Ein diwylliant a’n gwerthoedd

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae ein gwerthoedd yn llywio popeth a wnawn.

Rydym wedi ymroi i greu gweithle cynhwysol, teg a pharchus sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym yn credu’n gryf mewn blaenoriaethu cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal, gan roi cyfle i bawb gyflawni eu potensial.

Rydym yn benderfynol o wneud ein sefydliad mor amrywiol â’r amgylchedd.

Mae ein diwylliant cynhwysol yn hybu lles ac iechyd meddwl da. Rydym yn cynnig cefnogaeth ac amgylchedd diogel i alluogi ein holl staff i ffynnu’n gorfforol, yn feddyliol ac yn niwrolegol.

Y Gymraeg

Fel sefydliad cyhoeddus yma yng Nghymru, rydym yn ymfalchïo yn ein hunaniaeth ddwyieithog.

Rydym wedi ymroi i gyflawni ein gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym yn cynnig dewis i bawb o ran pa iaith y maent am ei defnyddio wrth gyfathrebu â ni.

Rydym am i chi deimlo’n gyfforddus ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg yn eich gwaith, p’un a ydych yn siaradwr rhugl neu’n ddysgwr sydd â thipyn bach o Gymraeg.

Rydym yn cydnabod y Gymraeg fel sgìl werthfawr. Gall ein rhaglen hyfforddiant iaith Gymraeg eich cefnogi i ddysgu’r iaith neu wella eich Cymraeg.

Dysgwch fwy am Safonau’r Gymraeg sy’n sicrhau ein bod yn ystyried y Gymraeg ym mhopeth a wnawn.

Ein rhwydweithiau staff

Mae ein rhwydweithiau staff yn cyfrannu at ddatblygu ein polisïau a’n harferion gwaith.

Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, cefnogaeth gan gydweithwyr a datblygiad personol.

Mae ein rhwydweithiau staff yn cynnwys gofalwyr, staff LHDTC+, amrywiaeth ethnig ac iechyd meddwl.

Undebau llafur

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn yr undebau llafur er budd pawb.

Gallwch ddewis ymuno ag un o’r undebau llafur cydnabyddedig unrhyw adeg tra byddwch yn gweithio yma.

Absenoldeb gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn cyfrannu at ansawdd bywyd yn ein cymunedau lleol. Gall hefyd fod o fudd i’ch dysgu a’ch datblygiad personol.

Gall ein holl staff wneud cais am ddau ddiwrnod o absenoldeb gwirfoddoli bob blwyddyn.

Diweddarwyd ddiwethaf