Pwyllgor Pobl a Cwsmeriaid (PCC)

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Hydref 2022
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Hydref 2023

Diben

Mae'r Pwyllgor Pobl a Cwsmeriaid (PCC) yn bwyllgor sefydlog sy'n ystyried materion sy'n ymwneud â: rheoli pobl; gwobrwyo; datblygu sefydliadol strategol; Iechyd, Diogelwch a Lles; Cwsmeriaid; Cwynion a Chanmoliaeth; Rhanddeiliaid, y Gymraeg, Cyfathrebu a gwasanaethau digidol, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; a newid sefydliadol ar ran Bwrdd CNC.

Cwmpas

Mae'r Pwyllgor Pobl a Cwsmeriaid (PCC) yn goruchwylio'r strategaeth tâl ac amodau a chyflog cyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan CNC, darpariaeth cynllun pensiwn, lles, iechyd a diogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth a datblygiad yr Iaith Gymraeg. Mae'r Bwrdd wedi dirprwyo cyfrifoldeb i'r PCC am gymeradwyo'r dyfarniad cyflog staff blynyddol.

Mae'r PCC yn cynghori ar ddatblygu sefydliadol strategol, gan sicrhau bod strategaeth glir ar waith, ynghyd â dylunio, dysgu a datblygu sefydliadol effeithiol a fforddiadwy, a bod mentrau newid sylweddol yn cael eu rheoli’n effeithiol, gyda'r bwriad o sicrhau gweithlu cynhwysol ac arloesol llawn cymhelliant, sy'n perfformio'n dda.

Mae'r PCC hefyd yn goruchwylio'r gwaith o ymwreiddio rhagoriaeth ym mhrofiad cwsmeriaid a rhanddeiliaid ar ran y Bwrdd, fel elfen allweddol o ddiwylliant sefydliadol.

Cyfrifoldebau

Mae gan y Pwyllgor Pobl a Cwsmeriaid y cyfrifoldebau canlynol am wobrwyo, sef:

  • goruchwylio'r strategaeth wobrwyo gyffredinol, y cynllun gwerthuso swyddi a'r telerau ac amodau ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan CNC gan gynnwys y Prif Weithredwr a'r Tîm Gweithredol;
  • adolygu perfformiad yn erbyn amcanion ar gyfer y Prif Weithredwr, ynghyd ag asesiad y Prif Weithredwr o berfformiad y Tîm Gweithredol;
  • cymeradwyo unrhyw ddyfarniadau cyflog blynyddol ar gyfer staff (cyfrifoldeb dirprwyedig gan y Bwrdd).

Pobl:

  • darparu sicrwydd i'r Bwrdd bod polisïau pobl Cyfoeth Naturiol Cymru a'i Strategaeth Pobl yn cefnogi'r gwaith o gyflawni diben strategol y sefydliad; a bod ei amodau cyflogaeth yn unol â'r canllawiau perthnasol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Trysorlys Ei Fawrhydi, a Swyddfa'r Cabinet fel y bo'n briodol;
  • goruchwylio a chraffu ar yr holl adroddiadau perthnasol ar gyfer trawsnewid busnes Pobl.

Talent ac Olyniaeth:

  • adolygu prosesau cynllunio olyniaeth y Tîm Gweithredol a materion cydnerthedd sefydliadol cysylltiedig, gan gynnwys hyfforddiant a datblygiad;
  • goruchwylio strwythur y Tîm Gweithredol a recriwtio i'r tîm hwn.

Pensiynau:

  • goruchwylio'r strategaeth ddarparu pensiwn mewn perthynas â buddion staff a threfniadau gweinyddol.
  • dirprwyo cyfrifoldeb gan Fwrdd CNC mewn perthynas â Datganiad Polisi Dewisol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) - i ystyried a chymeradwyo materion sy'n ymwneud â disgresiwn cyflogwyr o dan reoliad CPLlL.

Trefniadau Ymadael:

  • ystyried a chadarnhau ceisiadau ymadael a thaliadau diswyddo'r Tîm Gweithredol;
  • cadw trosolwg o drefniadau ymadael megis diswyddiadau;
  • Cadeirydd PCC i adolygu a chadarnhau taliadau diswyddo staff hyd at a chan gynnwys y Tîm Arweinyddiaeth, er mwyn darparu sicrwydd a chydymffurfiaeth fel y nodir yn y canllawiau perthnasol.

Lles, iechyd a diogelwch:

  • craffu a darparu sicrwydd i'r Bwrdd bod strategaeth, cynlluniau a pholisïau effeithiol ar waith;
  • adolygu risgiau allweddol a monitro lles, iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau bod y Weithrediaeth yn cael ei reoli'n effeithiol, gan adrodd i'r Bwrdd ar unrhyw faterion arwyddocaol.

