Arweinydd Tîm, Data Meistr

Dyddiad cau: 27 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 7 : £45,367 - £50,877 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Grwp KIM / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 201254

Y rôl

Oes gennych chi ddiddordeb angerddol mewn data, technoleg ac arweinyddiaeth? Ymunwch â ni fel arweinydd ein tîm pwrpasol o Arbenigwyr Data Meistr yn CNC, lle byddwch chi'n chwarae rhan ganolog wrth yrru arloesedd ac effeithlonrwydd ar draws y sefydliad.

Yn y rôl ddeinamig hon, byddwch yn arwain eich tîm wrth integreiddio a chyflwyno data CNC yn effeithiol, gan sicrhau ein bod yn cynnal ein hymrwymiad i ddarparu tystiolaeth o ansawdd uchel i gefnogi penderfyniadau a gweithrediadau. Byddwch yn gweithio yn unol â gwerthoedd craidd CNC, gan feithrin cydweithrediad, creadigrwydd a rhagoriaeth.

Fel cyfrannwr allweddol i strategaeth Gwybodaeth a Rheolaeth (KIM) CNC, byddwch yn dehongli data a strategaethau TGCh i lunio a gweithredu gwasanaeth blaengar a chynllun gwella. Bydd eich arweinyddiaeth yn rhoi cyfeiriad hollbwysig i dimau TGCh, yn enwedig ar faterion sy'n ymwneud â storio data, integreiddio, a chyflwyno tystiolaeth.

Mae gwaith y tîm hwn yn hanfodol i allu CNC i gyflawni ei gyfrifoldebau integreiddio tystiolaeth o dan Ddeddf yr Amgylchedd, gan alluogi effeithlonrwydd craffach sy’n cael ei yrru gan ddata ar draws ein hadrannau. Drwy reoli’r llif data rhwng cymwysiadau a chyflwyno adroddiadau gweithredol a dangosfyrddau craff, byddwch yn helpu i sicrhau bod CNC yn parhau i fod ar flaen y gad o ran stiwardiaeth amgylcheddol ac arloesedd.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mark Diggle at mark.diggle@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Bod yn gyfrifol am arwain tîm o arbenigwyr sy'n cyflawni 2 swyddogaeth arbenigol; rheoli pensaernïaeth data (modelu data cymhleth, cywirdeb data, storio ac integreiddio data) ac adroddiadau gweithredol (cyfres gymhleth o integreiddio a delweddu data i greu dangosfyrddau a safbwyntiau gweithredol o dystiolaeth CNC).  Mae’r seilwaith craidd hwn yn sicrhau effeithlonrwydd prosesau ar gyfer yr holl weithgareddau ar draws CNC.
  • Dehongli strategaeth gorfforaethol, tystiolaeth, data a TGCh CNC i ddiffinio cynllun darparu gwasanaeth a chynllun gwella gwasanaeth y tîm.  
  • Bod yn gyfrifol am gyflwyno dull strategol CNC o integreiddio data, rheoli ansawdd a safbwyntiau awtomataidd ar ein tystiolaeth; bodloni gofynion busnes a chydymffurfio â safonau deddfwriaethol, diwydiant neu ddata gweithredol.  Bydd hyn yn cynnwys datblygiadau technegol a pholisi; archwilio a goruchwylio'r risgiau sy'n gysylltiedig ag integreiddio data ac adrodd awtomataidd.  
  • Bod â chyfrifoldeb perchennog system am ein datrysiadau storio, adrodd ac integreiddio data strategol.  Darparu cymorth datryswr ITIL i ddefnyddwyr y gyfres o offer adrodd a darparu arweiniad busnes ar gyfer TGCh ar ddatblygiadau technegol.
  • Bod yn gyfrifol am gynnal un pwynt cyfeirio awdurdodol ar gyfer asedau data a grëir gan CNC ac sy’n hollbwysig i weithrediadau CNC (setiau data aur).  Cyfarwyddo’r tîm wrth greu, coladu a chipio thesawrws, geiriaduron a rhestrau termau corfforaethol a ddefnyddir i feistroli ein hasedau data a gwybodaeth.
  • Gweithio gydag arbenigwyr pwnc a cheidwaid data ar draws cylch gwaith CNC i arwain y gwaith o weithredu fframwaith llywodraethu CNC ar gyfer integreiddio ac adrodd ar ddata.  Bydd hyn yn cynnwys adroddiadau sicrwydd blynyddol a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Defra i gyfeirio polisi CNC yn y maes hwn.
  • Cynrychioli CNC mewn cynadleddau allanol, gan rannu arferion gorau a gweithio gyda phartneriaid cyflawni ar y cyd.
  • Byddwch yn gyfrifol am gyllideb a gwariant ar draws nifer o brosiectau a gwasanaethau a ddarperir trwy eich tîm.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad cydnabyddedig o arwain ac ysgogi timau.
  2. Profiad proffesiynol sylweddol o arwain gwaith rheoli pensaernïaeth data, integreiddio ac adrodd ar fewnwelediadau ar lefel gorfforaethol/menter.
  3. Gwybodaeth dechnegol fanwl o'r ddeddfwriaeth a safonau'r diwydiant sy'n berthnasol i reoli pensaernïaeth data, safonau data ac adrodd, gyda hanes profedig o arwain ac archwilio cydymffurfiaeth sefydliadau (sector cyhoeddus neu breifat).
  4. Profiad o arweinyddiaeth dechnegol ar gyfer pensaernïaeth data menter, systemau sicrhau ansawdd ac adrodd a chymwysiadau neu gymwysiadau/offerynnau tebyg.
  5. Dealltwriaeth o'r datblygiadau polisi a thechnegol allanol a allai fod o fudd neu gyfyngu ar ddulliau gweithredu yn y dyfodol o ran uniondeb, integreiddio ac adrodd (e.e. awtomeiddio/offer ETL, maint a chymhlethdod ffynonellau gwybodaeth, chwilio a darganfod gwell, proffilio cwsmeriaid).
  6. Gradd neu gymhwyster proffesiynol mewn pwnc perthnasol; profiad sylweddol neu'r gallu i ddangos gwybodaeth dechnegol arbenigol debyg, mewn pwnc perthnasol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf