Cwmni yn rhoi £50,000 i ymddiriedolaeth afon ar ôl digwyddiadau llygredd ar Afon Taf

Glan afon gyda dŵr cymylog lliw golau a gwaddod yn cronni ar lan afon gerrig, wedi’i hamgylchynu gan gerrig llawn mwsogl, llystyfiant a malurion gwasgaredig.

Mae cwmni wedi rhoi £50,000 i elusen afonydd leol ar ôl i fethiannau o ran offer ac atal gollyngiadau arwain at ddigwyddiadau llygredd yn Afon Taf.

Mae PB Gelatins UK hefyd wedi talu £14,775 tuag at gostau ymchwilio a chyfreithiol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o Ymgymeriad Gorfodi.

Mae'r achos yn ymwneud â dau ddigwyddiad llygredd ym mis Ebrill ac Awst 2024 ar safle PB Gelatins UK ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, lle aeth elifion proses –  gwastraff hylifol a gynhyrchir yn ystod prosesau diwydiannol – i mewn i Afon Taf.

Canfu ymchwiliad CNC fod y llygredd o ganlyniad i fethiannau mewn systemau atal a mesurau rheoli cysylltiedig.

Ym mis Ebrill 2024, methodd adran o bibellau yn ystod y broses comisiynu, gan ganiatáu i elifion proses poeth ddianc i ddraen dŵr wyneb a oedd yn llifo i'r afon, gan arwain at farwolaeth pysgod.

Roedd digwyddiad arall ym mis Awst 2024 yn ymwneud â methiannau yn system bwmpio'r safle, gan arwain at elifiant yn dianc i'r rhwydwaith dŵr wyneb.

Ers hynny, mae PB Gelatins UK wedi rhoi'r gorau i weithredu ar safle Trefforest, felly nid oes risg o lygredd pellach o'r ffynhonnell hon.

Bydd y rhodd i Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yn helpu i gyflawni prosiectau adfer afonydd a gwella'r amgylchedd, gan gynnwys gwaith yn nalgylch Afon Taf.

Dywedodd Michelle Griffiths, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

"Gall digwyddiadau llygredd fel y rhain gael effeithiau difrifol ar ein hafonydd, bywyd gwyllt a'n hamgylchedd lleol.
"Mae'n hanfodol bod gan weithredwyr systemau cadarn ar waith i atal difrod ac ymateb yn gyflym pan fydd pethau'n mynd o'i le.
"Mae Ymgymeriadau Gorfodi yn helpu i sicrhau bod cwmnïau yn cymryd cyfrifoldeb am ddifrod amgylcheddol trwy wneud iawn a chefnogi prosiectau amgylcheddol lleol.
"Rydym yn disgwyl i bob gweithredwr gymryd eu cyfrifoldeb i ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru o ddifrif, a byddwn yn gweithredu’n ddi-oed pan fydd ein hymchwiliadau yn canfod achosion o dorri rheolau amgylcheddol."

Mae Ymgymeriad Gorfodi yn fath o sancsiwn sifil sydd ar gael i CNC o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Mae'n caniatáu i gwmnïau wneud iawn am ddifrod amgylcheddol trwy gyfrannu at brosiectau sydd o fudd uniongyrchol i'r amgylchedd.

Mae CNC yn cadarnhau bod yr holl gamau gweithredu a nodir yn yr ymgymeriad wedi'u cwblhau'n llawn, gyda Thystysgrif Cwblhau wedi'i chyhoeddi ar 26 Mai 2026. Cafodd ei drafod a'i gwblhau gan Katherine Lingley a Jane Chapman, Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol CNC, ar y cyd â Martha Smith-Higgins o Apex Chambers.

Dylid rhoi gwybod am achosion tybiedig o lygredd i CNC yn gyflym ar-lein neu drwy ffonio ei linell ddigwyddiadau 24 awr ar 03000 65 3000.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru