Buddion staff

Bydd eich gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi’r amgylchedd, cymunedau lleol a llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r ymdeimlad hwnnw o bwrpas yn siapio sut byddwn yn eich cefnogi chi hefyd.
Mae ein buddion staff yn adlewyrchu’r gwerth a rown ar eich iechyd, eich datblygiad a’ch cydbwysedd bywyd-gwaith.
Cyflog a chefnogaeth ariannol
Rydym yn cynnig strwythur cyflog teg a thryloyw a chefnogaeth ariannol hirdymor i roi diogelwch i chi yn y dyfodol:
- cyflog cystadleuol gyda chynyddran flynyddol nes byddwch yn cyrraedd terfyn uchaf eich gradd gyflog
aelodaeth o gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil - ad-daliad o ffioedd aelodaeth broffesiynol ar gyfer llawer o rolau
- gwobrwyon am wasanaeth hir yn cydnabod eich ymrwymiad
- arbedion ariannol drwy gyfrwng gostyngiadau, taliadau arian-yn-ôl a chynigion allanol
- y cyfle i wneud cais am Gerdyn Blue Light gyda mynediad at filoedd o ostyngiadau
- tocyn tymor blynyddol di-log ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus
Iechyd a lles
Rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth iechyd a lles fel y gallwch ffynnu, yn y gwaith a’r tu allan:
- awr les wythnosol i ymgymryd â rhywbeth o’ch dewis
- mynediad at wasanaeth cwnsela cyfrinachol a chymorth lles drwy gyfrwng ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- polisïau a chyfleusterau beic-gyfeillgar
- cynllun prynu Beicio i’r Gwaith
Cydbwysedd bywyd-gwaith a hyblygrwydd
Rydym yn deall bod bywyd pawb yn wahanol. Dyna pam rydyn ni’n cynnig trefniadau gweithio hyblyg i gefnogi eich ffordd o fyw a’ch ymrwymiadau:
- opsiynau gweithio hybrid gyda hyblygrwydd o ran sut, ble a phryd rydych chi’n gweithio
- trefniadau gweithio hyblyg (amser hyblyg) rhwng 7am a 7pm gyda chyfle i gymryd oriau wedi’u cronni fel gwyliau
- amrywiaeth o batrymau gwaith (llawn amser, rhan amser, oriau cywasgedig, oriau blynyddol, oriau tymor a rhannu swydd)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi bob blwyddyn hyd at 33 diwrnod
- yr opsiwn i gario eich gwyliau blynyddol drosodd neu i brynu gwyliau ychwanegol
- absenoldeb arbennig â thâl ar gyfer profedigaeth, cyfrifoldebau gofalu ac astudio
Cyfleoedd dysgu a datblygu
P’un a ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau, i ymgymryd â her newydd neu i ddatblygu fel arweinydd, rydyn ni eisiau helpu.
O’ch diwrnod cyntaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, byddwn yn eich cefnogi i ddysgu:
- rhaglen gynefino strwythuredig yn ystod eich misoedd cyntaf yn y swydd
- cynllunio perfformiad a datblygiad blynyddol, a sesiynau rheolaidd â’ch rheolwr
- system rheoli dysgu ar-lein
- mynediad at gyfleoedd hyfforddi mewnol ac allanol
- datblygu sgiliau arwain a rheoli ar bob lefel
- cyfleoedd ar gyfer cysgodi swyddi, secondiadau a mentora
- prentisiaethau a chymwysterau wedi’u hariannu
- cymorth i ddysgu Cymraeg neu wella eich sgiliau Cymraeg
Mae’r buddiannau hyn ar gael i staff parhaol a’r rhai sydd ar benodiad cyfnod penodol.
Ymunwch â ni
Mae dewis gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn fwy na dim ond cam yn eich gyrfa. Mae’n gyfle i helpu i siapio Cymru fwy gwydn a chynaliadwy.
Yn gyfnewid, byddwn yn eich cefnogi i feithrin gyrfa ystyrlon mewn lle ble mae pobl, byd natur a chenedlaethau’r dyfodol yn dod yn gyntaf.