Y Gymraeg:

  • darparu sicrwydd i'r Bwrdd bod y sefydliad yn dilyn ei uchelgeisiau tuag at ddod yn sefydliad dwyieithog;
  • ystyried gofynion Comisiynydd y Gymraeg a chynlluniau ac ymatebion y Weithrediaeth.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:

  • darparu sicrwydd i'r Bwrdd bod y sefydliad yn dilyn ei uchelgeisiau tuag at ddod yn sefydliad cynhwysol;
  • ystyried gofynion y Comisiynydd a chynlluniau ac ymatebion y Weithrediaeth.

Profiad y Cwsmer:

  • goruchwylio Strategaeth Profiad ac Ymgysylltiad Cwsmeriaid a Strategaeth Ddigidol CNC i ddatblygu sefydliad sy'n ymgorffori diwylliant o brofiadau rhagorol i gwsmeriaid ac sy'n sicrhau bod CNC yn rhoi'r cwsmer wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud;
  • ystyried yr holl adroddiadau perthnasol ar sut mae CNC yn ymgysylltu â phobl a rhanddeiliaid, sut mae'n dylanwadu ac yn cefnogi newid drwy ei gyfathrebu a rheoli cysylltiadau a sut mae'n gwrando ar bobl a chwsmeriaid, i lunio gwasanaethau a dod yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan ddefnyddwyr, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
    • Adroddiad blynyddol Rhyddid Gwybodaeth
    • Cwynion a Chanmoliaeth
    • Adroddiad effaith cyfathrebu
    • Dadansoddeg ddigidol
  • goruchwylio a chraffu ar yr holl adroddiadau perthnasol ar gyfer trawsnewid busnes Cwsmeriaid a thrawsnewid digidol

Datblygu Sefydliadol:

  • goruchwylio Strategaeth CNC i ddatblygu'r sefydliad, ei dimau, a phobl i sicrhau eglurder o ran pwrpas, arweinyddiaeth effeithiol a newid diwylliannol, ac adrodd i'r Bwrdd ar gynnydd;
  • fel rhan o weithredu'r strategaeth, er mwyn:
    • adolygu adborth gan staff, gan gynnwys arolygon staff a gweithredoedd a chynnydd y Weithrediaeth, ac ystyried sut y caiff hyn ei asesu a'i weithredu;
    • cynghori ar ddatblygu cynllun gweithlu strategol;
    • darparu cyngor ar newid diwylliannol, datblygu arweinyddiaeth, dylunio sefydliadol, a newid strategol;
    • goruchwylio newid ar draws y sefydliad, craffu ar gynlluniau, risgiau a chynnydd;
  • monitro ac adolygu darpariaeth a buddion achosion busnes allweddol a'r cynllun gwireddu buddion fel rhan o werthusiad ôl-freinio.

Rhanddeiliad:

  • goruchwylio Strategaeth Profiad ac Ymgysylltiad Cwsmeriaid i ddatblygu sefydliad sy'n ymgorffori diwylliant o brofiadau rhagorol i randdeiliaid ac sy'n sicrhau bod CNC yn rhoi'r rhanddeiliaid wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud;
  • ystyried yr holl adroddiadau perthnasol ar sut mae CNC yn ymgysylltu â phobl a rhanddeiliaid, sut mae'n dylanwadu ac yn cefnogi newid drwy ei gyfathrebu a rheoli perthnasoedd a sut mae'n gwrando ar bobl a chwsmeriaid, i lunio gwasanaethau a dod yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan ddefnyddwyr;
  • goruchwylio a chraffu ar yr holl adroddiadau perthnasol ar gyfer rhaglen trawsnewid busnes Rhanddeiliaid.

Arall:

  • adolygu a chraffu ar yr Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon;
  • goruchwylio a chraffu ar yr holl adroddiadau perthnasol ar gyfer trawsnewid busnes Digidol;
  • goruchwylio a chraffu ar yr holl adroddiadau perthnasol ar gyfer rhaglen trawsnewid busnes Adfywio;
  • ystyried unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â gwobrwyo, telerau ac amodau a rheoli pobl a gyfeirir at y Pwyllgor gan Gadeirydd CNC neu'r Bwrdd;
  • sicrhau bod Polisi Diogelu CNC, i amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed, yn addas at y diben.

Cyfarfodydd

Bydd y PCC fel arfer yn cyfarfod bob chwarter.

Gall Cadeirydd y Bwrdd neu'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu ofyn i'r Pwyllgor alw cyfarfodydd pellach i drafod materion lle byddai cyngor y PCC yn ddymunol.

Diweddarwyd ddiwethaf