Annog ffermwyr i baratoi wrth i’r tymor gwasgaru ddirwyn i ben
Er bod sawl rhan o Gymru yn parhau i brofi effeithiau cyfnod hir o dywydd sych, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn atgoffa ffermwyr a thirfeddianwyr fod y cyfnod yn nesáu pan waherddir gwasgaru slyri a mathau eraill o dail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd.
Mae cyfyngiadau gwasgaru ar waith dros fisoedd yr hydref a'r gaeaf o dan y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol. Pwrpas y cyfyngiadau yw sicrhau cyn lleied o lygredd amaethyddol ag sy’n bosibl drwy atal maetholion rhag cael eu colli yn sgil trwytholchi neu wrth i ddŵr ffoi oddi ar wyneb y tir i gyrsiau dŵr
Yng Nghymru, mae'r cyfnod gwaharddedig yn amrywio yn ôl y math o bridd a’r defnydd o’r tir. Ar gyfer priddoedd tywodlyd neu fas, gwaherddir gwasgaru o 1 Medi i 31 Rhagfyr ar laswelltir ac o 1 Awst i 31 Rhagfyr ar dir âr. Ar gyfer pob math arall o bridd, cynhelir y gwaharddiad o 15 Hydref i 15 Ionawr ar laswelltir ac o 1 Hydref i 31 Ionawr ar dir âr.
Anogir ffermwyr i sicrhau bod ganddynt ddigon o gapasiti storio i gydymffurfio â'r gofynion rheoleiddio a storio'r tail organig yn ddiogel drwy gydol y cyfnod gwaharddedig.
Dim ond y tu allan i'r cyfnod gwaharddedig y dylid gwasgaru tail organig, ond mae angen i ffermwyr hefyd ystyried y cynllun rheoli maetholion, a pheidio gwasgaru tail ond pan fo amodau’r tir a’r tywydd yn addas.
Mae rhoi tail organig ar dir sy’n llawn dŵr, dan lifogydd, wedi rhewi, neu wedi’i orchuddio ag eira, neu pan ragwelir glaw trwm, yn cynyddu’r risg y bydd maetholion gwerthfawr yn cael eu colli o’r caeau ac yn llifo i gyrsiau dŵr cyfagos, ac yn groes i’r rheoliadau.
Yn ôl Simon Griffiths, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd Amaethyddol Gogledd Cymru CNC: " Mae'r cyfnod gwaharddedig yn rhan bwysig o leihau'r risg o lygredd amaethyddol yn ystod misoedd gwlypach yr hydref a'r gaeaf.
“Rydym yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i gynllunio ymlaen llaw, sicrhau bod ganddynt ddigon o gapasiti storio, a pheidio gwasgaru tail organig ond pan fydd yr amodau’n addas.”
Mae CNC wedi ymrwymo i ddiogelu'r amgylchedd a bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i unrhyw achos o beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau ac i adroddiadau am lygredd. Os oes digon o dystiolaeth byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol.
Anogir ffermwyr ac aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau llygredd ar unwaith drwy gysylltu â chanolfan cyfathrebu digwyddiadau 24/7 CNC ar y ffurflen rhoi gwybod ar-lein neu drwy ffonio 0300 065 3000.