Pwyllgor archwilio a rheoli risg (ARAC)

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2023
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Medi 2024

Diben

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC) yn bwyllgor sefydlog sy’n un o ofynion Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru gyda CNC. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chefnogi’r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu ar faterion risg, stiwardiaeth ariannol ac atebolrwydd, rheolaeth fewnol a llywodraethu.  

Cwmpas

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn rhoi sicrwydd o ran sefydlu a chynnal amgylchedd rheoli effeithiol er mwyn sicrhau uniondeb, cynaliadwyedd a pharhad, a hynny'n ariannol ac o ran busnes ehangach.

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn monitro prosesau rheoli risg CNC i sicrhau eu heffeithiolrwydd wrth ragweld risgiau yn y dyfodol, ynghyd â mynd i'r afael â risgiau presennol, a sicrhau bod mesurau lliniaru risg yn gyson ag archwaeth risg CNC.

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn darparu Adroddiad Blynyddol i'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu yn crynhoi'r busnes y mae wedi'i gynnal yn ystod y flwyddyn a'r casgliadau yn sgil hynny. Bydd hyn hefyd yn llywio'r gwaith o lunio Datganiad Llywodraethu'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu.

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn craffu a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ar berfformiad tuag at Amcanion Llesiant y Cynllun Corfforaethol fel sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.

Cyfrifoldebau

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn gyfrifol am effeithiolrwydd rheolaethau ariannol allweddol a rheolaethau eraill drwy sicrhau ei fod yn derbyn sicrwydd priodol o'r canlynol:

Fframweithiau ariannol a fframweithiau rheoli mewnol eraill;

  • Fframwaith rheoli risg, gan gynnwys alinio ei adolygiad ei hun o faterion risgiau gydag archwiliadau dwfn a gynhelir gan Bwyllgorau eraill y Bwrdd;
  • Risgiau strategol sy'n berthnasol i gydymffurfio, drwy ymgymryd â rhaglen o archwiliadau dwfn i graffu ar sgoriau cyfredol a thargedau, gan geisio hyder ynghylch priodoldeb y camau gweithredu a gynlluniwyd i reoli risgiau a chyrraedd y sgoriau targed a nodwyd;
  • Trefniadau llywodraethu corfforaethol CNC;
  • Polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â thwyll, afreoleidd-dra a datgelu er budd y cyhoedd;
  • Rheoli risgiau Gwybodaeth, Data a Seiberddiogelwch, gan geisio hyder bod y risgiau hynny'n cael eu rheoli'n briodol a bod dulliau rheoli angenrheidiol ar waith;
  • Gweithredu argymhellion cymeradwy sy'n ymwneud ag adroddiadau archwilio mewnol ac allanol ac ymatebion rheolwyr;
  • ystyried elfennau o'r datganiadau ariannol blynyddol ym mhresenoldeb yr archwilwyr allanol, gan gynnwys barn ffurfiol yr archwilwyr, y datganiad o gyfrifoldebau aelodau a'r datganiad rheolaeth fewnol;
  • adolygu'r polisïau cyfrifyddu sy'n ymwneud â'r datganiadau ariannol, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw newidiadau, a rhoi sylwadau ar eu digonolrwydd;
  • craffu ac adrodd i'r Bwrdd ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CNC a Datganiad Llywodraethu'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu, ac argymell cymeradwyaeth i'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu lofnodi'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon;
  • hysbysu'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu am faterion sy'n peri risg sylweddol;
  • cael sicrwydd ynghylch materion yn ymwneud â thwyll, colledion a thaliadau arbennig, gan gynnwys yr Adroddiad Blynyddol;
  • craffu ar yr holl gontractau arwyddocaol a osodir heb gystadleuaeth (yn unigol neu ar y cyd) er mwyn cefnogi tryloywder o ran penderfyniadau;
  • trosolwg a chraffu ar gynnydd a chyflawni'r rhaglen trawsnewid busnes Gweledigaeth ar gyfer Llywodraethu Da.

Archwilio Allanol 

Swyddfa Archwilio Cymru yw archwilydd allanol CNC.

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn adolygu gwaith yr archwilydd allanol ac yn ystyried ei ganfyddiadau ac ymateb y rheolwyr iddynt. Mae cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • adolygu ac argymell (i'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu) y dylid cymeradwyo'r cynllun archwilio allanol blynyddol a'r ffi archwilio;
  • adolygu'r holl adroddiadau archwilio allanol, gan gynnwys yr adroddiad cwblhau archwiliad, cyn ei gyflwyno'n derfynol i'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu a Bwrdd CNC, yn ogystal ag unrhyw waith a wneir y tu allan i'r cynllun archwilio allanol blynyddol, ac ymateb y rheolwyr yn hynny o beth;
  • adolygu perfformiad yr archwilydd allanol.

Archwilio Mewnol

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn goruchwylio trefniadau archwilio mewnol CNC i sicrhau eu heffeithiolrwydd, a bydd yn adolygu gwaith a chanfyddiadau'r archwilwyr mewnol, ynghyd ag ymatebion y rheolwyr. Mae cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • cytuno ar y strategaeth archwilio mewnol a'r cynllun archwilio mewnol blynyddol;
  • derbyn ac adolygu adroddiadau archwilio mewnol sy'n benodol i'r pwnc, ynghyd ag ymatebion y rheolwyr;
  • derbyn ac adolygu'r Farn Archwilio Mewnol;
  • adolygu perfformiad y gwasanaeth archwilio mewnol.

Sicrwydd

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn goruchwylio trefniadau sicrwydd CNC i sicrhau eu bod yn effeithiol a bydd yn darparu arweinyddiaeth, craffu, ac arweiniad ar weithgarwch sicrwydd, sicrhau eu bod yn cyd-fynd â risgiau strategol y sefydliad ac â gweithgarwch a chanfyddiadau Archwilio Mewnol. Mae cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • Cytuno ar y strategaeth sicrwydd a'r cynllun sicrwydd blynyddol;
  • Derbyn ac adolygu adroddiadau sicrwydd cyfnodol;
  • Craffu ar berfformiad dros y model tair llinell, gan sicrhau ffocws ar wendidau;
  • Hyrwyddo a chraffu ar ddatblygiad sicrwydd risg, ac ymgorffori dull holistig o ran rheoli risg, rheoliadau a sicrwydd

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn amcanu i gwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, yn nodweddiadol i gynorthwyo â gwaith y cylch rhaglennu a chyllidebu. Gellir galw cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.

O leiaf unwaith y flwyddyn, ac fel arall yn ôl yr angen, bydd yr archwilwyr mewnol ac allanol yn cwrdd â'r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg heb i aelodau'r weithrediaeth fod yn bresennol.

Aelodaeth

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg fydd Kathleen Palmer.

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a mynychwyr eraill yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd, y mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt feddu ar arbenigedd priodol mewn rheolaeth ariannol, cyfrifyddu ac archwilio.

Gwahoddir cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru i fod yn bresennol.

Bydd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu, y Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a'r Pennaeth Llywodraethu a Chynllunio, fel arfer yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg, ac eithrio pan gânt eu gwahardd yn benodol am drafod materion sy'n effeithio ar eu sefyllfa neu eu perfformiad personol.

Diweddarwyd ddiwethaf