Cymorth Technegol Data Meistr

Dyddiad cau: 27 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 4, £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith:  Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 201259

Y rôl

Darparu cymorth technegol i Arweinydd Tîm Data Meistr ac arbenigwyr sy’n cydlynu a chyflawni dull corfforaethol CNC o feistroli asedau data (e.e. ansawdd data, integreiddio data ac adrodd gweithredol) fel y’i diffinnir yn ein Strategaethau Gwybodaeth a Data a’n cynllun gwasanaeth..   
 
Cynnal offer a chymwysiadau sy'n rheoli llif, integredd ac integreiddiad asedau data CNC wrth i ddata symud rhwng rhaglenni ac wrth i raglenni newydd gael eu datblygu.  Mae hyn yn hanfodol ar gyfer integreiddio data sydd ei angen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. 
 
Cynnal offer adrodd gweithredol a chefnogi staff ar draws CNC i adeiladu dangosfyrddau, adroddiadau a safbwyntiau gweithredol o’n data fel ei fod yn cefnogi SMNR ac yn cyfarwyddo penderfyniadau gweithredol a datblygiad polisi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mark Diggle ar mark.diggle@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae'r rôl yn eistedd o fewn y Tîm Data Meistr sy'n rhan o'r adran Ddigidol, Data a Thechnoleg newydd yn y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol. Mae'r tîm yn cynnwys 8 arbenigwr technegol sy'n ymdrin â disgyblaeth Data Meistr gan gynnwys data, delweddu a datrysiadau adrodd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cefnogi perchennog y system ar gyfer cyfres CNC o offer data meistr (e.e. storfeydd data, offer integreiddio data ac offer dangosfwrdd / adrodd) trwy ddarparu gweinyddiaeth a ffurfweddiad cronfa ddata dechnegol; rheoli caniatâd defnyddwyr a gweithio’n agos â chydweithwyr ym maes TGCh, contractwyr allanol neu bartneriaid ar ddatblygiadau, uwchraddio ac ati. 
  • Mewnforio, allforio, trawsnewid, dilysu a sicrhau ansawdd data CNC gan ddilyn safonau CNC/diwydiant.  Bydd hyn ar draws amrywiaeth o themâu data, fformatau data ac o ystod o raglenni TG.   
  • Darparu cymorth datryswr ITIL, hyfforddiant ac arweiniad i staff ar draws CNC, gan ymdrin ag ymholiadau cymorth technegol cymhleth gan staff wrth ddefnyddio cyfres o offer integreiddio data CNC ac offer dangosfwrdd / adrodd
  • Cynnal geiriaduron cyfeirio corfforaethol a rhestrau termau a ddefnyddir i safoni data (meistr), cofnodi ac adalw data yn CNC. 
  • Gweithio â cheidwaid data CNC ac arbenigwyr yn y tîm data meistr i helpu i ddiffinio, rheoli, gwirio ac archwilio safonau data corfforaethol CNC.  Mae hyn yn cynnwys y sgriptiau ysgrifennu i helpu gyda gwirio ansawdd. 
  • Creu adroddiadau gweithredol, dangosfyrddau a safbwyntiau busnes o'n data i ddiwallu anghenion gweithredol.
  • Cefnogi'r arweinydd tîm ac arbenigwyr data meistr i gyflawni prosiectau gwella ac atebion trwy gyfrannu at y fanyleb, profi a chyflwyno gwasanaethau ar gyfer datrysiadau newydd.
  • Cynrychioli data meistr mewn grwpiau gorchwyl a gorffen, rhwydweithiau a grwpiau llywodraethu perthnasol 
  • Cefnogi a hyfforddi staff newydd neu dros dro o fewn y Tîm Data Meistr Cyfeirio.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1.      Sgiliau rheoli data rhagorol a phrofiad o reoli data mewn cyd-destun busnes e.e. coladu, cadw mewn storfeydd data, rheoli, trawsnewid, trin, holi, archifo, echdynnu, dadansoddi a defnyddio data; gan gynnwys profiad o ddefnyddio offer adrodd, integreiddio neu drawsnewid y fenter e.e. FME, SSRS, PowerBI, SSAS, SSIS 
  2. Profiad o weinyddu cronfa ddata o naill ai cronfa ddata gorfforaethol, storfa ddata, offer integreiddio data, neu offer holi, delweddu ac adrodd data  
  3. Dealltwriaeth o sensitifrwydd data a phrofiad o reoli gwybodaeth sensitif a chyfrinachol
  4. Gradd mewn pwnc perthnasol neu sylfaen dda mewn rheoli data, gwyddoniaeth naturiol, amgylcheddol neu gyfrifiadurol. 
  5. Profiad o ddarparu cymorth i ddefnyddwyr mewn amgylchedd data neu TG.  Mae dealltwriaeth o fframwaith ITIL neu fframwaith llywodraethu tebyg ar gyfer datblygu rhaglenni a chymorth defnyddwyr yn ddymunol. 
  6. Llythrennedd TG: Y gallu i ddefnyddio rhaglenni Windows a Microsoft Office yn hyderus.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol:  A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf