O Afon Menai i Aberdaugleddau: tystiolaeth newydd i helpu i amddiffyn bywyd gwyllt morol Cymru
O Aberdaugleddau i Afon Menai, mae tystiolaeth newydd yn helpu i fwrw golau ar lwybr cliriach tuag at ddiogelu rhai o gynefinoedd morol pwysicaf Cymru.
Mae ymchwiliadau manwl i dri chynefin morol gwarchodedig wedi rhoi dealltwriaeth newydd o’r pwysau sy'n effeithio ar fywyd gwyllt y môr ac wedi nodi camau gweithredu a allai helpu i wella amodau ar gyfer adferiad. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar gymunedau sbyngau yn Afon Menai a Bae Conwy, riffiau marchfisglod oddi ar Benrhyn Llŷn, a gwely maerl Aberdaugleddau – yr unig wely maerl byw y gwyddys amdano yng Nghymru.
Mae'r tair ardal wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy'n golygu eu bod yn cynnwys cynefinoedd a rhywogaethau sy'n bwysig ar lefel Ewropeaidd. Gyda'i gilydd, maent yn cynnal bywyd morol cyfoethog ac yn ffurfio rhan allweddol o rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.
Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr ymchwiliadau i ddeall beth sy'n achosi dirywiad yn y cynefinoedd ac i nodi ble gallai camau gweithredu wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Canfu'r astudiaethau nad oes unrhyw un math unigol o bwysau yn egluro'r newidiadau a welir. Yn hytrach, mae cyfuniad o ffactorau'n effeithio ar y cynefinoedd hyn, gan gynnwys llygredd maethynnau, gwaddodiad, aflonyddu ffisegol ar wely'r môr, rhywogaethau goresgynnol a newid hinsawdd. Er bod y pwysau'n amrywio rhwng safleoedd, mae'r canfyddiadau'n darparu tystiolaeth newydd werthfawr i helpu i dargedu camau cadwraeth a chefnogi adferiad.
Yn Aberdaugleddau, canfu'r ymchwiliad fod gwaddodiad a tharfu ffisegol hanesyddol yn debygol o fod wedi cyfrannu at ddirywiad y gwely maerl. Nododd hefyd rwystrau parhaus i adferiad, gan gynnwys gorfaethu, gwaddod crog, ewinedd moch goresgynnol a phwysau ehangach ar ansawdd dŵr.
Ym Mhen Llŷn a'r Sarnau, amlygodd yr ymchwiliad i’r riff marchfisglod effeithiau cyfunol, sef aflonyddwch ffisegol hanesyddol, amodau amgylcheddol newidiol a phwysau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer monitro a rheoli yn y dyfodol.
Yn Afon Menai a Bae Conwy, rhoddodd yr ymchwiliad i sbyngau fewnwelediad newydd i'r newidiadau amgylcheddol sy'n effeithio ar gymunedau sbyngau gwarchodedig, a fydd yn werthfawr wrth fonitro a rheoli'r cynefinoedd hyn yn y dyfodol.
Comisiynwyd yr ymchwiliadau yn dilyn asesiadau diweddaraf CNC o Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru. Cyhoeddwyd yr asesiadau y llynedd ochr yn ochr â’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR 2025), gan dynnu sylw at nifer o gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig lle roedd angen ymchwilio ymhellach i gael dealltwriaeth well o’r rhesymau dros y dirywiad yn eu cyflwr.
Meddai Andrea Winterton, Rheolwr Gwasanaethau Morol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi gwybod ers peth amser fod y cynefinoedd hyn yn wynebu amrywiaeth o bwysau, ac mae gwaith monitro wedi ein helpu i ddeall sut mae eu cyflwr yn newid. Mae'r ymchwiliadau hyn yn mynd gam ymhellach drwy wella ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n sbarduno'r newidiadau hynny a lle gall camau gweithredu gael yr effaith fwyaf. Mae'r astudiaethau'n rhan o waith ehangach CNC i wella cyflwr a gwydnwch ardaloedd morol gwarchodedig Cymru a chefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a’r hinsawdd.
“Drwy nodi’r pwysau sy’n dal y cynefinoedd hyn yn ôl, mae gennym gyfle gwell i gefnogi eu hadferiad a diogelu’r bywyd morol cyfoethog maen nhw’n ei gynnal. Maent yn rhan o'r dreftadaeth naturiol sy'n gwneud Cymru'n unigryw, a bydd y canfyddiadau'n ein helpu i weithio gyda phartneriaid i amddiffyn y lleoedd arbennig hyn ac adeiladu eu gwydnwch ar gyfer y dyfodol."