Cylch Gorchwyl Pwyllgor Ystad Tir (LEC)
Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2022
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Medi 2023
Diben
- Mae'r Pwyllgor Ystad Tir (LEC) yn bwyllgor sefydlog a'i brif rôl yw rhoi cyngor i'r Bwrdd ar sut i reoli’r tir sy’n eiddo i CNC yn gynaliadwy, gan gynnwys buddsoddi yn yr ystad, rheoli’r tir a chyflwyno cynigion ar gyfer newid defnydd.
Cwmpas
- Prif swyddogaethau’r pwyllgor yw rhoi arweinyddiaeth feddyliol a chraffu ar y modd mae CNC yn defnyddio’r tir a reolir ganddo, er mwyn sicrhau bod y tir yn cael ei ddefnyddio a'i reoli mewn modd sy'n hyrwyddo Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR).
- Mae cwmpas yr ystad dir wedi'i gyfyngu i dir o dan berchnogaeth a/neu reolaeth CNC. Mae cylch gwaith yr LEC yn cynnwys Ystad Goed Llywodraeth Cymru (WGWE); Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (NNRs) sydd yng ngofal uniongyrchol CNC; canolfannau ymwelwyr; cyfleusterau hamdden neu dwristiaeth sefydledig eraill sy’n rhan o’r Ystad; defnydd hamdden o ddyfroedd; datblygiad masnachol cynaliadwy a/neu ddefnyddio Ystad CNC gan gynnwys, er enghraifft, gwerthu coed a thwristiaeth, hamdden a datblygiadau diwylliannol; a chronfeydd dŵr; tipiau mwyngloddiau; a mwyngloddiau metel ar Ystad CNC. Nid yw'n cynnwys rheoli asedau llifogydd, gan gynnwys ymhlith asedau eraill y cronfeydd a gwmpesir gan y swyddogaeth Perygl Llifogydd a Rheoli Digwyddiadau gyda'r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd.
- Bydd yr LEC yn ategu ac yn osgoi gorgyffwrdd â chylch gwaith y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig (PrAC). Mae gan y PrAC gyfrifoldebau penodol mewn perthynas â dynodi ac ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos cysylltiedig ac ar gyfer prif ffrydio "SMNR" drwy'r cyd-destun hwn. Yn benodol, bydd y PrAC yn gyfrifol am benderfyniadau lefel is-bwyllgor ar ddynodi ardaloedd o Ystad CNC.
Cyfrifoldebau
- Rhoi cyngor i'r Tîm Gweithredol, a gwneud argymhellion i Fwrdd CNC fel y bo'n briodol, er mwyn:
- Hyrwyddo ffyrdd arloesol a blaengar o ddefnyddio ac addasu ystad tir CNC i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur;
- Defnyddio ei awdurdod, ei brofiad a'i ddylanwad cyfunol ynghyd â phartneriaid allanol megis cymunedau lleol i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd;
- Ystyried a chynghori ar gynigion lefel uchel ar gyfer datblygu’r ystad tir yn fasnachol gynaliadwy, gan gynnwys arallgyfeirio a hyrwyddo mentrau gwyrdd, gan ganolbwyntio ar bobl, ar y blaned, ac ar ffyniant;
- Rhoi cyngor a chyfeiriad wrth ddatblygu strategaeth a pholisi mewn perthynas â'r defnydd uniongyrchol o dir gan y Llywodraeth;
- Darparu cyngor lefel uchel ar ddatblygu a chyflawni Cynllun y Gwasanaeth Stiwardiaeth Tir ac elfennau o'r Cynllun Gwasanaeth Masnachol sy'n gysylltiedig ag Ystad CNC, gan gynnwys y fframwaith risg Stiwardiaeth Tir a'r risgiau perthnasol yn y fframwaith risg Masnachol;
- Materion rheoli ystad tir allweddol eraill ar sail angen.
Cyfarfodydd
- Bydd yr LEC yn cyfarfod bob chwarter ar y mwyaf, tua mis Ionawr ac Ebrill fel arfer i gynorthwyo gyda'r rhaglennu a'r cylch cyllidebol. Gellir galw cyfarfodydd ychwanegol yn ôl y gofyn.
- Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cefnogi gan dîm yr Ysgrifenyddiaeth ac aelodau o'r tîm Stiwardiaeth Tir yn bennaf, gyda chefnogaeth cydweithwyr o’r adran datblygiad masnachol cynaliadwy ac arbenigwyr pwnc eraill yn ôl y gofyn.
Aelodaeth
- Yr Athro Calvin Jones fydd yn cadeirio'r LEC.
- Bydd yr aelodaeth yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd.
- Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu; Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol; Pennaeth Stiwardiaeth Tir; a bydd y Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy yn mynychu cyfarfodydd fel arfer hefyd.
Aelodau presennol (ym mis Tachwedd 2022)
Cadeirydd
- Yr Athro Calvin Jones
Aelodau
- Peter Fox, Aelod Bwrdd
- Geraint Davies, Aelod o'r Bwrdd
- Mark McKenna, Aelod o'r Bwrdd
Arweinydd Gweithredol
- Gareth O'Shea - Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau
Mynychwyr rheolaidd eraill
- Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
- Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol
- Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir
- Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy
- Gavin Bown, Pennaeth Gwasanaeth
Diweddarwyd ddiwethaf