Lansio asesiad risg newid hinsawdd Cwm Taf Morgannwg er mwyn helpu i ddiogelu cymunedau a busnesau

Golygfa o’r awyr o Bontypridd yn dangos Afon Taf yn rhedeg drwy ganol y dref, gyda rhesi o dai ar y ddwy ochr, adeilad modern â ffasâd gwydr a maes parcio ger yr afon, pontydd yn croesi’r dŵr, parc gyda choed ac ardal chwarae ar y dde, a bryniau gwyrdd yn y cefndir o dan awyr rhannol gymylog.

Heddiw mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Cwm Taf Morgannwg yn cyhoeddi Asesiad Risg Newid Hinsawdd (ARNH) newydd pwysig - carreg filltir gydweithredol yn cynnwys cyrff cyhoeddus, busnesau a grwpiau cymunedol.

Comisiynwyd yr ARNH annibynnol yn gynnar yn 2024, ac mae’n nodi 11 risg â blaenoriaeth o ran yr hinsawdd, y gallent gael effaith ddifrifol ar seilwaith lleol, gwasanaethau cyhoeddus a bywyd bob dydd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y canlynol:

  • Bygythiadau cynyddol o lifogydd Llifogydd mwy difrifol a mwy mynych yn achosi risgiau uwch i gysylltiadau trafnidiaeth, cymunedau a gwasanaethau iechyd.
  • Straen ar seilwaith: Ffyrdd, rheilffyrdd, pontydd, cyfleustodau, ynni, dŵr, bwyd a systemau TGCh oll yn wynebu sefyllfa fregus wrth i’r tywydd droi’n fwy eithafol.
  • Risgiau gwres a thanau gwyllt yn dod i'r amlwg: Hafau poethach a sychach yn cynyddu’r tebygolrwydd o danau gwyllt ac argyfyngau’n gysylltiedig â gwres.
  • Pwysau ar iechyd a gofal cymdeithasol: Gallai natur amrywiol yr hinsawdd darfu ar y gallu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gymhlethu’r ymateb i argyfyngau.
  • Parodrwydd sefydliadol: Mae angen mynd ati ar frys i ymwreiddio risg yr hinsawdd mewn cynlluniau busnes a pholisïau.

Mae'r BGC yn annog busnesau, sefydliadau cymunedol a chyrff cyhoeddus i ddefnyddio canfyddiadau'r adroddiad yn sail i:

  • Ymgorffori risg hinsawdd wrth gynllunio’n weithredol a strategol.
  • Cryfhau cydweithrediad â phartneriaid, cyllidwyr a llunwyr polisi.
  • Meithrin cymunedau a gwasanaethau gwydn drwy weithredu ar y cyd.

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan BGC Cwm Taf Morgannwg.

Bydd partneriaid y BGC a rhanddeiliaid ehangach yn defnyddio'r adnodd hwn i greu dull integredig o wella ac adeiladu ar wydnwch cymunedau a gwasanaethau. Crëwyd y grwpiau tasg i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau canlynol:

  • Cymunedau sy’n gwrthsefyll yr hinsawdd — gweithio gyda chymunedau i gynyddu’r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd drwy wybodaeth, cymorth ymarferol a dysgu’n barhaus am effaith tywydd difrifol a’r newid hinsawdd.  
  • Gwasgbwyntiau’r seilwaith — nodi lle mae ein seilwaith rhyngddibynnol wedi’i gydleoli, fel trydan, dŵr, cyfathrebu, trafnidiaeth, a deall y risg yn sgil hinsawdd y dyfodol, a sut y gallwn reoli’r risg honno’n well gyda’n gilydd.  
  • Y Tirlun Ôl-ddiwydiannol — nodi ble mae’r tirlun ôl-ddiwydiannol, gan gynnwys seilwaith a thomenni, yn wynebu’r risg fwyaf yn sgil y newid i’n hinsawdd, a sut y gallwn gydweithio i reoli’r risg honno’n well yn y dyfodol. 

Bydd y grŵp yn casglu tystiolaeth fanylach ac yn nodi cyfleoedd i gydweithredu er mwyn sicrhau bod cymunedau, seilwaith a gwasanaethau’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn well wrth iddo newid. Byddant yn adrodd yn rheolaidd i'r BGC, a bydd yr adroddiad blynyddol yn amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

Yn ôl Paul Mee, Cadeirydd BGC Cwm Taf Morgannwg:

“Mae’r newid hinsawdd yma, ac mae’n ail-lunio ein cymunedau yn barod. Drwy gydweithio, gallwn fynd i’r afael â’r cynnydd mewn llifogydd, tonnau gwres, a’r tarfu ar wasanaethau.  Mae'r adroddiad yn dangos i ble y mae angen cyfeirio ein hymdrechion nesaf.
“Rydym yn cydnabod yr her a ddaw wrth i’n hinsawdd newid, a bod angen cydweithredu drwy’r BGC a gweithio gyda’n cymunedau er mwyn gallu ymateb i’r her honno.
“Mae gan ranbarth CTM etifeddiaeth ryfeddol, gyda thirweddau hardd a chymunedau cryf sy'n cael eu siapio gan ein hanes ôl-ddiwydiannol. Mae gennym yr asedau gwych i adeiladu dyfodol gwydn, ffyniannus ar gyfer cenedlaethau i ddod
“Gyda'n gilydd, byddwn yn ymfyddino gan ddod â’n sgiliau a’n harbenigedd ynghyd, ac yn ymgysylltu ag uwch arweinwyr ar draws y Rhanbarth.” 

Gall busnesau a grwpiau cymunedol sy'n dymuno cymryd rhan a chael gafael ar ganllawiau ar gryfhau a gweithredu strategaethau gwydnwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan BGC Cwm Taf Morgannwg.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru