Dyddiad cau: 25/08/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth:  Tîm Gwasanaethau Digidol / Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 09/09/2025

Rhif swydd: 202280

Y rôl

Rydym yn chwilio am ddylunydd cynnwys medrus i helpu i wella sut mae pobl yn cyrchu ac yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein. 

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r gwasanaethau a ddarparwn yn effeithio ar fywyd bob dydd – o wneud cais am drwydded amgylcheddol ac adrodd am ddigwyddiad amgylcheddol i wirio am ganllawiau i helpu i baratoi ar gyfer llifogydd. Fel dylunydd cynnwys, byddwch chi’n helpu i wneud y gwasanaethau hynny’n haws eu canfod, eu deall a’u defnyddio. 

Byddwch yn gweithio gyda swyddogion cyhoeddi, dylunwyr cynnwys, ymchwilwyr defnyddwyr ac arbenigwyr pwnc i lunio a gwella ein cynnwys a’n ffurflenni cais ar-lein. 

Mae sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid cryf yn hanfodol. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth herio rhagdybiaethau, arwain cydweithwyr, ac eirioli dros arferion gorau. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu timau i ddeall sut olwg sydd ar gynnwys da – a pham ei fod yn bwysig.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at allu digidol cynyddol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan helpu i foderneiddio ein gwasanaethau a gwella’r profiad i ddefnyddwyr ledled Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Heledd Quaeck ar heledd.quaeck@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Tîm bach ond sy’n tyfu ydym ni – yn angerddol am ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Ein cenhadaeth yw creu gwasanaethau defnyddiol a hygyrch sy’n gweithio’n well i’r bobl sydd eu hangen.
Mae’r tîm yn cynnwys dylunwyr cynnwys, ymchwilydd defnyddwyr, profwr, rheolwr cynnyrch a swyddogion cyhoeddi.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Dadansoddi anghenion defnyddwyr a nodi bylchau a gorgyffwrdd o ran cynnwys presennol.
  • Gwneud penderfyniadau ar y fformatau cywir, gan gynnwys pryd a sut i ddefnyddio ffurflenni a phatrymau dylunio sy’n diwallu anghenion defnyddwyr orau ac yn cadw at ein hegwyddorion a’n safonau cynnwys.
  • Gweithio gyda thimau i adolygu, dylunio a phrofi ffurflenni a chynnwys trafodion, gan symleiddio iaith a strwythur i gael gwared ar gymhlethdod i ddefnyddwyr.
  • Cwmpasu, ysgrifennu, golygu a chyhoeddi cynnwys digidol o ansawdd uchel trwy gydweithio, cyfrannu at adolygiadau 2i, a cheisio adborth yn weithredol i wella.
  • Defnyddio data ac adborth defnyddwyr i ailadrodd a gwella tudalennau gwe a ffurflenni ar-lein, gan weithio tuag at gynyddu cyfraddau cydweithredu [GE1] ar-lein a lleihau gwallau defnyddwyr.
  • Datblygu ffyrdd rhagweithiol i’r sefydliad ddeall ymddygiad defnyddwyr a chasglu adborth.
  • Chwilio’n rhagweithiol am ffyrdd o wella llywodraethu a safonau cynnwys yn gyson drwy gyfrannu at ffyrdd o weithio’r tîm a’r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

 

  1. Profiad o ysgrifennu ar gyfer y we, gan gynnwys symleiddio iaith a gwasanaethau cymhleth o fewn maes polisi cymhleth.
  2. Profiad o ddylunio ffurflenni cais ar-lein, yn ddelfrydol o fewn sefydliad sector cyhoeddus.
  3. Profiad o brofi ac ailadrodd ffurflenni a chynnwys trafodion yn seiliedig ar anghenion a data defnyddwyr.
  4. Profiad o reoli perthnasoedd â rhanddeiliaid, gan gynnwys egluro penderfyniadau dylunio yn glir ac yn hyderus.
  5. Profiad o fapio teithiau defnyddwyr ac adnabod pwyntiau sy’n achosi trafferth i ddefnyddwyr.
  6. Gwybodaeth a phrofiad o weithio yn ôl safonau gwasanaethau digidol, gan gynnwys gofynion hygyrchedd a defnyddioldeb.
  7. Profiad o weithio mewn tîm ystwyth, gan gynnwys llunio prototeip o syniadau cynnwys i’w profi a dysgu ac ailadrodd ohonynt.
  8. Profiad o weithio ar systemau rheoli cynnwys, yn ddelfrydol gyda rhywfaint o wybodaeth am Markdown neu HTML sylfaenol.
  9. Cymhwyster cydnabyddedig, gradd neu brofiad cyfatebol

Gofynion y Gymraeg

  • Dymunol:  Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf