Dedfrydu Cyfarwyddwr am droseddau gwastraff bwriadol ar safle teiars yng Nghaerfyrddin
Mae cyfarwyddwr cwmni wedi cael ei ddedfrydu ar ôl cyfaddef ei fod wedi cyflawni dwy drosedd amgylcheddol a oedd yn gysylltiedig â gweithredu safle ailgylchu teiars ger Caerfyrddin.
Plediodd Mr Glyndwr Phillips, cyfarwyddwr GP Tyre Recycling Limited, yn euog i'r ddwy drosedd a ddygwyd yn ei erbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis, gan gynnwys 80 awr o waith di-dâl.
Roedd y troseddau’n ymwneud â derbyn, storio a thrin nifer uwch o deiars gwastraff na’r hyn a nodir yn amodau’r esemptiad. Cafodd niferoedd gormodol o wastraff teiars eu cadw ar y safle mewn modd anniogel gan gyflwyno risg tân sylweddol.
Dechreuodd ymchwiliad CNC yn 2022 yn dilyn adroddiadau fod gormod o deiars yn cael eu storio ar y safle. Er gwaethaf cynghorion, canllawiau a rhybuddion dro ar ôl tro gan CNC dros gyfnod o sawl blwyddyn, canfu archwiliadau fod niferoedd y teiars gwastraff yn parhau i gynyddu.
Erbyn mis Chwefror 2024, amcangyfrifodd CNC fod mwy na 100 tunnell o wastraff teiars yn cael ei storio ar y safle, a oedd yn llawer mwy na therfynau’r esemptiad, ac yn golygu bod y cyfleuster gwastraff yn gweithredu’n anghyfreithlon heb y drwydded amgylcheddol a oedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Roedd teiars a darnau o deiars yn cael eu storio heb y rhwystrau tân angenrheidiol, gan greu risg tân sylweddol a chodi pryderon ynghylch effeithiau posibl ar yr amgylchedd a chymunedau cyfagos.
Atgoffwyd Mr Phillips gan CNC ar sawl achlysur o amodau'r esemptiad ac, os byddai lefelau’r gwastraff yn parhau i gynyddu, y byddai angen iddo wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Er gwaethaf hyn, aeth Mr Phillips, yn fwriadol ac yn amlwg, y tu hwnt i derfynau’r esemptiad, gan gyflwyno risg tân. Hysbysodd Mr Phillips CNC y byddai'n gwneud cais am drwydded pan nad oedd ganddo unrhyw fwriad o wneud hynny a methodd â chydymffurfio â sawl hysbysiad gorfodi, heb ddarparu unrhyw reswm credadwy dros ei ddiffyg cydymffurfio.
Meddai Ed Davies, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff, CNC:
"Cafodd Mr Phillips ei hysbysu dro ar ôl tro am ei gyfrifoldebau cyfreithiol a'r risgiau a achosir gan storio gormod o deiars gwastraff ar y safle.
"Rhaid i fusnesau sy'n trin gwastraff nid yn unig ei reoli'n ddiogel, ond hefyd gynnal a darparu cofnodion cywir sy'n dangos o ble mae gwastraff wedi dod ac i ble mae wedi mynd.
"Mae methu â chyflwyno dogfennaeth drosglwyddo gwastraff pan fo hynny’n ofynnol yn atal rheoleiddwyr rhag gwirio bod gwastraff yn cael ei reoli'n gyfreithlon ac mae'n enghraifft ddifrifol o dorri rheolau dyletswydd gofal gwastraff.
"Drwy fethu â chymryd y camau angenrheidiol, fe wnaeth beryglu'r amgylchedd a'r gymuned leol.
"Mae'r ddedfryd hon yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau bwriadol hyn ac yn dangos na fydd CNC yn petruso cyn cymryd camau gorfodi pan fo deddfau amgylcheddol yn cael eu hanwybyddu."
Cafodd yr achos ei glywed yn Llys Ynadon Llanelli, ar 24 Medi. Derbyniodd y Barnwr Rhanbarth fod y troseddau yn rhai bwriadol.
Dyfarnodd y llys hefyd gostau llawn yr erlyniad o £11,035.50 i CNC, i’w talu ar gyfradd o £300 y mis, gyda’r taliad cyntaf yn ddyledus o fewn 28 diwrnod.
Daeth CNC â’r erlyniad yn dilyn ymchwiliad hir i weithgareddau ar y safle a methiannau dro ar ôl tro i gydymffurfio â gofynion amgylcheddol a hysbysiadau gorfodi.