O’r dalgylch i’r arfordir: mynd i’r afael ag ansawdd dŵr ymdrochi gwael yn Ne Cymru

Person yn gwisgo siaced felen llachar a menig glas yn dal fiol fach a dropiwr wrth gasglu sampl dŵr ger lan laswelltog. Mae llystyfiant a nant fas i’w gweld mewn lleoliad gwledig.

Ar fore cynnes ar ddechrau’r haf, cyn i’r rhan fwyaf o bobl gyrraedd y traeth, mae Leon, swyddog yr amgylchedd i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn penlinio ar lan afon Ogwr yn llenwi potel samplu dŵr.

Mae’n gweithio’n drefnus, gan gynnal cyfres o brofion yn y fan a’r lle. Gan ddefnyddio offer cludadwy, mae’n chwilio am ddangosyddion megis lefelau amonia a ffosffad, ochr yn ochr â phrofion bacteria cyflym sy’n darparu canlyniadau o fewn munudau.

Gall y mesuriadau bach hyn dynnu sylw at broblemau llygredd a helpu i olrhain o ble y gallai fod yn dod.

O afonydd a nentydd i ollyngfeydd draenio, mae Leon yn symud ar draws y dalgylch gan ddilyn llif y dŵr a chwilio am gliwiau.

Mae’n rhan o Brosiect Dyfroedd Ymdrochi Canol De Cymru, ymdrech sy’n canolbwyntio ar ddeall pam mae ansawdd y dŵr yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio yn y Barri wedi’i ddosbarthu yn ‘wael’ o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a beth y gellir ei wneud i’w wella.

Ond mae deall ansawdd dŵr yn gofyn am fwy na chemeg yn unig.

Ychydig fetrau i lawr yr afon, mae ei gydweithiwr Karen, swyddog yr amgylchedd â chefndir mewn ecoleg, yn gweithio mewn ffordd wahanol.

Gyda rhwyd yn ei llaw, mae hi’n rhoi cic ysgafn i wely’r afon, gan darfu ar y cerrig o dan ei thraed. Mae pryfed bach yn symud i fyny i’r rhwyd. Gwybed Mai, pryfed pric a grwpiau eraill o bryfed na fyddai’r rhan fwyaf o bobl byth yn sylwi arnyn nhw’n cuddio o dan y cerrig.

Person yn gwisgo siaced felen llachar a menig glas yn dal fiol fach a dropiwr wrth gasglu sampl dŵr ger lan laswelltog. Mae llystyfiant a nant fas i’w gweld mewn lleoliad gwledig.

I Karen, maen nhw’n adrodd stori hirach.

“Mae’r pryfed hyn fel cofnod byw o’r afon,” meddai. “Dim ond mewn dŵr glân iawn y gall rhai oroesi; gall eraill oddef gwahanol fathau o lygredd. Drwy edrych ar yr hyn sydd yno a’r hyn sydd ar goll, gallwn ddeall yr hyn y mae’r afon wedi mynd drwyddo dros gyfnod o amser.
“Lle gall cemeg dŵr ddweud wrthych chi beth sy’n digwydd yn yr afon ar y foment honno, gall edrych ar y pryfed hyn ddweud wrthyn ni a oes unrhyw lygredd wedi mynd i’r afon dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Pan fyddwn ni’n dod o hyd i dystiolaeth o lygredd, gallwn weithio ein ffordd i fyny’r afon nes dod o hyd i’r pwynt lle mae bywyd pryfed yn dychwelyd i’r hyn y dylai fod, ac yna rydyn ni’n agosach at ddod o hyd i ffynhonnell y broblem.”

Gyda’i gilydd, mae Leon a Karen yn cyfuno eu dulliau arbenigol ag arsylwadau ar lawr gwlad i greu darlun cliriach o’r hyn sy’n digwydd ar draws y dalgylch.

Dyma lle mae’r gwaith i wella ansawdd dyfroedd ymdrochi yn dechrau. Nid yw’n dechrau ar y traeth, ond ar draws y system gyfan sy’n ei fwydo.

Dros y flwyddyn nesaf, byddan nhw’n gweithio ar draws y dalgylch, o nentydd ucheldir a thir fferm i drefi a’r arfordir, gan gyfuno ymchwiliadau manwl â sgyrsiau ar lawr gwlad. Byddan nhw’n defnyddio gwaith maes ac yn dadansoddi data i dargedu eu hymdrechion, gan gynnwys:

  • profi ansawdd dŵr, yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb
  • canfod lle mae llygredd yn mynd i mewn i afonydd a nentydd
  • nodi problemau draenio, gan gynnwys pibellau sydd wedi'u cysylltu yn anghywir
  • gweithio allan o ble mae bacteria niweidiol yn dod
  • gwirio pa mor iach yw afonydd trwy edrych ar y bywyd gwyllt ynddynt.

Ond nid rôl dechnegol yn unig sydd ganddyn nhw.

Drwy gydol yr haf, bydd Leon a Karen hefyd allan yn cwrdd â phobl ar draethau, ar hyd glannau afonydd ac mewn cymunedau lleol. Byddan nhw’n rhannu’r hyn maen nhw’n ei wneud ac yn clywed yn uniongyrchol gan y rhai sy’n adnabod y lleoedd hyn orau.

Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu dros dro ar draethau, sgyrsiau anffurfiol gyda thrigolion ac ymwelwyr, a gweithio gyda grwpiau fel pysgotwyr, syrffwyr a nofwyr i gasglu cipolwg lleol.

Meddai Leon:

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael profiadau o’r môr ar ddiwedd y daith.
“Ond mae’r hyn sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yn dechrau llawer ymhellach i fyny’r afon. Rydym yn ceisio cysylltu’r holl ddarnau hynny. Mae pob sampl, pob prawf a phob sgwrs yn ein helpu ni i greu darlun mwy clir o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd, a gall adroddiadau gan y cyhoedd wneud gwahaniaeth go iawn wrth ein helpu ni i ddeall beth sy’n digwydd.”

Gall cyfuniad o ffactorau effeithio ar ansawdd dŵr mewn dyfroedd ymdrochi, gan gynnwys glaw trwm, pwysau ar systemau draenio, llygredd o ardaloedd trefol, camgysylltiadau lle mae dŵr gwastraff yn mynd i mewn i’r pibellau anghywir, a dŵr ffo o dir ffermio.

Gan fod y materion hyn yn gysylltiedig, mae’r prosiect yn mabwysiadu dull dalgylch cyfan ac yn edrych y tu hwnt i’r traeth i ddeall y system ehangach.

Mae Prosiect Dyfroedd Ymdrochi Canol De Cymru yn cael ei arwain gan CNC a bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2027. Ei nod yw meithrin dealltwriaeth fanwl o ansawdd dŵr ar draws y dalgylchoedd, nodi o ble mae llygredd yn dod, a defnyddio’r dystiolaeth honno i lywio atebion ymarferol, hirdymor.

Ochr yn ochr â’r gwaith maes, mae’r prosiect yn dwyn ynghyd sefydliadau i weithio ar draw y dalgylch, gan gynnwys Dŵr Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bro Morganwg a Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Drwy rannu data, cysoni blaenoriaethau a chydlynu gweithgareddau, bydd y brosiect yn datblygu cynllun cydgysylltiedig ar gyfer gwella ansawdd dŵr.

Dywedodd Dav Letellier, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru ar gyfer CNC, yn siarad ar ran y sefydliadau dan sylw:

“Mae gwella ansawdd dyfroedd ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio yn her na all unrhyw sefydliad unigol ei datrys ar ei ben ei hun.
“Drwy gydweithio a rhannu’r hyn a wyddom, gallwn wneud mwy o gynnydd nag y gallai unrhyw un ohonom ar wahân. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i gynnwys rhanddeiliaid ehangach a gweithio gyda chymunedau lleol.”

Bydd pobl leol yn gallu cwrdd â’r tîm yn ystod misoedd yr haf mewn gweithgareddau ymgysylltu ar draws y dalgylch. Mae CNC yn annog unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n treulio amser yn yr ardal i gymryd rhan.

Ychwanegodd Dav:

“Os ydych chi wedi gweld llygredd, wedi sylwi ar newidiadau mewn afonydd, neu os oes gennych chi wybodaeth leol am ddraenio neu ansawdd dŵr, gallai eich mewnbwn chi wneud gwahaniaeth go iawn.
“Byddwn ni allan ar draws y dalgylch ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd eisiau rhannu eu profiad.”

Gall pobl hefyd chwarae rhan ymarferol wrth wella ansawdd dŵr drwy edrych am broblemau syml gartref, fel pibellau sydd wedi’u cysylltu’n anghywir, lle gallai dŵr gwastraff fod yn mynd i mewn i ddraeniau dŵr wyneb yn lle’r garthffos fudr. Ewch i wefan Dŵr Cymru am ragor o wybodaeth.

Anogir unrhyw un sy’n amau llygredd i roi gwybod amdano i CNC ar-lein neu drwy’r llinell gymorth digwyddiadau ar 03000 65 3000.

Mae arwyddion o lygredd i wylio amdanynt yn cynnwys:

  • Afliwiad llaethog, cymylog neu lwyd yn y dŵr
  • Pysgod marw neu mewn trafferth
  • Arogleuon carthffosiaeth neu gemegol cryf
  • Malurion sy’n gysylltiedig â’r toiled (weips gwlyb, nwyddau mislif)
  • Dŵr brown neu wyrdd yn llifo i nentydd o gaeau amaethyddol, yn enwedig ar ôl glaw trwm
  • Sglein tebyg i olew, ewyn gormodol, neu ewyn trwchus ar wyneb y dŵr

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, ewch i dudalen y prosiect.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru