Rhyddhau dŵr ychwanegol i gefnogi Afon Tywi yn ystod y tywydd sych
Mae dŵr ychwanegol wedi’i ryddhau o Gronfa Ddŵr Llyn Brianne i gefnogi llifoedd, poblogaethau pysgod a chynefinoedd Afon Tywi.
Gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru i’r dŵr ychwanegol gael ei ryddhau oherwydd llif isel yr afon o ganlyniad i’r amodau sychder a thymheredd uchel parhaus. Dechreuodd Dŵr Cymru ar y gwaith ddydd Gwener 31 Gorffennaf.
Ar rai afonydd, fel Afon Tywi, mae trefniadau ar waith sy'n caniatáu i ddŵr ychwanegol gael ei ryddhau o gronfeydd dŵr i gefnogi poblogaethau pysgod a'r amgylchedd dyfrol ehangach lle asesir bod hyn o fudd.
Bydd dŵr yn cael ei ryddhau o fanc dŵr y pysgodfeydd, cronfa ddŵr sydd wedi’i neilltuo’n benodol i gefnogi cyflwr afonydd pan fo angen. Bydd yn cynyddu tua 50% ar y llif i lawr yr afon o bwynt tynnu dŵr Nantgaredig yng Nghapel Dewi, am gyfnod o 30 diwrnod.
Bydd lefel cymharol isel o ddŵr yn cael ei ryddhau o'i gymharu â'r hyn a gaiff ei ryddhau weithiau yn ystod y gwanwyn a'r hydref i gefnogi pysgod sy’n mudo, ac mae pysgotwyr lleol a grwpiau cadwraeth wedi cael eu hysbysu.
Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw bryderon ynghylch lefelau storio dŵr yng Nghronfa Ddŵr Llyn Brianne. Mae digon o ddŵr ar gael o hyd i fodloni'r galw gan gwsmeriaid a'r rhwymedigaethau i'r amgylchedd.
Dywedodd Dave Charlesworth, Arbenigwr Arweiniol Pysgodfeydd Dŵr Croyw Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae'r tywydd sych rydyn ni’n ei gael ar hyn o bryd wedi arwain at lif afon isel hirfaith, a all roi pwysau ychwanegol ar bysgod a bywyd gwyllt arall sy'n dibynnu ar afonydd iach.
“Rhagofal yw’r dewis hwn i ryddhau dŵr, a bydd yn helpu i wella cyflwr Afon Tywi, gan gynyddu’r llif yn gymedrol, ond yn barhaus.
“Rydyn ni’n fwriadol wedi mabwysiadu dull gofalus. Er y bydd rhyddhau dŵr yn helpu i gefnogi'r afon a'i phoblogaethau o bysgod nawr, mae hefyd yn bwysig ein bod yn cadw digon o ddŵr ym manc dŵr y pysgodfeydd pe bai angen rhagor o gefnogaeth amgylcheddol yn nes ymlaen yn y flwyddyn”.
“Byddwn ni’n parhau i fonitro cyflwr yr afon yn agos, ac yn adolygu'r sefyllfa ar ôl 30 diwrnod i benderfynu a fyddai o fudd i ni ryddhau rhagor o ddŵr.”
Mae CNC yn parhau i fonitro cyflwr afonydd yn agos ac mae'n annog pawb i ddefnyddio dŵr yn ddoeth yn ystod y tywydd sych, er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar afonydd a'r amgylchedd ehangach.
Ewch i www.letssavewater.cymru i gael gwybodaeth a chyngor ynglŷn ag arbed dŵr. Mae rhagor o gyngor ar gael gan Waterwise hefyd.