Daniaid yn dotio at adfer mawndir Cymru

Roedd llwyddiant y gwaith o adfer mawndiroedd yng Nghymru wedi gwneud argraff fawr ar gynrychiolwyr o brosiect Cyforgorsydd LIFE Denmarc.

Mae adfer mawndiroedd yn fater byd-eang: os cânt eu gadael i ddiraddio, maent yn cyflymu newid hinsawdd; fodd bynnag, unwaith y cânt eu hadfer, dyma un o'r ffyrdd gorau o ddal carbon. Yr haf hwn, roedd tîm Cyforgorsydd Cymru LIFE yn falch o gael croesawu 11 o weithwyr mawndiroedd proffesiynol o Ddenmarc er mwyn arddangos llwyddiant eu gwaith o adfer corsydd Cymru hyd yma.

Ar ôl ymweld â dwy gyforgors eiconig yng Nghymru, Cors Caron a Chors Fochno, ym mis Mehefin, dywedodd Ole Ottosen, sy'n rheoli prosiect Cyforgorsydd LIFE Denmarc:

Roedd ein tîm o Ddenmarc yn falch iawn o gael dod i adolygu’r atebion arloesol ar gyfer adfer cyforgorsydd diraddedig yma yng Nghymru. Yn benodol, roedd y defnydd o’r dull adfer byndiau i weld yn addawol iawn, ac roeddem yn falch o weld y gellir gwrthbwyso’r effaith negyddol ar ecosystemau cyforgorsydd drwy ddefnyddio dulliau cymharol syml. Mae hyn yn newyddion da i'r rhagolwg cadwraeth ar gyfer ein gwaith prosiect LIFE mwyaf diweddar ar gyforgorsydd yn Nenmarc.

Eglurodd Rheolwr Prosiect Cyforgorsydd LIFE Cymru, Jake White:

Mae Cymru a Denmarc yn wynebu llawer o’r un problemau wrth warchod ac adfer cyforgorsydd o ran bygythiadau amgylcheddol megis gwaredu nitrogen a hydroleg wael. Mae dealltwriaeth gyffredin o’r bygythiadau hyn a sut i ddelio â nhw yn bwysig ar gyfer cadwraeth natur yn y dyfodol ac ar gyfer lliniaru effeithiau hinsawdd sy’n cynhesu.

Mynegodd yr ymwelwyr o Ddenmarc ddiddordeb mawr hefyd yn null Cyfoeth Naturiol Cymru o wneud y corsydd yn fwy hygyrch i’r cyhoedd trwy greu llwybrau a llwybrau pren, darparu byrddau gwybodaeth, a chynnal  gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu dull strategol Cymru gyfan ar gyfer adfer mawndiroedd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. Mae hyn yn ogystal â rheoli prosiectau adfer mawndiroedd pwrpasol LIFE, megis prosiect blaenorol Corsydd Môn a Llŷn, prosiect Cyforgorsydd Cymru, a phrosiect mwyaf diweddar Corsydd Crynedig.

Mae adfer mawndiroedd yn cyfrannu at yr ymdrechion cenedlaethol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Nod dull partneriaeth cydgysylltiedig Rhaglen Weithredu Cymru ar Fawndiroedd yw safoni gwaith monitro ac adrodd, cydweithio a chydgysylltu â rhanddeiliaid, a rhannu arferion da yng Nghymru a chyda phartneriaid ehangach yn y DU, Ewrop a thu hwnt.

Mae oddeutu 4% o Gymru wedi’i orchuddio â mawn, sef yr adnodd tir mwyaf gwerthfawr ar gyfer dal a diogelu carbon, o ystyried ei botensial i storio 30% o garbon tir Cymru. Mae oddeutu 90% o fawndir Cymru mewn cyflwr anffafriol oherwydd effeithiau megis draenio neu erydu. Yn y cyflwr hwn, caiff nwyon tŷ gwydr, sy’n cyfrannu at gyflymu newid hinsawdd, eu rhyddhau hyd nes y caiff y mawndir ei adfer.