Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol

I’n helpu i ymchwilio’n effeithiol, cofiwch gynnwys:

  • beth welsoch chi
  • ble digwyddodd (hanfodol)
  • pryd y digwyddodd
  • a yw’n dal i ddigwydd nawr
  • unrhyw luniau neu fideos (arbennig o ddefnyddiol)

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch er mwyn i ni allu ymateb yn effeithiol.


neu ffoniwch 0300 065 3000 24 awr o'r diwrnod


Beth sy’n digwydd ar ôl i ni dderbyn eich adroddiad

Rydyn ni’n atal ac yn lleihau llygredd drwy flaenoriaethu’r digwyddiadau mwyaf difrifol, ar sail y risg i’r amgylchedd, i bobl ac i fywyd gwyllt.

Nid oes angen ymweld â’r safle ar gyfer pob adroddiad o lygredd. Rydyn ni’n defnyddio tystiolaeth, barn arbenigol a data i benderfynu ar y ffordd orau o ymateb.

Dydyn ni ddim yn darparu adborth unigol ar bob adroddiad o lygredd ond mae pob adroddiad a gawn yn cael ei asesu’n arbenigol.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth.


Digwyddiadau i’w hadrodd i’ch awdurdod lleol

  • tipio sbwriel cartref neu symiau bach o wastraff masnachol yn anghyfreithlon
  • iechyd amgylcheddol
  • niwsans drwy sŵn domestig
  • arogleuon o safleoedd domestig neu fasnachol bach
  • llosgi gwastraff domestig neu ardd
  • plâu domestig
  • allyriadau mwg o gerbydau
  • cynnal a chadw ffyrdd
  • anifeiliaid marw


Digwyddiadau i’w hadrodd i’ch cwmni cyfleustodau 

  • gollyngiadau nwy
  • prif bibell ddŵr wedi byrstio
  • afliwio neu annormaleddau o ran arogl neu flas dŵr yfed
  • llifogydd o bibellau domestig wedi byrstio neu orlif o ddraeniau priffyrdd
  • toriad yn y cyflenwad trydan neu ddŵr
  • draeniau a charthffosydd domestig wedi’u blocio
Diweddarwyd ddiwethaf