Troi amser yn ôl drwy adfer afon Tywi

Golygfa o'r awyr o waith adfer yn Dinefwr – credyd: Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae gwaith i adfer hen ystumiau afonydd hanesyddol ac ystumllynnoedd prin bellach wedi'i gwblhau ar orlifdir Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Parc Dinefwr ger Llandeilo.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Ninefwr i adfer Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA ) Afon Tywi a'i chynefinoedd cysylltiedig.

Mae'r dŵr llonydd a'r llystyfiant ymylol yn y prif ystumllynnoedd yn Ninefwr yn nodweddion cymhwyso Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Mae ystumllynnoedd yn sianeli afonydd hynafol segur, a adawyd ar ôl wrth i afon Tywi ymdroelli ar draws ei gorlifdir dros amser.

Mae'r ystumllynnoedd hefyd yn nodedig am eu pryfed dyfrol a'u planhigion prin fel y Dinboeth Fach (Persicaria minor) a'r Chwysigenddail (Utricularia australis).

Ym mis Chwefror eleni, cynhaliodd contractwr lleol waith rheoli ysgafn ar ddau ystumllyn i warchod y nodweddion pwysig hyn. Roedd hyn yn cynnwys cael gwared ar goed helyg a chynffon-y-gath a oedd yn ymledu'n sylweddol i'r cynefinoedd dŵr agored.

Gwnaed gwaith mwy sylweddol ar bum nodwedd afon hynafol a chrëwyd un pant neu ‘grafiad’ newydd. Bydd hyn yn helpu i adfer y sianeli afon hanesyddol ar draws y safle i gynyddu cynefinoedd dŵr agored ar y safle, gan ategu'r prif ystumllynnoedd.

Mae dros 60 hectar o laswelltiroedd gorlifdir ehangach ar y safle hefyd yn cael ei adfer trwy reolaeth sensitif, gan gynnwys torri gwair blynyddol a defnyddio gwartheg i bori’r adladd.

Bydd y gwaith hwn yn gwella'r mosaig o gynefinoedd dŵr agored ar y safle, gan ddarparu ystod amrywiol o gynefinoedd gwlyptir a chefnogi amrywiaeth gyfoethog o blanhigion a phryfed y gwlyptir, ac adar gwyllt sy'n gaeafu.

Meddai Leila Thornton o Brosiect Pedair Afon LIFE:

“Bydd y gwaith hefyd yn gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau allweddol fel y dyfrgi, y mae Dinefwr yn safle hynod bwysig ar ei gyfer.”
“Ymhen blwyddyn byddem yn gobeithio gweld y pyllau’n llenwi â bywyd dyfrol, gan gynnwys mursennod a gweision y neidr, ac yn darparu bwyd a lloches i adar mudol yr haf ac adar gwyllt sy’n gaeafu fel y gorhwyaden a’r chwiwell.”

Dai Hart, Rheolwr Gerddi ac Awyr Agored Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Ninefwr:

“Mae’r ystumllynnoedd yn gynefinoedd prin a phwysig ac ar un adeg roeddent yn gyffredin ac i’w cael yn aml o fewn systemau afonydd iseldir, ond mae sythu afonydd a llenwi hen sianeli yn golygu bod nodweddion o’r fath bellach yn brin, sy’n gwneud ystumllynnoedd yn Ninefwr yn nodweddion gwerthfawr ar y safle.”

Mae ACA Afon Tywi yn cynnal rhywogaethau pysgod pwysig fel y penlletwad, llysywen bendoll y môr, herlod a gwangod, ac mae ganddi un o'r mudiadau mwyaf o frithyll môr yng Nghymru.  Mae hefyd yn ardal fwydo a bridio bwysig i ddyfrgwn.

Mae cyngor ar reoli ac adfer glaswelltir dolydd y gorlifdir wedi'i roi gan Bartneriaeth y Dolydd Gorlifdir.

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru sy’n gofalu am orlifdir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Parc Dinefwr ac mae'n rhan o Safle SoDdGA Ystad Dinefwr a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystad Dinefwr.

Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Gwyliwch fideo am y gwaith yma https://youtu.be/fWlmEH9QwCw

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru