Dyddiad cau: 13/08/2025 | Cyflog: Gradd 3 £28,932 - £30,955 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Pobl a Chyflogres / Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflog cychwynnol: £28,932 yn codi i £30,955 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 29/08/2025

Rhif swydd: 202480

Y rôl

Rydym yn chwilio am aelod o dîm a fydd yn gallu dangos y sgiliau sy’n ofynnol i weithio yn ein Tîm y Gyflogres, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol wrth sicrhau bod tasgau’n cael eu cwblhau mewn modd cywir ac amserol i alluogi gweithrediad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o ddydd i ddydd.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth a phrofiad da o brosesu a gweithdrefnau cyflogres, gan gynnwys Talu Wrth Ennill (TWE) a didyniadau pensiwn yn ogystal â dealltwriaeth o daliadau statudol fel mamolaeth/tadolaeth statudol a thâl rhiant a rennir.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Bryony Harvey-Woodworth ar Bryony.Harvey-Woodwo@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae tîm cyflogau CNC yn cynnwys dwy swyddogaeth: Tîm y Gyflogres a Gwasanaethau Pobl. Mae goruchwylwyr sy’n adrodd yn uniongyrchol i’r Rheolwr Gwasanaethau Cyflogres a Phobl yn goruchwylio’r ddwy swyddogaeth. Mae’r tîm yn gyfrifol am brosesu gwasanaeth cyflogres amserol a chywir, cynnal y system adnoddau dynol / cyflogau, ymateb i ymholiadau pensiwn, a chysylltu â gweinyddwr pensiynau’r Gwasanaeth Sifil a Chronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Prosesu’r gyflogres
  • Absenoldeb rhiant ac absenoldebau oherwydd salwch
  • Drafftio newidiadau i delerau ac amodau
  • Gweinyddu pensiynau
  • Ymholiadau adnoddau dynol a’r gyflogres
  • Datblygu a darparu gwybodaeth a gwaith dadansoddi ynghylch rheoli
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
    Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad o weithio mewn amgylchedd canolfan gwasanaethau a rennir.
  2. Dealltwriaeth dda o ddefnyddio system gyflogres adnoddau dynol a meddalwedd/rhaglenni eraill i fodloni gofynion eich maes cyfrifoldeb.
  3. Sgiliau trefnu da.
  4. Sgiliau da ar lafar ac yn ysgrifenedig a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, ynghyd â sgiliau gofal cwsmer rhagorol.
  5. Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan ddefnyddio’ch menter eich hun er mwyn cwrdd â therfynau amser tynn.
  6. Sgiliau TG cryf a’r gallu i fewnbynnu data’n gywir.
  7. Byddai profiad o weithredu newid neu wella prosesau hefyd yn fanteisiol.

 

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol: A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf