Uwch Swyddog Rheoleiddio Carbon
Dyddiad cau: 28 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg yng Nghymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff y De Ddwyrain / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203701
Y rôl
Rôl genedlaethol yw hon i roi cyngor, cymorth a gwybodaeth dechnegol ac arbenigol o fewn y Tîm Trwyddedu Carbon sy’n gyfrifol am gyflawni Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE.
Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau sy’n ofynnol er mwyn cyflawni gofynion y cynlluniau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: Trwyddedu gosodiadau, ffurflenni blynyddol, archwilio ac archwiliadau safleoedd gweithredwyr, cydymffurfio a gorfodi, rheoli data a chyfrannu lle bo angen at adrodd ar waith rheoli a gwelliannau i brosesau.
Fel Uwch Swyddog yn y Tîm Trwyddedu Carbon byddwch yn gyfrifol am asesu amrywiaeth o drwyddedau a roddir o dan gynlluniau newid hinsawdd, darparu lefel uchel o graffu ac asesu technegol, delio ag amrywiaeth o gwsmeriaid o bob rhan o’r diwydiant a chynrychioli’r tîm mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid ac asiantaethau rheoleiddio eraill.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n deall prosesau diwydiannol, a/neu gyda meddwl gwyddonol, sy’n gallu darparu lefel uchel o graffu ar geisiadau, cadw o fewn terfynau amser ac sy'n gallu blaenoriaethu eu llwyth gwaith yn effeithiol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno wrth i chi gael eich penodi. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol ochr yn ochr â 3 aelod arall o'r Tîm Trwyddedu Carbon sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Mae'r tîm yn adrodd yn uniongyrchol i Dîm Rheoleiddio Diwydiant y De-ddwyrain. Bydd eich rôl wedi ei lleoli gartref / yn y swyddfa yn bennaf, ond gallai gynnwys teithio rhwng gwahanol leoliadau CNC, yn ogystal â sefydliadau partner a safleoedd gweithredwyr eraill ar gyfer archwiliadau o safleoedd, a bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Wayne Grimstead at wayne.grimstead@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Penderfynu ar ystod o geisiadau ar gyfer trwyddedau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU gan sicrhau bod defnyddwyr ynni mawr mewn sectorau fel metelau, cemegau a chynhyrchu trydan yn gweithredu mewn ffordd sy’n lleihau eu heffaith ar newid yn yr hinsawdd.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â thrwyddedau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ledled Cymru drwy amrywiaeth o archwiliadau cydymffurfiaeth safle, asesu adroddiadau a gwaith gorfodi yn ôl yr angen.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â’r cynlluniau Ymrwymiad Lleihau Carbon a Chyfle Arbed Ynni ledled Cymru, gan arwain ar gyhoeddi Cosbau Sifil am beidio â chydymffurfio fel y bo’n briodol.
- Paratoi adroddiadau blynyddol ar allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yng Nghymru i'r Llywodraeth a phartïon eraill â diddordeb.
- Darparu cyngor ac arweiniad ar reoleiddio newid yn yr hinsawdd i aelodau eraill y tîm, cwsmeriaid mewnol ac allanol, nodi cwsmeriaid cyffredin rhwng y rheoliadau newid yn yr hinsawdd a deddfwriaeth amgylcheddol arall, gan sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu hysbysu'n llawn am y gofynion deddfwriaethol ehangach.
- Cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar fforymau rheoleiddwyr y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod anghenion diwydiant Cymru yn cael eu hystyried wrth ddatblygu dull y Deyrnas Unedig gyfan o ymdrin â deddfwriaeth newid yn yr hinsawdd.
- Hyfforddi a mentora eraill ar Gynllun Masnachu Allyriadau y DU, yr Ymrwymiad i Leihau Carbon a gwaith Cyfleoedd Arbed Ynni.
- Meithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda chwsmeriaid, partneriaid a rhanddeiliaid eraill ledled y DU.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth a phrofiad naill ai o weithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
- Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth newid hinsawdd.
- Profiad ymarferol o ddefnyddio deddfwriaeth i reoleiddio neu weithredu diwydiant.
- Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol profedig.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.