Ffermwr Adfywiol Arloesol o Mississippi yn dod i Gymru
Mae un o awdurdodau pennaf y byd ar bori addasol a dulliau adfywiol o reoli tir wedi ymweld â Chymru i rannu ei wybodaeth am ei arferion a’i egwyddorion ffermio profedig.
Dr. Allen Williams oedd y prif siaradwr gwadd mewn digwyddiad a drefnwyd gan Innersense Consultants a phrosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghanolfan Ymchwil Amaethyddiaeth (ARC) Gelli Aur ger Llandeilo ym mis Gorffennaf 2026.
Mae ei waith wedi helpu i drawsnewid miliynau o erwau yn fyd-eang drwy roi ar waith gyfundrefn pori addasol, adfer iechyd y pridd, integreiddio da byw, a systemau proffidioldeb ffermydd adfywiol.
Mae amaethyddiaeth adfywiol yn system o ffermio sy’n gweithio gyda natur i wella iechyd y pridd, lleihau costau busnes fferm a chynyddu elw’r fferm, gan hefyd ddarparu amrywiaeth o fuddion amgylcheddol.
Nod Dr. Williams yw helpu i feithrin ffermydd gwydn a phroffidiol yn wyneb y newidiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd lluosog sy’n wynebu’r diwydiant.
Yn y digwyddiad, trafododd Dr. Williams ei brofiad o ffermio ymarferol, a rhoddodd drosolwg o’r ymchwil wyddonol y mae’n ei harwain ym Mississippi ac ar draws UDA.
Y nod yw deall sut gellid mabwysiadu dulliau ffermio adfywiol ar draws Cymru i helpu i amddiffyn a gwella’r amgylchedd naturiol.
Dywedodd Dr. Williams:
“Rwyf wrth fy modd o gael bod yma yn y DU yn rhannu fy mhrofiad o ffermio adfywiol. Rwy’n ffermwr teulu chweched cenhedlaeth ac mae gen i dros 40 mlynedd o brofiad yn y maes hwn.
“Mae manteision ffermio adfywiol yn siarad drostynt eu hunain ac rwy’n gobeithio ysbrydoli mwy o ffermwyr yng Nghymru i ddechrau meddwl yn wahanol, a hebrwng oes newydd o amaethyddiaeth adfywiol i mewn a all arwain at ffermydd mwy cynhyrchiol, proffidiol a gwydn ar hyd a lled Cymru.”
Mae i ffermio adfywiol amrywiaeth o fanteision amgylcheddol, o ddal carbon i fwy o ddeunydd organig yn y pridd, mwy o fioamrywiaeth a gwell ansawdd dŵr.
Mae ffermio adfywiol hefyd yn lleihau neu’n dileu’r defnydd o fewnbynnau drud fel gwrtaith a phlaladdwyr.
Dywedodd Chris Thomas o brosiect Pedair Afon LIFE:
“Mae gan Dr. Williams gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ymarferol, ac mae ei ffyrdd o weithio yn adlewyrchu’r hyn yr ydym ni fel prosiect wedi bod yn ei hyrwyddo dros y blynyddoedd diwethaf.”
Dywedodd Lilwen Selina Joynson o Innersense Consultants:
“I ni, nod y digwyddiad hwn oedd dod â ffermwyr ynghyd i ddysgu, rhannu profiadau a chlywed yn uniongyrchol gan rywun â chyfoeth o wybodaeth ymarferol a phrofiad rhyngwladol.”
“Mae gan amaethyddiaeth adfywiol y potensial i gynnig buddion i’r system gyfan, o briddoedd iachach a ffermydd mwy gwydn i gymunedau gwledig cryfach, manteision amgylcheddol ac i’r bobl sy’n dibynnu yn y pen draw ar y bwyd y mae ein ffermwyr yn ei gynhyrchu.”
Cynigiodd y digwyddiad hefyd gyfle i’r mynychwyr ymweld â ffermydd lleol yng Nghymru ble mae arferion ffermio adfywiol eisoes yn cael eu rhoi ar waith.
Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
I gael gwybod mwy am Libertas Land ewch i wefan Libertas Land – Libertas Land