Ceisiadau am grant: adnoddau tystiolaeth i helpu i ddatblygu eich prosiect

Pan fyddwch yn gwneud cais i ni am gyllid grant, bydd angen i chi ddangos pa dystiolaeth rydych wedi’i ddefnyddio i ddatblygu eich prosiect.

Datganiadau ardal

Mae Datganiadau Ardal yn amlinellu’r heriau allweddol sy’n wynebu ardaloedd penodol yng Nghymru. Maent yn disgrifio’r hyn y gallwn i gyd ei wneud i ymateb i’r heriau hynny ym mhob ardal, a sut y gallwn reoli ein hadnoddau naturiol yn well er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Mynd i’n Datganiadau Ardal.

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 yn adroddiad tystiolaeth.  

Mae’n adeiladu ar asesiadau o Gymru, y DU ac yn fyd-eang o statws a thueddiadau adnoddau naturiol.

Mae’n edrych ar y risgiau y mae’r tueddiadau hynny’n eu peri i’n hecosystemau ac i lesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru dros yr hirdymor.

Mynd i Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020.

Amcanion llesiant

Mae gennym saith amcan llesiant, a ddisgrifir yn ein cynllun corfforaethol.   

Ar gyfer pob amcan llesiant, rydym yn egluro:  

  • Ein sefyllfa ar hyn o bryd – y sefyllfa bresennol yng Nghymru
  • Y sefyllfa yr hoffwn fod ynddi yn yr hirdymor – o ran Cymru ac CNC.
  • Yr hyn y bydd CNC yn ei wneud hyd at 2022 er mwyn sicrhau y bydd hyn yn digwydd.

Mynd i’n hamcanion llesiant.

Ffynonellau tystiolaeth eraill

Gallwch ddefnyddio adnoddau eraill i ddatblygu eich prosiect, megis datganiadau llesiant y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a chanfyddiadau o’ch gwaith ymchwil eich hun.   

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf