Erlyn dyn o Aberaeron am bysgota â rhwyd anghyfreithlon yn harbwr y dref

Llun thermol o ddyn yn tynnu rhwyd pysgota o afon

Mae dyn wedi cael ei ddyfarnu'n euog o bysgota â rhwyd yn anghyfreithlon, heb drwydded, yn Harbwr Aberaeron, Ceredigion, ar ôl erlyniad llwyddiannus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Ymddangosodd Callum Matthewson, o Aberaeron, gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Mercher, 30 Medi 2026, wedi'i gyhuddo o ddefnyddio rhwyd ddrysu anghyfreithlon i ddal pysgod yn Afon Aeron heb yr awdurdodiad angenrheidiol, a heb drwydded bysgota ddilys (Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975).

Plediodd yn euog a chafodd ei ddedfrydu i 10 diwrnod o adsefydliad cymunedol ac 85 awr o wasanaeth cymunedol, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £1000 i CNC a gordal dioddefwr o £114.

Mae'r ddedfryd a osodir am droseddau amgylcheddol yn cael ei bennu gan y llysoedd ac mae'n adlewyrchu ffactorau fel lefel y niwed a achoswyd, euogrwydd y troseddwr, ac amgylchiadau'r achos.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad gan CNC yn dilyn adroddiad dienw ar 24 Chwefror 2026 bod rhwyd wedi'i gosod ar draws sianel afon Aeron.

Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Rheoleiddio a Gorfodi Gwastraff CNC:

"Rydym yn croesawu'r ddedfryd llys hon, a'r ple euog, gan Mr Matthewson.
"Mae defnyddio rhwydi drysu yn anghyfreithlon. Gallant ddal rhywogaethau pysgod mudol, gan gynnwys eog a brithyll y môr, a gallant hefyd beri risg i fywyd gwyllt eraill.
"Nid oes unrhyw drwydded ar gael sy’n awdurdodi cymryd eogiaid neu frithyllod y môr gan ddefnyddio’r dull hwn yn Afon Aeron, nac unrhyw afon arall yng Nghymru.
"Mae pysgota anghyfreithlon yn peri risg i stociau pysgod dan fygythiad, ac yn tanseilio'r mesurau a roddwyd ar waith i amddiffyn afonydd ac aberoedd Cymru.
"Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi lle ceir tystiolaeth bod deddfwriaeth pysgodfeydd wedi'i thorri."

Ymwelodd Swyddogion Gorfodi Pysgodfeydd CNC â'r harbwr ar 24 Chwefror, a dod o hyd i raff ynghlwm wrth bostyn metel ar wal yr harbwr sy'n arwain i'r dŵr.

Roedd fflotiau, a oedd yn gyson â'r rhai a ddefnyddir ar rwyd ddrysu, i'w gweld yn ymestyn ar draws y sianel.

Am tua 1am ar 25 Chwefror, gwelwyd dyn yn agosáu at leoliad y rhwyd a dechreuodd ei thynnu o'r dŵr.

Pan gafodd ei herio gan swyddogion pysgodfeydd CNC, rhedodd y dyn o'r lleoliad, cyn cael ei stopio gan swyddog arall. Cafodd ei adnabod fel Mr Matthewson.

Cipiodd swyddogion CNC y rhwyd, a oedd tua 25 metr o hyd ac yn gallu ymestyn ar draws lled sianel afon Aeron. Cafodd dwy leden fyw eu hadfer o'r rhwyd a'u dychwelyd i'r dŵr.

Gall pysgota heb drwydded, neu y tu allan i dymhorau a ganiateir, achosi niwed hirdymor i boblogaethau pysgod, yn enwedig rhywogaethau gwarchodedig fel eog, siwin (brithyll y môr) a brithyll.

Mae staff gorfodi o CNC yn cynnal gwiriadau rheolaidd ac yn ymateb i adroddiadau am bysgota anghyfreithlon ledled Cymru. Mae perygl i droseddwyr gael eu herlyn, gael dirwy a chael atafaelu eu hoffer.

Gall unrhyw un sy'n amau pysgota anghyfreithlon roi gwybod amdano i CNC ar-lein yn cyfoethnaturiol.cymru/rhowchwybod  neu drwy ffonio ei linell digwyddiadau 24/7 ar 0300 065 3000.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru