Gwaith adfer sylweddol yn gwella cynefin hanfodol ar afon yn Sir Benfro
Mae rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Cleddau wedi’i hadfer gan brosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ailgyflwynwyd 500 tunnell o glogfeini i 650 metr o Afon Wern – llednant allweddol i ACA Afon Cleddau, gyda’r nod o wella cynefin yr afon, cefnogi bywyd gwyllt ac adfer mwy o brosesau naturiol yr afon.
Mae’r rhan hon o Afon Wern wedi dioddef ar ôl carthu yn y gorffennol, ac mae arolygon o’r afon gan staff wedi cadarnhau hyn, gan fod y clogfeini a oedd wedi’u tynnu wedi’u canfod ar hyd glan yr afon.
Dros yr haf, gosododd contractwyr y clogfeini yn ôl yn sianel yr afon yn ofalus. Bydd y clogfeini hyn yn torri llif yr afon, gan gynyddu cymhlethdod cynefinoedd a chreu microgynefinoedd amrywiol i bysgod a mathau eraill o fywyd gwyllt.
Mae clogfeini’n chwarae rhan bwysig mewn systemau afonydd iach, gan greu patrymau llif gwahanol a darparu pyllau, lloches a chynefin i bysgod ac infertebratau dyfrol. Mae clogfeini hefyd yn dal yn ôl y graean y mae ei angen ar bysgod i silio.
Yn ogystal, cloddiwyd sianel newydd i alluogi’r afon i lifo allan yn ystod glaw trwm. Bydd y mesurau hyn yn helpu i ailgysylltu’r afon â’i gorlifdir naturiol.
Cafodd tair ffos ddraenio eu blocio mewn caeau cyfagos i gadw dŵr ar y gorlifdir am hirach, a bydd hynny, ochr yn ochr â chloddio pyllau gwlyptir bas a phantiau, yn rhoi hwb i fioamrywiaeth y gwlyptir ac yn gwella gwydnwch yn wyneb llifogydd a sychder.
Roedd hen gored goncrit segur yn y rhan hon o’r afon hefyd yn gweithredu fel rhwystr, gan atal symudiad naturiol clogfeini a graean, ac amharu ar fudo pysgod.
Torrwyd hollt yn y gored i ganiatáu i bysgod basio heibio’n rhwydd unwaith eto a chaniatáu i swbstrad yr afon symud yn naturiol. Gall hyd yn oed goredau bach iawn rwystro rhywogaethau sy’n nofwyr gwannach, er enghraifft llysywod a llysywod pendoll, yn ogystal â gohirio eogiaid a brithyllod rhag mudo.
Dywedodd Peter Jones o brosiect Pedair Afon LIFE:
“Drwy weithio gyda phrosesau naturiol, rydym yn adfer gwydnwch ecosystem Afon Wern ac yn gwella ansawdd cynefinoedd i bysgod a mathau eraill o fywyd gwyllt.”
“Bydd y gwaith adfer hwn o fudd i nifer o rywogaethau gan gynnwys eogiaid, brithyllod, pennau lletwad, llysywod, llysywod pendoll a dyfrgwn. Hoffem ddiolch i dirfeddianwyr a phorwyr lleol am eu cefnogaeth wrth gyflawni’r cynllun.”
Bydd adfer dynameg llifogydd naturiol yn helpu i gadw dŵr yn ôl ym mhen uchaf dalgylch yr afon hon, gan leihau effeithiau llifogydd ymhellach i lawr yr afon a chynyddu gwydnwch yn erbyn sychder.
Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.