Y pwyllgor cyllid (FC)
Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2022
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Tachwedd 2023
Diben
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn bwyllgor sefydlog a'i brif rôl yw cynghori'r Bwrdd a chefnogi'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu ar Gyllid, rheoli cyllideb a chynllunio.
Cwmpas
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid yn cyfuno cyfrifoldebau blaenorol y Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformio â chyfrifoldebau dau Grŵp Gorchwyl a Gorffen blaenorol (Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Bwrdd: Cyllid, Llywodraethu a Chyflawni a Grŵp Trosolwg Llywodraethu Gwerthu Pren y Bwrdd).
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn darparu cyngor, trosolwg a gwaith craffu ar strategaeth, rheolaeth a pherfformiad mewn perthynas â chyllid, cynllunio a pherfformiad busnes, cynlluniau codi tâl a materion masnachol (gan gynnwys gwerthu pren a gweithgaredd marchnata), cydymffurfiaeth a’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni. Wrth gyflawni ei rôl, bydd y Pwyllgor Cyllid yn canolbwyntio ar gyfeiriad a datblygiad strategol, ac ar graffu ar berfformiad a darpariaeth.
Bydd angen i'r Pwyllgor Cyllid sicrhau wrth gyflawni ei rôl nad yw'n dyblygu rôl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Rôl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yw cynghori'r Bwrdd ar risg, stiwardiaeth ac atebolrwydd ariannol, rheolaeth a llywodraethu. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn parhau i graffu ar welliannau a wneir mewn ymateb i adolygiadau a wneir gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol.
Mae gan y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg rolau ategol. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych ymlaen, gan wneud penderfyniadau o fewn eu cylch gorchwyl a rhoi cyngor i'r Bwrdd ar faterion ariannol a pherfformiad yn ôl y gofyn. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn craffu ac yn rhoi sicrwydd yn ôl y gofyn. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn arwain y gwaith o adolygu cynnydd ar weithgareddau masnachol, gwerthiant a marchnata (gan gynnwys pren), tra bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn darparu'r trosolwg. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn arwain y gwaith o adolygu cynnydd yn erbyn cydymffurfiaeth a'r tair llinell o waith amddiffyn, tra bydd y Pwyllgor Cyllid yn darparu'r trosolwg.
Cyfrifoldebau
Dyma gyfrifoldebau’r Pwyllgor Cyllid:
- darparu cyngor a chymorth wrth ddatblygu cynlluniau busnes blynyddol corfforaethol (4-5 mlynedd) a gweledigaeth tymor hir CNC (hyd at 2050);
- darparu cyngor a chymorth i sicrhau datblygiad strategaethau, adroddiadau rheoli a chynlluniau ariannol priodol;
- craffu ar y Gyllideb flynyddol cyn ei chyflwyno i’r Bwrdd cyfan er mwyn ei chymeradwyo, gan herio tybiaethau sylfaenol a chynghori’r Bwrdd ar sut i’w mabwysiadu;
- darparu trosolwg a gwaith craffu ar berfformiad ariannol CNC drwy ddatganiadau ariannol rheoli misol a chwarterol i sicrhau bod arian yn cael ei ddefnyddio’n briodol ac yn effeithiol;
- monitro sefyllfa ariannol a rhagolygon / cynaliadwyedd y sefydliad i’r dyfodol i sicrhau ei fod yn gallu parhau i gyflawni ei ymrwymiadau a’i amcanion strategol;
- hyrwyddo pwysigrwydd Gwerth am Arian, sicrhau bod dulliau rheoli addas yn weithredol a monitro perfformiad;
- adolygu a chraffu ar yr Adroddiad Perfformiad sydd wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon;
- goruchwylio a chraffu ar gaffael, rheoli contractau, rheoli rhaglenni, grantiau a chytundebau;
- darparu goruchwyliaeth a chraffu ar y gwaith o ddarparu rhaglenni Trawsnewid Busnes a TGCh, a derbyn ac ystyried adroddiadau rheolaidd ar y cynllun gwaith strategol TGCh a'r sefyllfa fuddsoddi gysylltiedig;
- goruchwylio a chraffu ar berfformiad busnes Cyfoeth Naturiol Cymru;
- darparu cyngor a chymorth i’r Rhaglen Codi Tâl Strategol mewn perthynas â newidiadau mewn cynlluniau codi tâl cyfredol ac wrth ddatblygu cynlluniau newydd;
- darparu cyngor a chymorth wrth ddatblygu strategaethau a chynlluniau masnachol;
- goruchwylio a chraffu ar y gwaith o gyflawni cynlluniau masnachol a pherfformiad;
- darparu goruchwyliaeth a chyngor mewn perthynas ag ariannu aelodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
- craffu a herio risgiau a materion allweddol ar gyfer gwerthu a marchnata pren ac ymgorffori llywodraethu a gwelliannau proses yn y meysydd hyn;
- sicrhau bod ymateb CNC i adolygiad annibynnol Grant Thornton mewn perthynas ag adroddiad yr Archwiliad Mewnol dilynol yn cael ei ymwreiddio;
- goruchwylio’r gwaith o ddarparu drwy system Tracio Pontio Gwerthu a Marchnata Pren, gan gynnwys craffu ar amrywiadau yn y camau gweithredu, cerrig milltir, ac ati;
- sicrhau trosolwg o ganlyniadau ehangach CNC, gan gynnwys y diwylliant cydymffurfio ac effaith ar staff;
- darparu trosolwg a gwaith craffu ar y ffordd y cyflawnir gwaith cydymffurfio yn seiliedig ar y model tair llinell o amddiffyn;
Cyfarfodydd
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.
Bydd ffocws pob cyfarfod, boed yn gyllid, cynllunio a pherfformiad busnes, codi tâl, materion masnachol neu gyfuniad ohonynt, yn amrywio gan ddibynnu ar y materion y mae angen gwaith craffu neu gyngor arnynt.