Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig (PrAC)

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2023
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Medi 2024

Diben

Mae Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn bwyllgor a sefydlwyd i roi cyngor a sicrwydd amserol i’r Bwrdd mewn perthynas â’i gylch gorchwyl, ac i wneud penderfyniadau penodol ac ymgymryd â swyddogaethau penodol fel a ddirprwywyd iddo gan y Bwrdd.  

Yn benodol, rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i’r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig gan y Bwrdd er mwyn cyflawni dyletswyddau statudol CNC o ran cyfrifoldebau CNC yn unol â deddfwriaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur a thirweddau dynodedig.

Yn benodol, mae Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn ymdrin â hysbysu a dad-hysbysu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), datgan a dad-ddatgan Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a'r ddyletswydd i barhau i adolygu harddwch naturiol, dynodiad, amrywiad a dirymiad Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Diffiniad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yw ardal o dir a nodir gan gorff cadwraeth o dan adran 28 o’r Ddeddf honno fel un sydd

"o ddiddordeb arbennig oherwydd ei fflora, ffawna, neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol".

O dan adrannau 28(1) a 28(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), pan fydd CNC o'r farn fod unrhyw ardal o dir o ddiddordeb arbennig, mae ganddo ddyletswydd i hysbysu'r ffaith honno ac, ar ôl hynny ac o fewn naw mis, naill ai roi rhybudd yn tynnu'r hysbysiad yn ôl neu'n cadarnhau'r hysbysiad (gyda diwygiadau neu hebddynt).

Yn ogystal, mae gan CNC bwerau i amrywio hysbysiad, hysbysu tir ychwanegol, hysbysu ehangiad i SoDdGA a dad-hysbysu SoDdGA, a hynny drwy rinwedd adrannau 28A – 28D o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Diffiniad gwarchodfa natur yn adran 15 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yw tir a reolir er cadwraeth at ddiben

“darparu, dan amodau addas a dan reolaeth, cyfleoedd arbennig er mwyn astudio ac ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â fflora a ffawna Prydain a'r amodau ffisegol maent yn byw ynddynt ac er mwyn astudio nodweddion daearegol a ffisiograffigol o ddiddordeb arbennig yn yr ardal, neu gynnal fflora, ffawna neu nodweddion geolegol neu ffisiograffigol o ddiddordeb arbennig yn yr ardal".

Mae gan CNC hawl i ddatgan a dad-ddatgan ardaloedd a fydd yn cael eu rheoli fel gwarchodfeydd natur – neu a fydd yn peidio â pharhau fel gwarchodfeydd natur – drwy rinwedd adran 19 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, a thrwy adran 35(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i ddatgan unrhyw warchodfa natur y mae'n ystyried ei bod o bwys cenedlaethol yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

O dan adran 35(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), gall CNC ddatgan bod unrhyw dir yn Warchodfa Natur Genedlaethol os yw'n fodlon bod y tir o bwys cenedlaethol ac yn cael ei reoli fel gwarchodfa natur dan gytundeb gyda CNC, by tir yn cael ei gadw gan CNC yn cael ei reoli fel gwarchodfa natur, neu ei fod yn cael ei gadw gan gorff cymeradwy ac yn cael ei reoli.

Harddwch Naturiol

O dan adran 2(2), Swyddogaethau Cefn Gwlad, o Ddeddf Cefn Gwlad 1968, mae gofyn i CNC gynnal adolygiadau parhaus o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • darpariaeth a gwelliant cyfleusterau er mwyn mwynhau cefn gwlad
  • cadwraeth a gwella harddwch ac amwynder naturiol cefn gwlad; a’r
  • angen i sicrhau mynediad cyhoeddus i gefn gwlad at ddibenion hamdden awyr agored.

Yn gysylltiedig â hyn, o dan adran 85(b) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mae gan CNC ddyletswydd i ymchwilio i gwestiynau sy'n ymwneud â harddwch naturiol ac adrodd amdanynt.

Mae'r dyletswyddau cyffredinol hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y sail dystiolaeth i lywio penderfyniadau ar bwerau dynodi CNCwn perthynas â Pharciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Parciau Cenedlaethol

Mae adran 5(2) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yn rhoi'r pŵer i CNC ddynodi rhanbarthau estynedig o gefn gwlad yng Nghymru yn Barc Cenedlaethol drwy rinwedd:

  • eu harddwch naturiol a’r
  • cyfleoedd maent yn eu cynnig ar gyfer hamdden awyr agored, gan ystyried eu nodweddion a'u lleoliad mewn perthynas â chanolfannau poblogaeth. Mae'n arbennig o ddymunol os ydynt yn cael eu dynodi'n Barciau Cenedlaethol at y dibenion canlynol:
    • cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal
    • hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dealltwriaeth a mwynhad o rinweddau arbennig yr ardaloedd hynny gan y cyhoedd

Mae adran 6(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yn gwneud darpariaeth am ddyletswydd gyffredinol i CNC o bryd i'w gilydd ystyried ardaloedd newydd a phresennol i'w dynodi, trefn y dynodiad hwnnw a'r amserlen.

