Rheolwr Rheoleiddio'r Dyfodol
Dyddiad cau: 28 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 9: £59,547 - £65,004 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoleiddio'r Dyfodol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £59,547 yn codi i £65,004 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 201500
Y rôl
Fel aelod o Dîm Rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru byddwch yn cyflawni rôl strategol allweddol, ochr yn ochr â’ch cyfrifoldebau swyddogaethol, wrth gefnogi trawsnewid Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. Byddwch yn gyfrifol am arwain ar ddatblygu polisi a strategaeth traws-swyddogaethol CNC, gan ddarparu arweinyddiaeth a llywodraethu i sicrhau bod CNC yn rheoleiddiwr rhagorol ac yn cyflawni newid rheoleiddiol, gan wella canlyniadau i’n cwsmeriaid, rhanddeiliaid ac adnoddau naturiol, gan helpu i ddarparu safon ragorol o wasanaeth. Arwain ar y dulliau rheoleiddio ar gyfer Dŵr, Tir, Morol a Bioamrywiaeth gan weithio gyda thimau Polisi NRM i sicrhau bod y dulliau gweithredu a'r ymyriadau ar gyfer dŵr, tir, bioamrywiaeth a morol yn cael eu datblygu a'u gweithredu yn unol â'r polisïau a'r strategaethau perthnasol. Gweithio â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod CNC yn cyflawni ei rolau a’i ddyletswyddau yn y maes hwn, ei fod yn cyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru ac yn dylanwadu’n llwyddiannus ar weithgareddau sefydliadau eraill. Rheoli ac ysgogi timau lluosog (tua 35 o staff) sy'n cynnwys arbenigwyr sy'n gweithio ar lefel Genedlaethol/Ewropeaidd a bod yn atebol am gyllideb Grŵp Rheoleiddio'r Dyfodol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Nadia De Longhi at Nadia.delonghi@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae grŵp Rheoleiddio’r Dyfodol yn cynnwys 5 tîm: Mae pedwar ohonynt yn canolbwyntio ar feysydd technegol penodol ac un yn canolbwyntio ar waith strategaeth traws-swyddogaethol, yn eistedd o fewn yr adran Rheoleiddio a Thrwyddedu o fewn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. Mae'r rôl hon yn adrodd yn uniongyrchol i'r Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu ac yn gweithredu fel Cadeirydd ar gyfer is-grŵp Bioamrywiaeth, Morol a Thrawsbynciol y Grŵp Busnes Rheoleiddiol .
Mae’r grŵp yn cyflwyno strategaethau a pholisïau i feithrin gwytnwch a gallu rheoleiddio nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â datblygu prosesau, canllawiau a hyfforddiant newydd i gefnogi’r gwaith o gyflawni swyddogaethau trwyddedu, cydymffurfio a gorfodi ar gyfer Dŵr, Tir, Morol a Bioamrywiaeth. Mae’r grŵp yn cynnwys tua 35 o staff wedi’u lleoli yn swyddfeydd CNC ledled Cymru.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain fel y rheolwr strategol ar gyfer gosod a gweithredu polisi Rheoleiddio’r Dyfodol CNC a throsi arweiniad Llywodraeth Cymru tuag at ystod o ymyriadau rheoleiddiol i’w defnyddio ar draws pob/unrhyw gyfundrefn y mae CNC yn ei rheoleiddio. Mae hyn yn cynnwys gwreiddio’r Egwyddorion Rheoleiddio, sicrhau bod CNC yn bodloni ein Safonau Gwasanaeth Rheoleiddio a ddisgwylir gan randdeiliaid a sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â Chod y Rheoleiddwyr.
- Datblygu’r polisi, y strategaethau a’r canllawiau trosfwaol ar gyfer trwyddedu, cydymffurfio a gorfodi tra’n gyfrifol am wneud penderfyniadau arloesol, annibynnol, cymhleth ac uchel eu proffil i CNC.
- Gweithio â rhanddeiliaid allweddol a chydweithwyr allanol uwch, Gweinidogion, gwleidyddion, a swyddogion (ar lefel Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol) a'u rheoli i sicrhau bod CNC yn cyflawni ei rolau a'i ddyletswyddau yn y maes hwn, ac yn dylanwadu'n llwyddiannus ar bolisi a strategaeth sefydliadau, gweithredwyr, a grwpiau eraill eraill lle bo hynny'n briodol.
- Arwain y gwaith o ddarparu cyngor arbenigol, canllawiau a sesiynau briffio i staff ar bob lefel gan gynnwys sganio’r gorwel i sicrhau bod cyfleoedd deddfwriaethol yn y dyfodol yn cael eu nodi a lle bo’n briodol yn cael eu harneisio er budd ein holl gyfundrefnau rheoleiddio.
- Arwain cyfraniadau'r Gwasanaeth Trwyddedu a gwaith cysylltiedig ar gyfer y Bwrdd Busnes Rheoleiddio ac arwain is-grŵp(iau) priodol mewn meysydd technegol yn ôl yr angen. Gweithredu fel Arweinydd Busnes ar gyfer tystiolaeth reoleiddiol, arloesi ac ymchwil.
- Cyfrannu at dasgau rheoli ehangach, a'u harwain e.e. Rhaglenni Newid, a dirprwyo yn ôl yr angen ar ran y tîm Arweinyddiaeth.
- Arwain ar ddatblygu a darparu TGCh a systemau eraill, rheoli tystiolaeth ac ymchwil, a gwarchod data ar gyfer Grŵp Rheoleiddio’r Dyfodol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth arbenigol a phrofiad sylweddol o weithgareddau rheoleiddio perthnasol.
- Gradd berthnasol.
- Lefel uchel o hygrededd personol a phroffesiynol yn fewnol ac yn allanol.
- Profiad o gynrychioli sefydliadau yn y byd cyhoeddus.
- Profiad o adeiladu rhwydweithiau a pherthnasoedd â sefydliadau partner ac asiantaethau ar lefel genedlaethol.
- Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol. (Dymunol)
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.