Sut i baratoi eich cais am grant

Beth sydd angen i chi ei wneud i baratoi eich cais am grant. 

Mynnwch gyfeirnod

Gwiriwch fod gennych gyfeirnod ar gyfer y grant rydych am wneud cais amdano. Bydd angen hwn arnoch i gychwyn y cais.

Amdanoch chi

Byddwn yn gofyn i chi am y canlynol:

  • eich enw a’ch cyfeiriad a manylion y sefydliad
  • rhif elusen, rhif TAW neu rif cofrestru cwmni, yn dibynnu ar ba fath o ymgeisydd ydych chi
  • manylion gwefan a chyfryngau cymdeithasol
  • enwau llofnodwyr awdurdodedig eich sefydliad – mae angen dau arnoch
  • cadarnhad o gofrestriad TAW

Am eich cynnig

Paratowch ymatebion i'r canlynol:

  • Teitl eich prosiect
  • Cyfanswm costau’r prosiect
  • Y swm yr ydych yn gofyn amdano gennym ni
  • Dyddiad dechrau a gorffen eich prosiect
  • Crynodeb o'ch prosiect (uchafswm o 100 gair)
  • Beth fydd eich prosiect yn ei wneud a pham (uchafswm o 250 gair)
  • Beth yw’r angen a’r galw (uchafswm o 250 gair)
  • Pam eich bod chi mewn sefyllfa dda i arwain y prosiect (uchafswm o 100 gair)
  • Pwy fydd yn cymryd rhan yn y prosiect (uchafswm o 100 gair)
  • Sut bydd unrhyw gydweithrediad yn cryfhau’r prosiect (uchafswm o 100 gair)
  • Ble bydd y prosiect yn gweithredu – gallwch lanlwytho map
  • Manylion unrhyw ganiatadau neu gydsyniadau sydd eu hangen ar eich prosiect (uchafswm o 250 gair)
  • Pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennych i ddatblygu a dylunio eich prosiect (uchafswm o 500 gair)
  • Pam rydych chi’n meddwl bod y prosiect yn cynrychioli gwerth da am arian (uchafswm o 250 gair)
  • Pan ddaw eich prosiect i ben, sut bydd y canlyniadau’n cael eu cynnal a sut y byddwch yn ariannu unrhyw gostau parhaus (uchafswm o 250 gair)
  • Beth fydd yn digwydd os na chewch gyllid ar gyfer y prosiect hwn (uchafswm o 250 gair)
  • Sut byddwch chi'n rheoli'r prosiect, a oes gennych chi reolwr prosiect, a sut mae'ch bwrdd prosiect neu'ch grwpiau'n gweithio (uchafswm o 250 gair)
  • Disgrifiwch y prif risgiau a sut rydych yn bwriadu eu rheoli nhw (uchafswm o 250 gair)
  • Sut y byddwch chi’n rhoi cyhoeddusrwydd i'ch prosiect (uchafswm o 250 gair)
  • A oes gennych unrhyw bartneriaid cyflawni ffurfiol a beth yw eu rôl o fewn y prosiect
  • Sut mae pobl o gefndiroedd amrywiol ac o bob gallu yn cael y cyfle i gymryd rhan yn eich prosiect (uchafswm o 250 gair)
  • Sut byddai eich prosiect yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ac yn annog arfer dwyieithog da (uchafswm o 250 gair)
  • A ydych chi wedi derbyn unrhyw gyllid gan gorff cyhoeddus y gellir ei ddisgrifio fel rheolaeth cymhorthdal (cymorth gwladwriaethol yn flaenorol) yn ystod y tair blynedd diwethaf
  • Manylion unrhyw gyllid arall ar gyfer gweithgareddau a gwmpesir gan y prosiect arfaethedig hwn
  • Manylion am unrhyw ffynonellau cyllid eraill yr ydych wedi gwneud cais amdanynt neu wedi cael ar gyfer y prosiect hwn

Dogfennau i'w paratoi

Byddwn yn gofyn i chi lanlwytho'r canlynol:

  • Eich cynllun prosiect wedi'i gwblhau a dadansoddiad o gostau'r prosiect gan ddefnyddio ein templed
  • Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, bydd angen eich cyfriflenni banc am y tri mis diwethaf arnom a chopi ardystiedig o’ch pasbort neu eich trwydded yrru
  • Os ydych yn gwneud cais fel sefydliad trydydd sector, bydd angen i chi lanlwytho eich dogfennau llywodraethu
  • Os ydych yn sefydliad sydd newydd ei ffurfio o lai na chwe mis oed ac nad oes gennych set o gyfrifon, bydd angen naill ai cyfriflenni banc a chysoniad banc am y tri mis diwethaf arnom, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau eich bod wedi agor cyfrif
  • Os oes gennych gyfrifon micro-gwmni neu os yw eich cyfrifon statudol yn fwy na chwe mis oed, bydd angen eich cyfrifon rheoli arnom
  • Os oes gennych chi bartneriaid cyflawni ffurfiol, rhaid i chi lanlwytho copi o unrhyw gytundeb sydd wedi'i lofnodi gyda nhw
  • Polisi caffael, os oes gennych chi un
  • Eich polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth, os oes gennych chi un
  • Eich datganiad rheoli cymhorthdal, os yw'n berthnasol i chi

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf