Cynghorydd Incwm Rheoleiddiol
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6, £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoleiddio a Thrwyddedu/ Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 04/01/2028
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203937
Y rôl
A ydych chi’n weithiwr proffesiynol hyderus sy’n rhoi manylion wrth wraidd popeth yr ydych yn ei wneud, gyda gafael gref ar brosesau ariannol a rheoli incwm rheoleiddiol? Rydym yn chwilio am unigolyn medrus i gefnogi esblygiad dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o reoli codi tâl ac incwm ar draws ein gwasanaethau rheoleiddiol.
Fel Uwch-gynghorydd Incwm Rheoleiddiol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a rhoi dulliau newydd o godi tâl am amser a deunyddiau, ad-daliadau a rheoli dyledion ar waith. Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ym meysydd cyllid, gwasanaethau cymorth busnes a’r gyfraith, byddwch yn helpu i sicrhau bod ein prosesau incwm yn gywir, yn cydymffurfio, ac yn effeithiol ar draws pob cyfundrefn reoleiddiol.
Byddwch hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu canllawiau mewnol a dogfennaeth archwilio i gynorthwyo’r gwaith o roi’r arferion newydd hyn ar waith, yn enwedig mewn perthynas â cheisiadau a ddychwelwyd neu a dynnwyd yn ôl lle gall ad-daliadau neu daliadau rhannol fod yn berthnasol.
Y prif gyfrifoldebau fydd:
• Cefnogi dylunio a chyflwyno prosesau incwm a chodi tâl rheoleiddiol newydd, gan gynnwys bilio amser a deunyddiau.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a threthiant mewn perthynas â chasglu incwm ac ad-daliadau.
• Llunio canllawiau clir a chynnal llwybrau archwilio cadarn ar gyfer pob senario codi tâl newydd.
• Cydweithio â’r timau Cyllid, Cyfreithiol a Gwasanaethau Cymorth Busnes i sicrhau gwaith rheoli incwm cydgysylltiedig.
• Cyfrannu at ddatblygu a chynnal Cynllun Gwasanaeth Rheoleiddiol CNC.
Dyma gyfle allweddol i ddylanwadu ar sut mae incwm rheoleiddiol yn cael ei reoli a’i adennill i gefnogi gwasanaeth rheoleiddiol cynaliadwy yn ariannol a chydymffurfiol yng Nghymru.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Michael Jones drwy anfon neges e-bost i Michael.P.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain y gwaith o ddarparu gwasanaeth bilio ar gyfer ardaloedd codi tâl newydd sy’n deillio o adolygiadau codi tâl o fewn caniatâd a chynhaliaeth a chynigion newid yn y dyfodol.
- Sicrhau bod prosesau sylfaenol yn cael eu datblygu a’u cynnal i ganiatáu bilio effeithiol ar gyfer gweithgareddau fel cyngor cyn ymgeisio, neu godi tâl amser a deunyddiau, er mwyn sicrhau adennill costau’n llawn.
- Ar gyfer y meysydd codi tâl newydd hynny sy’n deillio o adolygiadau codi tâl o fewn trwyddedu a chynhaliaeth (gan gynnwys cynigion newid yn y dyfodol), goruchwylio a rheoli “dyled ddrwg” yn rhagweithiol fel rhan o’r broses reoleiddiol.
- Sicrhau bod taliadau’n cael eu gweinyddu’n gywir, e.e. ychwanegion / taliadau fesul awr / cyn ymgeisio a bod sgoriau cydymffurfio yn cael eu casglu ac y codir tâl amdanynt fel y bo’n briodol.
- Rheoli ail-daliadau sy’n berthnasol i gytundebau lefel gwasanaeth / trefniadau trawsffiniol gyda rheoleiddwyr eraill y DU, e.e. trwyddedau pysgota, niwclear, y Cynllun Masnachu Allyriadau, tynnu dŵr a chyfrifoldeb cynhyrchwyr.
- Darparu sicrwydd ansawdd rhagweithiol o ddata bilio yn erbyn data rheoleiddiol sy’n seiliedig ar gwsmeriaid.
- Ar gyfer y meysydd newydd neu wedi’u newid ar gyfer taliadau, goruchwylio adennill dyledion cyfreithiol i sicrhau bod prosesau priodol yn cael eu datblygu mewn modd effeithiol.
- Sicrhau cydymffurfedd berthnasol o ran y gyfraith a threthiant.
- Cyfrannu at y gwaith o gyflwyno cynllun busnes y tîm, cynllun cyflenwi’r gyfarwyddiaeth, a chynllun corfforaethol CNC.
- Sicrhau cydweithrediad agos â’r tîm Incwm o fewn y Gwasanaeth Cyllid Trafodiadol i sicrhau arfer gorau a datrys problemau technegol sy’n deillio o brosesau adolygu codi tâl.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ysgogwyr polisi sy’n ymwneud â deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE ac ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r DU yn eich maes gwaith penodol.
- Profiad o ddarparu gwasanaethau ariannol sy’n ymwneud ag incwm.
Neu - Weithiwr cyllid proffesiynol wedi cymhwyso’n llawn neu’n rhannol neu debyg.
- Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid / rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni canlyniadau ar lefel tîm / prosiect / swyddogaeth benodol, ac ar lefel y sefydliad ehangach.
- Profiad o gymhwyso gwybodaeth am brosesau rheoleiddiol.
- Y gallu i weithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Bydd disgwyl i chi feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am bolisi rheoleiddiol sy’n newid a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol:
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.