Oherwydd maint y goblygiadau sydd ynghlwm wrth ddynodi Parc Cenedlaethol newydd posibl, mae angen i'r Bwrdd drafod a chymeradwyo asesiad cychwynnol o ran a yw ardal yn gymwys i gael ei hystyried i gael ei dynodi, a blaenoriaethau cynigion am ddynodi Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffiniau. Caiff y dyletswyddau hyn eu dirprwyo i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig cyn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan Fwrdd CNC i barhau â'r broses dynodi statudol. Os bydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymeradwyo unrhyw ymgynghoriad statudol o dan adran 7 o Ddeddf 1949, bydd yn cynnal ymgynghoriad o’r fath ac yna, ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn penderfynu a fydd yn cyflwyno Gorchymyn Dynodi i un o Weinidogion Cymru ai peidio. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, dylid rhoi rhybudd priodol fel sy'n ofynnol o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1949. Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru geisio datrys gwrthwynebiadau neu sylwadau a dderbynnir. Fodd bynnag, os nad oes modd datrys gwrthwynebiadau neu sylwadau, dylent gael eu hanfon gyda'r gorchymyn dynodi pan fo'n cael ei anfon at Weinidog Cymru. Gall Bwrdd CNC ddewis dirprwyo'r swyddogaethau hyn i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig.

Mae adran 11A o Ddeddf 1949 (fel y'i diwygiwyd) yn rhoi dyletswydd ar CNC i ystyried dibenion cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau nodweddion arbennig yr ardal gan y cyhoedd, wrth ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau sy'n effeithio ar y Parciau Cenedlaethol neu unrhyw dir mewn Parc Cenedlaethol.

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

Mae adran 82(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn rhoi'r pŵer i CNC ddynodi Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

Dylai'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig drafod a chymeradwyo asesiad cychwynnol i ganfod a yw ardal yn gymwys i'w hystyried am ddynodiad AHNE newydd neu amrywiad ffin cyn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan Fwrdd CNC i fwrw ymlaen â'r broses dynodi statudol. Os bydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymeradwyo unrhyw ymgynghoriad statudol o dan adran 83 o Ddeddf 2000, bydd yn cynnal ymgynghoriad o’r fath ac yna, ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn penderfynu a fydd yn cyflwyno gorchymyn dynodi i Senedd Cymru ai peidio. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, dylid rhoi rhybudd priodol fel sy'n ofynnol o dan adran 82(2) o Ddeddf 2000. Dylai CNC geisio datrys gwrthwynebiadau neu sylwadau a dderbynnir. Fodd bynnag, os nad oes modd datrys gwrthwynebiadau neu sylwadau, dylent gael eu hanfon ynghyd â'r gorchymyn dynodi pan gaiff ei anfon at Senedd Cymru. Gall Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ddewis dirprwyo'r swyddogaethau hyn i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig.

Mae adran 85 o Ddeddf 2000 yn rhoi dyletswydd ar CNC i ystyried diben cadw a gwella harddwch naturiol yr AHNE wrth ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â thir mewn AHNE neu sy'n effeithio arno.

O dan adran 86 a 91 o Ddeddf 2000, mae gofyn i Senedd Cymru ymgynghori â CNC ar unrhyw orchymyn i sefydlu Bwrdd Cadwraeth ac ar swm unrhyw grantiau gan y Senedd i Fwrdd Cadwraeth.

Cwmpas

Mae’r Bwrdd yn awdurdodi’r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig ac yn gofyn iddo wneud y canlynol:

Gwneud penderfyniadau ar warchod tir ar sail y dystiolaeth a gyflwynir i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy’n orfodadwy yn gyfreithiol.

Cefnogi'r Bwrdd â'r Tîm Gweithredol drwy ddarparu cyngor ar waith achos strategol a materion ehangach sy’n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig. Yn benodol, mae'n darparu ffocws am drafodaethau'r Bwrdd ar faterion sy'n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig, gan gynnwys eu rôl wrth brif ffrydio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Cyflawni ei rôl mewn ffyrdd sy’n ategu ac yn alinio â chylch gorchwyl a rôl ac arddull y Pwyllgor Ystad Tir CNC.  Mae gan y Pwyllgor hwn gyfrifoldebau penodol dros ddefnydd o dir a reolir gan CNC ac am hybu rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn y cyd-destun hwnnw.

Cefnogi’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol, gan ddarparu ffocws ar gyfer trafodaethau strategol y Bwrdd ar faterion sy’n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig, gan gynnwys eu rôl wrth brif ffrydio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac i fynd i’r afael â’r materion hinsawdd, natur a bioamrywiaeth.

Craffu a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar berfformiad tuag at Amcanion Llesiant y Cynllun Corfforaethol fel sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig.

Cyfrifoldebau

Dyma gyfrifoldebau cyffredinol y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig:

  • Defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn unol ag egwyddorion arfer da a chanllawiau ar ddefnyddio cyngor gwyddonol, gan gynnwys trosolwg o waith monitro perthnasol, ystyriaeth o wybodaeth rheoli perfformiad a chydweithrediadau gyda sefydliadau partner i rannu a dadansoddi data.
  • Cefnogi'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol drwy ddarparu cyngor ar faterion ehangach yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos strategol.
  • Derbyn adroddiadau a sicrwydd ar y gwaith a wneir gan CNC i gynnal y gofrestr ardaloedd gwarchodedig a sicrhau ei bod yn cael ei chyhoeddi a’i bod ar gael i'r cyhoedd ei gweld ar wefan CNC.
  • Sicrhau bod aelodau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn cael eu briffio'n addas ac yn llawn ar unrhyw arweiniad cyfreithiol perthnasol o ran amgylchiadau pob safle.
  • Asesu unrhyw wybodaeth newydd sy’n berthnasol, gan fod yn ymwybodol fod penderfyniadau'n aml yn gofyn am asesiadau'n seiliedig ar y data neu dystiolaeth orau sydd ar gael, a allai fod yn gyfyngedig.
  • Derbyn adroddiadau a chyngor ar gyfraith achos sy'n berthnasol i gyfrifoldebau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig.
  • Cynghori'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr ar bresenoldeb mewn achosion llys i amddiffyn penderfyniadau CNC ar warchod safleoedd drwy'r system gyfiawnder.
  • Rhoi ystyriaeth i alinio penderfyniadau ac arferion gydag egwyddorion, rheoliadau a chanllawiau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd.

Caiff hyfforddiant ac arweiniad cyfreithiol priodol eu darparu i aelodau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig a'u diweddaru'n rheolaidd, a chedwir cofnod o hyn.

Dyma gyfrifoldebau Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy'n benodol i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAu):

  • Sefydlu a mabwysiadu gweithdrefnau a safonau priodol ffurfiol i gwblhau’r gwaith a ddirprwyir gan y Bwrdd i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig o ran cyflawni cyfrifoldebau CNC mewn perthynas â chadarnhau, amrywio, ychwanegu at neu ehangu, a dad-hysbysu SoDdGAu wrth ystyried gwrthwynebiadau nad ydynt wedi cael eu datrys (gan gynnwys trefniadau ar gyfer ymgysylltu a chyfathrebu â pherchnogion, deiliaid a rhanddeiliaid perthnasol eraill o fewn yr amserlenni disgwyliedig ac yn unol â chyfraith achos).
  • Cynnal cyfarfodydd cyhoeddus sy'n ymwneud â safleoedd unigol yn unol â'r amserlen a nodir yn adran 28(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ar gyfer adolygu cynigion sy'n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig.
  • Ystyried cynigion ar gyfer cadarnhau hysbysu, amrywio, ychwanegu at neu ehangu SoDdGAu, gan gynnwys penderfynu, yn gyfan neu'n rhannol, a yw’r safle'n bodloni'r meini prawf, yn gymwys, ac yn briodol er mwyn hysbysu, amrywio, ychwanegu at neu ehangu’r SoDdGA, gan ystyried gwrthwynebiadau heb eu datrys.
  • Ystyried cynigion ar gyfer cadarnhau dad-hysbysu SoDdGAu, gan gynnwys asesu a phenderfynu, yn gyfan neu'n rhannol, a yw’r safle'n bodloni'r meini prawf sy’n golygu bod dad-hysbysu’n briodol, gan ystyried gwrthwynebiadau sydd heb eu datrys.
  • Adolygu a phrofi unrhyw wrthwynebiad ar gyfer hysbysu, amrywio, ychwanegu at neu ehangu, neu dad-hysbysu SoDdGA ar sail yr wybodaeth sydd ar gael, gan achub ar y cyfle i gwestiynu swyddogion CNC, cynghorwyr arbenigol a rhanddeiliaid fel y bo'n briodol.Dod i farn ar a ddylai'r hysbysiad neu'r dad-hysbysiad gael ei gadarnhau gyda diwygiadau neu hebddynt.
  • Wrth gymeradwyo cadarnhau unrhyw hysbysiad SoDdGA, gall Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig wneud y canlynol:
    • cywiro camgymeriadau testun o fewn y ddogfennaeth;
    • dileu agweddau ar y disgrifiad;
    • dileu gweithrediadau o'r rhestr o weithrediadau sy'n debygol o ddifrodi diddordeb arbennig y safle, neu ddiwygio'r geiriad i'w wneud yn llai beichus neu yn fwy addas;
    • dileu ardaloedd o dir o'r SoDdGA lle nad ydynt bellach yn cefnogi unrhyw nodweddion o ddiddordeb arbennig.

