Prosiect seiliedig ar natur yn dod â newidiadau mawr i afon yn Sir Gaerfyrddin

Strwythurau pren mawr yn Afon Dunant.

Mae Afon Dunant ger Llanymddyfri wedi’i hadfer i lifo’n fwy naturiol diolch i brosiect creadigol i adfer cynefinoedd.

Yn ddiweddar, mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau gwaith adfer cynefinoedd ar Afon Dunant, llednant yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Tywi.

Yr haf hwn, adferwyd rhan 700 metr o’r afon i wella cynefin yr afon, adfer gweithrediad yr ecosystem, a sicrhau buddion o ran rheoli llifogydd yn naturiol.

Y nod oedd efelychu prosesau naturiol drwy gwympo coed ar y lan i’r dŵr, a thrwy hynny wella’r cynefin yn y sianel, cynyddu cysylltedd y gorlifdir, creu cynefin gwlyptir, a chadw mwy o ddŵr yn ôl ar y gorlifdir.

Mae darnau mawr o bren yn brin yn afonydd Cymru am nad oes digon o goetir ar y glannau, a hefyd yn sgil carthu yn y gorffennol a’r presennol. Mae coed wedi cwympo mewn sianeli afonydd yn aml yn cael eu tynnu o’r afon os ydynt yn cynyddu perygl llifogydd posibl i eiddo. Fodd bynnag, mae arbenigwyr amgylcheddol bellach yn deall y gall pren yn y lle iawn fod yn un o gynhwysion hanfodol system afon iach.

Gan weithio ochr yn ochr â chontractwyr ar ardal o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ger Llanymddyfri, crëwyd 19 strwythur pren mawr ar hyd yr afon, gan efelychu cwymp coed naturiol mewn stormydd.

Mae Peter Jones o brosiect Pedair Afon LIFE yn egluro:

“Cafodd coed eu cwympo gyda’u gwreiddiau ynghlwm a’u hangori yn erbyn coed sy’n sefyll ar y lan i’w hatal rhag symud mewn llifogydd.”
“Mae ychwanegu coed i’r afon yn newid y llif ac yn cynyddu’r amrywiaeth o gynefinoedd. Mae pren yn helpu i ddal graean ac yn helpu dŵr i dreiddio, gan wneud mwy o le i rywogaethau pwysig fel eogiaid a brithyllod.”

Mae pren yn cynnig bwyd hanfodol i infertebratau’r afon ac yn rhoi lleoedd i bysgod guddio rhag ysglyfaethwyr. Mae’r strwythurau pren yn helpu i godi gwely’r afon yn ôl i’w uchder naturiol o fewn y gorlifdir.

Cafodd dwy sianel eu cloddio i’r glannau hefyd er mwyn annog yr afon i lifo allan dros y gorlifdir. Cafodd sawl ffos a wnaed gan ddyn eu blocio i arafu’r llif a dal mwy o ddŵr yn ôl ar y tir.

Yn ogystal, fe adeiladodd y tîm ddau strwythur dros y sianel, a ddyluniwyd i efelychu gwaith afancod gwyllt. Mae’r rhain yn gweithio i ddal y dŵr yn ôl, gan godi’r lefel trwythiad a lefelau gwely’r afon.

Gall y pyllau a grëwyd i fyny’r afon o’r strwythurau hyn, sy’n debyg i argaeau afancod, wella bioamrywiaeth yn lleol. Gall yr argaeau wella ansawdd y dŵr i lawr yr afon trwy ddal gwaddod mân. Mae yna fudd hefyd i’r strwythurau hyn o ran rheoli llifogydd yn naturiol, gan eu bod yn dal dŵr yn ôl ac yn ei ryddhau’n raddol pan fo’r llif ar ei anterth.

Bydd y cyfuniad o’r strwythurau pren mawr, argaeau afanc, sianeli a blocio ffosydd yn gwella cynefinoedd ac yn adfer prosesau naturiol. Bydd yn fwy gwlyb ac yn gyfoethocach o ran bioamrywiaeth ac yn fwy gwydn yn wyneb llifogydd a sychder.

Ychwanegodd Peter Jones:

“O ystyried effeithiau newid hinsawdd, mae angen addasu sut rydym yn rheoli tir ac afonydd yng Nghymru. Mae prosiect Afon Dunant yn dangos sut gall gwneud ymyriadau syml a rhad wella gwydnwch yn wyneb llifogydd a sychder gan hefyd wella ansawdd cynefinoedd.
“Rydym yn diolch i’n cydweithwyr coedwigaeth am eu cefnogaeth wrth gyflawni’r prosiect ac edrychwn ymlaen at gyflawni mwy o gynlluniau fel hyn ar y tir sydd dan ein gofal.”

Bydd prosiect Pedair Afon LIFE yn monitro canlyniadau’r gwaith dros y blynyddoedd nesaf.

Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru