Arweinydd y Tîm Rhybuddio a Hysbysu
Dyddiad cau: 29/06/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Bangor, Bwcle, Y Trallwng
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rhybuddio a Hysbysu / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 200286
Y rôl
Ymgymerwch â swydd arweinyddiaeth allweddol wrth wraidd rheoli’r perygl o lifogydd yng Nghymru. Fel ein Harweinydd Tîm ar gyfer Rhybuddio a Hysbysu, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn pobl, eiddo a’r amgylchedd rhag y bygythiad cynyddol o lifogydd.
Byddwch yn arwain tîm ymroddedig o naw unigolyn sy’n cwmpasu’r Gogledd-orllewin, y Gogledd-ddwyrain, a gogledd Powys—gan ddatblygu ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd a sicrhau bod cymunedau yn fwy gwydn ac wedi’u paratoi’n well ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Mae hyn yn fwy na rôl arweinyddiaeth yn unig—mae’n ymwneud â llunio ymateb rhagweithiol a chydlynol i lifogydd. Byddwch yn gweithio’n agos gydag ymatebwyr Categori 1 a 2, partneriaid brys, a thimau perygl o lifogydd mewnol i reoli digwyddiadau mewn modd effeithiol a lleihau niwed. Byddwch hefyd yn gyfrifol am lunio cynlluniau sy’n cryfhau ein hymateb i ddigwyddiadau’n ymwneud â llifogydd, gwella gweithdrefnau gweithredol, a goruchwylio hyfforddiant ac ymarferion ar gyfer swyddogion ar ddyletswydd llifogydd.
Fel rhan o un o chwe thîm arbenigol o dan y Rheolwr Perygl Llifogydd ac Adnoddau Dŵr, byddwch yn sicrhau bod gweithgareddau perygl o lifogydd yn cael eu cyflwyno’n ddi-dor ar draws y rhanbarth. O arwain adolygiadau o ddigwyddiadau i roi cynlluniau gweithredu ar waith, bydd eich penderfyniadau yn cyfrannu’n uniongyrchol at gadw Cymru’n ddiogel, yn sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ganddi, a’i bod yn barod ar gyfer yr hinsawdd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad uchod a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Keith Ivens at Keith.Ivens@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar flaen y gad o ran addasu i risgiau ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Lleihau’r risg i fywyd o lifogydd drwy reoli, cynnal a chadw ac addasu ein hasedau a’n seilwaith perygl o lifogydd, lleihau’r risg i bobl a chymunedau drwy gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd newydd, gwella ein rhybuddion llifogydd a chefnogi ymdrechion i addasu a chydnerthedd mewn cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd o brif afonydd, y môr a chronfeydd dŵr.
Nid yw’n bosibl atal pob llifogydd, ond mae gwella gwydnwch cymunedau yn eu helpu i baratoi, ymateb yn fwy effeithiol ac adfer yn gyflymach pe bai’r gwaethaf yn digwydd. Mae’r tîm Rhybuddio a Hysbysu sy’n cwmpasu gogledd a chanolbarth Cymru yn allweddol wrth gefnogi’r gwaith hwn trwy wneud gwelliannau i’n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd, ymgysylltu â chymunedau, a gweithio gyda phartneriaid proffesiynol.
Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewnol a phartneriaid a rhanddeiliaid allanol, swyddogion etholedig a chymunedau i gefnogi gwell dealltwriaeth o risgiau, a chyfleoedd i wella parodrwydd ac ymateb i ddigwyddiadau ehangach ar draws y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, gan weithio ochr yn ochr ag awdurdodau rheoli risg eraill.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Darparu gwasanaeth rhybuddio am lifogydd i’r cyhoedd, ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid sydd â diddordeb, gan gynnwys darparu Gwasanaethau Cynghori Llifogydd cysylltiedig pan fo’r risg o lifogydd yn ganolig neu’n uchel.
- Gwella’r gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau Llifogydd trwy weithio gyda thimau eraill megis Dadansoddi Perygl Llifogydd i ddiweddaru’r data mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu defnyddio i wella ein dealltwriaeth o lle a sut y gallai llifogydd digwydd.
- Ymgysylltu â’n partneriaid Rheoli Digwyddiadau mewn fforymau megis y Fforymau Cydnerth Lleol a cheisio arwain, cydlynu ac ymgysylltu â chymunedau lleol ar faterion llifogydd.
- Paratoi i reoli ac ymateb i ddigwyddiadau gan sicrhau bod y gweithdrefnau lleol yn cael eu cadw yn gyfredol ac yn cael eu profi a monitro ein hymateb i ddigwyddiadau yn unol â gofynion y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl.
- Cynrychioli’r sefydliad ar lefel leol a chenedlaethol er mwyn ymgysylltu ag aelodau etholedig, cymunedau, swyddogion a rhanddeiliaid ar draws Cymru gyfan i lywio, dylanwadu a chyfleu negeseuon eang a chyfeiriad strategol rheoli perygl llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Sicrhau bod yr holl raglenni gwaith yn cael eu cyflawni heb risg i unrhyw dîm nac unigolyn, gan roi iechyd a diogelwch wrth wraidd yr hyn rydych yn ei wneud ac arwain eich tîm er mwyn datblygu diwylliant sy’n ymwybodol o ddiogelwch.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Bydd gennych addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc cysylltiedig.
- Aelod o gorff proffesiynol perthnasol (e.e. Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd, Sefydliad y Peirianwyr Sifil neu Sefydliad Rheoli Risg) neu’n gweithio tuag at aelodaeth.
- Sgiliau datblygedig iawn o ran delio â chwsmeriaid, gyda gwybodaeth eang am ein dyletswyddau a’n cyfrifoldebau er mwyn diwallu anghenion cwsmeriaid.
- Dealltwriaeth o amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud â llifogydd, e.e. rheoli data, y broses o reoli digwyddiadau llifogydd, gan gynnwys rhagweld a rhybuddio, hysbysu a’r ymateb gan y cyhoedd a phartneriaid proffesiynol.
- Y gallu i weithio ar y cyd ag arweinwyr tîm eraill ar draws y sefydliad a briffio timau uwch-reolwyr yn rhagweithiol ar broblemau a datrysiadau.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.