales a’n hymrwymiad cyffredin i reoli coedwigoedd yn gynaliadwy.
“Mae’n ddathliad o’r hyn sy’n bosibl pan gyfunir uchelgais ecolegol â mynediad a chyfleoedd hamdden gwell. Rydym am greu man gwyrdd sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth ac sy’n agored i bawb ei fwynhau.”