Wrth gymeradwyo cadarnhau unrhyw SoDdGA, ni all Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig ychwanegu'r canlynol:

  • unrhyw nodweddion arbennig;
  • unrhyw weithrediadau sy'n debygol o ddifrodi diddordeb arbennig y safle;
  • unrhyw agweddau newydd ar y datganiad rheoli;
  • unrhyw dir i’r SoDdGA.

Byddai unrhyw ychwanegiadau o'r fath yn gofyn am hysbysiad pellach ar gyfer y SoDdGA.

Mae cyfrifoldebau Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy'n benodol i Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn cynnwys y canlynol:

  • Sefydlu a mabwysiadu gweithdrefnau a safonau priodol ffurfiol i gwblhau’r gwaith a ddirprwyir gan y Bwrdd i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig o ran cyflawni cyfrifoldebau CNC ar gyfer datgan a dad-ddatgan Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
  • Ystyried cynigion ar gyfer datgan tir fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol, gan gynnwys penderfynu, yn gyfan neu'n rhannol, a yw'r safle'n bodloni'r meini prawf, yn gymwys ac yn briodol i'w ddatgan.
  • Ystyried cynigion ar gyfer dad-ddatgan Gwarchodfa Natur Cenedlaethol gyfan neu ran ohoni a’i hailddatgan ar ôl hynny (er enghraifft, i alluogi'r gwaith o drosglwyddo swyddogaethau rheoli rhwng CNC a chorff cymeradwy presennol).
  • Ystyried cymeradwyo cynlluniau arfaethedig i ddad-ddatgan tir fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Dyma gyfrifoldebau Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy'n benodol i Barciau Cenedlaethol:

  • Cynghori Bwrdd CNC o ran ystyried dynodiad Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffiniau Parc Cenedlaethol presennol.
  • Cynghori Bwrdd CNC ynghylch a ddylid cymeradwyo cynnal ymgynghoriad statudol ar orchymyn dynodi drafft ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffin Parc Cenedlaethol presennol.
  • Os bydd gofyn, cynghori Bwrdd CNC ynghylch a ddylid cymeradwyo cyflwyno gorchymyn dynodi a sylwadau ar gyfer dynodi Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffiniau at Weinidogion Cymru er mwyn cael cadarnhad.

Dyma gyfrifoldebau Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy'n benodol i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE):

  • Cynghori Bwrdd CNC ar ystyried dynodi AHNE newydd neu amrywio ffiniau AHNE bresennol.
  • Cynghori Bwrdd CNC ynghylch a ddylid cymeradwyo cynnal ymgynghoriad statudol ar orchymyn dynodi drafft ar gyfer AHNE newydd neu amrywio ffin AHNE bresennol.
  • Os bydd gofyn, cynghori Bwrdd CNC ynghylch a ddylid cymeradwyo cyflwyno gorchymyn dynodi a sylwadau ar gyfer dynodi Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffiniau at Weinidogion Cymru er mwyn cael cadarnhad.

Cyfarfodydd

Fel arfer, mae Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn cwrdd o leiaf tair gwaith y flwyddyn a byth yn llai nag unwaith y flwyddyn.

Bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu galw yn ôl yr angen ar gyfer dibenion dynodi dan adrannau 3.3-3.6 uchod.

Aelodaeth

Cadeirydd Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig fydd Dr Rosie Plummer.

Bydd aelodaeth yn cynnwys pedwar aelod anweithredol (yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor).

Caiff y canlynol eu gwahodd i fynychu fel arfer:

  • Cyfreithiwr ag arbenigedd priodol mewn cyfraith amgylcheddol i ddarparu arweiniad a chyngor cyfreithiol yn ystod y cyfarfod;
  • Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau
  • Staff cadwraeth CNC ag arbenigedd ar y safleoedd penodol dan ystyriaeth yn y cyfarfod;
  • Eraill â gwybodaeth ac arbenigedd yn berthnasol i'r safleoedd penodol dan ystyriaeth yn y cyfarfod
Diweddarwyd ddiwethaf