Ymestyn statws sychder ar draws Cymru gyfan wrth i'r amgylchedd barhau i deimlo'r straen
Gyda glawiad annigonol a thymheredd uchel parhaus dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r amodau amgylcheddol wedi parhau i ddirywio ledled Cymru, gan achosi i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymestyn ei ddatganiad sychder ar draws y wlad gyfan.
Gyda glawiad annigonol a thymheredd uchel parhaus dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r amodau amgylcheddol wedi parhau i ddirywio ledled Cymru, gan achosi i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymestyn ei ddatganiad sychder ar draws y wlad gyfan.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf , lle aeth gogledd Cymru i statws sychder ar ôl i fonitro amgylcheddol ddangos bod sbardunau a throthwyon ar gyfer sychder wedi'u bodloni.
Dengys ystadegau wedi’u diweddaru fod Cymru, yn ei chyfanrwydd, wedi derbyn dim ond 8% o gyfartaledd glawiad hirdymor mis Gorffennaf. Felly, mae disgwyl i’r mis hwn fod y Gorffennaf sychaf yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau 190 mlynedd yn ôl.
Bellach mae mwyafrif afonydd Cymru yn isel, neu'n eithriadol o isel ar afonydd Clwyd, Dyfi, Alun, Clywedog, Dyfi, Conwy, Cleddau, Cothi, Teifi, Gwy ac Wysg.
Mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng ledled Cymru, gyda rhai hefyd yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.
Mae timau CNC yn delio ag adroddiadau cynyddol o effeithiau pellgyrhaeddol ar yr amgylchedd, y tir ac ar weithgareddau amaethyddol.
Mae hyn yn cynnwys adroddiadau am welyau afonydd sych, pysgod mewn trafferthion, gordyfiant algâu, risg barhaus o danau gwyllt a phryderon gan y gymuned amaethyddol ynghylch tyfiant cnydau, amodau pori ac argaeledd dŵr i dda byw.
Mae dŵr ychwanegol wedi’i ryddhau o rai cronfeydd dŵr i gefnogi ecosystemau afonydd a physgodfeydd, ac mae rheolaethau tynnu dŵr a mesurau ymateb i sychder yn parhau i gael eu rhoi ar waith yn unol â Chynllun Sychder CNC.
Dywedodd Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC:
“Mae difrifoldeb y gwres, a’r diffyg eithriadol o law, yn golygu bod hwn yn ddarlun sy’n newid yn gyflym yng Nghymru. Mae ein timau'n monitro rhagolygon a llifoedd afon yn agos, ac yn ymateb i ddigwyddiadau a phryderon amgylcheddol cynyddol ar draws Cymru.
“Mae’r effaith ar yr amgylchedd, ein tirwedd a’r byd amaeth yn amlwg i’w gweld, gyda llawer o’n timau’n parhau i ddelio ag ôl-effeithiau tanau gwyllt helaeth sydd wedi dinistrio coedwigoedd, glaswelltiroedd a chynefinoedd arbennig.
“Heb unrhyw arwyddion cryf o lawiad sylweddol yn y rhagolygon, a risgiau o donnau gwres pellach dros yr haf, mae'n bwysicach nag erioed bod pawb ohonom yn defnyddio dŵr yn ddoeth. Mae pob diferyn rydyn ni'n ei wastraffu yn llai o ddŵr i'n hafonydd a'n bywyd gwyllt pan maen nhw ei angen fwyaf.”
Rhoddir datganiad o 'sychder' gan CNC pan fydd cyfuniad o ddangosyddion yn dangos prinder arwyddocaol o lawiad ac argaeledd dŵr, sy’n arwain at effaith ar afonydd, dŵr daear, ecosystemau, amaethyddiaeth a rheolaeth tir. Mae gan gwmnïau dŵr eu diffiniadau a’u trothwyon eu hunain ar gyfer sychder o ran cyflenwad dŵr cyhoeddus.
Mae timau sychder CNC yn parhau i gwrdd yn rheolaidd ac wedi cynyddu eu gweithgarwch monitro amgylcheddol ledled Cymru.
Mae'r sefydliad yn parhau i weithio'n agos gyda chwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac aelodau Grŵp Cyswllt Sychder Cymru i fonitro amodau a chydlynu ymatebion.
Gyda statws sychder wedi'i gyhoeddi ar gyfer llawer o ardaloedd yn Lloegr ddoe (29 Gorffennaf 2026), rydym yn cydgysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd o ran afonydd trawsffiniol fel Gwy a Dyfrdwy i sicrhau bod gennym ddarlun llawn o iechyd afonydd.
Wrth fwynhau'r awyr agored, gofynnir i bobl fod yn ymwybodol bod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan straen ychwanegol, ac i gymryd gofal ychwanegol i atal tanau. Dylai unrhyw un sy'n gweld tanau gwyllt symud i leoliad diogel a ffonio 999 ar unwaith. Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24 awr CNC ar 0300 065 3000.
Y mis diwethaf, lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyflenwad dŵr cyhoeddus gan gwmnïau dŵr yng Nghymru, ewch i wefannau Dŵr Cymru neu Hafren Dyfrdwy.
Ychwanegodd Rhian:
“Mae’r patrymau tywydd eithafol rydyn ni wedi’u gweld dros y 12 mis diwethaf yn enghraifft amlwg o effeithiau newid hinsawdd yma yng Nghymru a’r DU.
“Fel sefydliad, rydym eisoes yn cynllunio y bydd y mathau hyn o ddigwyddiadau yn dod yn amlach, a rhagwelir hafau poethach a sychach, a gaeafau gwlypach, yn dod yn norm.
“Mae hyn yn cynnwys ein cynllunio hirdymor ar gyfer sychder, rheoli risg llifogydd a sut rydym yn rheoli ein tir i allu gwrthsefyll risgiau tanau gwyllt a phlâu yn well yn y dyfodol.”