Arweinydd y Tîm Dadansoddi’r Perygl o Lifogydd

Dyddiad cau: 29/06/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877| Lleoliad: Hyblyg, yng Ngogledd Cymru. Mae’r ardaloedd a gwmpesir yn cynnwys y Gogledd-Orllewin, y Gogledd-Ddwyrain a Gogledd Powys.

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Dadansoddi’r Perygl o Lifogydd / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 200269

Y rôl

A ydych chi’n barod i arwain tîm sy’n llunio dyfodol rheoli’r perygl o lifogydd yng Nghymru? Fel Arweinydd y Tîm Dadansoddi’r Perygl o Lifogydd yn y Gogledd, byddwch yn rheoli grŵp talentog o arbenigwyr sy’n troi data yn benderfyniadau sy’n amddiffyn cymunedau ac yn meithrin gwydnwch yn erbyn yr hinsawdd.

Mae eich tîm yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu’r offer a’r dystiolaeth sy’n sbarduno buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn arwain ymatebion i argyfyngau, ac yn hysbysu’r cyhoedd. O fodelu llifogydd a dadansoddi data i roi cyngor strategol i bartneriaid, fel Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol — byddwch wrth wraidd ein gweithgarwch.

Byddwch yn arwain tîm o 10 unigolyn ar draws y Gogledd-orllewin, y Gogledd-ddwyrain, a gogledd Powys, gan arwain eu datblygiad a llywio cyfeiriad strategol gwaith tystiolaeth perygl o lifogydd CNC. Dyma eich cyfle i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol, llunio strategaeth ynghylch y perygl o lifogydd yn y dyfodol, a chyfrannu’n uniongyrchol at ddiogelu bywydau a bywoliaethau mewn hinsawdd sy’n newid.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad uchod a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Keith Ivens at Keith.Ivens@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Amdanom ni

 Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar flaen y gad o ran addasu i risgiau ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.  Lleihau’r risg i fywyd o lifogydd drwy reoli, cynnal a chadw ac addasu ein hasedau a’n seilwaith perygl o lifogydd, lleihau’r risg i bobl a chymunedau drwy gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd newydd, gwella ein rhybuddion llifogydd a chefnogi ymdrechion i addasu a chydnerthedd mewn cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd o brif afonydd, y môr a chronfeydd dŵr.

Nid yw’n bosibl atal pob llifogydd, ond mae meithrin ein dealltwriaeth o risg a’r tebygolrwydd y bydd cymunedau yn wynebu llifogydd yn helpu i sicrhau y gallwn gynllunio’n well ar gyfer y dyfodol gan leihau’r effeithiau a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â hinsawdd sy’n newid.  Fel arbenigwyr yn y maes hwn, mae’r tîm yn chwarae rhan flaenllaw yn ein rhaglen fuddsoddi hirdymor mewn llifogydd ac yn gwella’r ddealltwriaeth o’r perygl o lifogydd. Mae’r dystiolaeth a gynhyrchir yn dylanwadu ar strategaethau, polisïau a blaenoriaethau’r dyfodol a rhai sefydliadau eraill.  Mae meddu ar ddealltwriaeth dda o’r risgiau, a’r gallu i sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd a phartneriaid, yn sgìl hanfodol wrth nodi cyfleoedd ac addasiadau yn y dyfodol i leihau’r perygl o lifogydd mewn cymunedau.

Bydd eich gwybodaeth arbenigol a’ch profiad gweithredol yn arwain y tîm i lunio a llywio cyfeiriad strategol yn y maes hwn yn y dyfodol, gan gyfrannu at ddatblygu polisïau a datblygu tîm technegol sy’n perfformio i lefel uchel.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a rheoli’r broses o gyflawni cofrestr strategol ac effeithiol o gymunedau mewn perygl sy’n seiliedig ar risg a ddefnyddir i gyfeirio penderfyniadau buddsoddi yn ymwneud â’r perygl o lifogydd.
  • Darparu cyngor a chanllawiau technegol i wella’r broses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg yn fewnol, gydag awdurdodau rheoli risg eraill, awdurdodau cynllunio a Llywodraeth Cymru.
  • Rôl oruchwylio arweiniol Cyfoeth Naturiol, sy’n arwain, gwirio, dylanwadu a chydlynu’r Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol.
  • Cyflwyno tystiolaeth mewn ymchwiliadau cymhleth i sicrhau bod yr amgylchedd, pobl a seilwaith hanfodol y genedl yn cael eu diogelu rhag datblygiad amhriodol a pheryglus.
  • Darparu rôl gynghori arweiniol ym maes modelu llifogydd i CNC, ac fel rhan o dimau prosiect sy’n cyflawni rhaglen gyfalaf CNC o ran y perygl o lifogydd, gan nodi cyfleoedd posibl i gyflawni’r amcan i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Darparu cyngor arbenigol ar lefel trefniadau rheoli strategol a thactegol gyda thimau ymateb amlasiantaeth.
  • Cymryd rhan mewn grwpiau prosiect, neu eu harwain, i ddarparu gwybodaeth genedlaethol am y perygl o lifogydd y gellir ei defnyddio gan y llywodraeth, partneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yng Nghymru.
  • Sicrhau bod yr holl raglenni gwaith yn cael eu cyflawni heb risg i unrhyw dîm nac unigolyn, gan roi iechyd a diogelwch wrth wraidd yr hyn rydych yn ei wneud ac arwain eich tîm er mwyn datblygu diwylliant sy’n ymwybodol o ddiogelwch.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Bydd gennych addysg hyd at lefel gradd, neu gyfwerth, mewn disgyblaeth wyddonol/peirianneg neu brofiad galwedigaethol perthnasol sylweddol.

     

  2. Aelod siartredig o gorff proffesiynol perthnasol fel Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) / Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd, neu’n gweithio tuag at aelodaeth (CIWEM)

     

  3. Sgiliau datblygedig iawn o ran delio â chwsmeriaid, gyda gwybodaeth eang am ein dyletswyddau a’n cyfrifoldebau er mwyn diwallu anghenion cwsmeriaid.

     

  4. Y gallu i ddeall, herio, arwain a chynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar bob lefel mewn sefyllfaoedd technegol ac annhechnegol. Y gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau i amddiffyn a gwella’r amgylchedd yng Nghymru.  

  5. Y gallu i weithio ar y cyd ag arweinwyr tîm eraill ar draws y sefydliad a briffio timau uwch-reolwyr yn rhagweithiol ar broblemau a datrysiadau. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf