Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd (FRMC) – Cylch gorchwyl penodol

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Hydref 2022
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Hydref 2023

Diben

Mae'r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd (FRMC) yn bwyllgor sefydlog a'i brif rôl yw cynghori'r Bwrdd ar fuddsoddi, rheoli a chynigion perygl llifogydd.

Cwmpas 

Mae'r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn cynorthwyo'r Bwrdd i gyflawni nifer o swyddogaethau rheoli perygl llifogydd statudol CNC yn unol ag Adran 106 Deddf Adnoddau Dŵr 1991.

Ei brif swyddogaethau yw craffu a chymeradwyo dyraniadau rhaglenni cyfalaf rheoli perygl llifogydd, gan gynghori'r Bwrdd ar berfformiad cyffredinol y darpariaethau llifogydd (cyfalaf). Mae'r Pwyllgor hefyd yn darparu gwaith craffu a goruchwylio ar gyfer diogelwch cronfeydd dŵr.

Cyfrifoldebau

Rhoi cyngor i'r Tîm Gweithredol, a gwneud argymhellion i Fwrdd CNC fel y bo'n briodol, ar y canlynol:

  • rhaglenni buddsoddi rheoli perygl llifogydd cyfredol a thymor canolig CNC, yn enwedig i helpu i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth; bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau, a bod y cyllidebau sydd ar gael yn cael eu defnyddio'n llawn;
  • materion rheoli perygl llifogydd allweddol eraill yn ôl yr angen;
  • y cynigion ar gyfer ardrethi ac ardollau neu Ardaloedd Draenio Mewnol, sy’n cael eu pennu’n flynyddol ar hyn o bryd;
  • goruchwylio diogelwch cronfeydd dŵr.

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn cwrdd yn chwarterol, gan gynnwys ym mis Ionawr a Mehefin fel arfer i gynorthwyo'r cylch rhaglennu a chyllidebau. Gellir trefnu cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.

Cefnogir y cyfarfodydd gan dîm yr Ysgrifenyddiaeth, y tîm Buddsoddi a Chynllunio Strategol ar gyfer Llifogydd ac aelodau'r tîm Cyllid.

Aelodaeth

Fel arfer, ni ddylai aelodau’r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd fod hefyd yn aelodau o'r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC) er mwyn cadw ar wahân a lleihau’r posibilrwydd o wrthdaro buddiannau. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl neu os oes achos cryf fod aelodau yn eistedd ar y ddau bwyllgor oherwydd eu meysydd arbenigedd penodol, dylid gwneud trefniadau addas i reoli unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i aelod o'r pwyllgor fod yn absennol o unrhyw drafodaethau yn ARAC ynghylch cyllid cyfalaf llifogydd.

Diweddarwyd ddiwethaf