Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn achosi gwerth mwy na £100,000 o ddifrod mewn coetiroedd ar draws de ddwyrain Cymru

Wal gerrig wedi'i difrodi mewn coetir

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghost ariannol atgyweirio difrod a achoswyd yn fwriadol i ffensys mewn coedwigoedd a choetiroedd ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwy ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae CNC yn rheoli tua 8,744 ha o dir yn ne ddwyrain Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae swyddogion yn amcangyfrif bod gweithgareddau gwrthgymdeithasol wedi achosi tua £120,000 mewn costau i atgyweirio ffiniau, yn enwedig ffensys sydd wedi’u torri neu eu difrodi ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Mae swyddogion wedi adrodd bod coetir St James ger Tredegar, wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau o'r fath yn ddiweddar, gan gynnwys achos o ddwyn giât mochyn yn ddiweddar.

Mae torri neu ddifrodi ffensys mewn coedwigoedd yn fwriadol yn anghyfreithlon, a gall achosi risg difrifol i ddiogelwch pobl, yr amgylchedd a bywyd gwyllt lleol trwy:

  • Atal ymwelwyr rhag cael eu hamddiffyn rhag ardaloedd o'r coetir a allai fod wedi'u ffensio am resymau iechyd a diogelwch.
  • Cynyddu’r risg y bydd da byw yn dianc ar briffyrdd ac ardaloedd preswyl a allai achosi niwed i’r cyhoedd, yr anifeiliaid, a bywoliaeth ffermwyr
  • Cynyddu'r risg o dipio anghyfreithlon a gweithgareddau gwrthgymdeithasol eraill
  • Caniatáu mynediad i gerbydau oddi ar y ffordd sy'n cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth a bywyd gwyllt

 Dywedodd Jo-Anne Anstey, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae ein coedwigoedd yn fannau hamdden gwych ac mae bob amser yn wych gweld cymaint o bobl yn mynd allan i'r awyr agored ac yn mwynhau'r coetiroedd a'r gwarchodfeydd natur hardd rydyn ni'n helpu i ofalu amdanyn nhw ledled Cymru.
Yn anffodus, dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y ffensys terfyn yn ein coetiroedd sydd wedi’u torri neu eu difrodi’n fwriadol.
Rydym yn cynnal tua 400 milltir o ffensys yn ein coetiroedd ar draws de ddwyrain Cymru, sy’n hanfodol i’n helpu i gadw ymwelwyr â’n coedwigoedd yn ddiogel, yn ogystal â diogelu coed sydd newydd eu plannu rhag cael eu difrodi.
Mae'n dorcalonnus pan fo difrod bwriadol yn cael ei achosi.  Mae ailosod ffensys yn cymryd llawer o amser ac yn gostus - adnoddau y gellid eu gwario'n llawer gwell trwy eu hail-fuddsoddi yn ein coedwigoedd a'n coetiroedd.
Rydym yn annog pobl i’n helpu i gadw ein coedwigoedd a’n coetiroedd yn ddiogel i bawb – os gwelwch unrhyw un yn difrodi ffensys ar dir rydym yn ei reoli, ffoniwch yr heddlu ar 101 gyda’r dyddiad, amser, lleoliad a disgrifiad o’r difrod.

Gallwch hefyd roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i Heddlu Gwent drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu X, sef Twitter gynt, ar-lein yn www.gwent.police.uk neu drwy e-bost contact@gwent.police.gov.uk

Gellir hefyd e-bostio adroddiadau at CNC ynghyd â chyfeirnod yr heddlu at forestsandnaturesoutheast@naturalresourceswales.gov.uk