Cyflwyniad i De-ddwyrain Cymru
© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws
Y newid yn yr hinsawdd yw u'n o'r materion, os nad y mater, sy'n diffinio ein hamser. Bydd hyn yn effeithio ar ein cymunedau, y gwasanaethau a ddarparwn, ein hasedau a'n seilwaith. Mae'n glir o'r gwaith rydym wedi ymwneud ag ef sy'n ymwneud a'r thema strategol hon bod y newid yn yr hinsawdd yn golygu bod angen i ni newid y ffyrdd rydym yn gweithio gyda nhw i fynd i'r afael ag ef.
Mae peryglon posib y newid yn yr hinsawdd yn eang gyda'r potensial i effeithio ar yr holl fioamrywiaeth a sut mae'n rhyngweithio yn y byd. Mae'r hinsawdd yn newid yn gyflym ac yn 2019, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae bioamrywiaeth ac ecosystemau sy’n gweithio'n dda yn darparu atebion naturiol i feithrin gwydnwch cymunedol, cefnogi bywoliaethau, gwella llesiant a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.
Mae thema strategol Gwent sy'n Barod am yr Hinsawdd yn canolbwyntio ar achub ar bob cyfle i ymdrin ag achosion gwraidd a gwneud hynny ar y cyd fel partneriaid, gan symud y ffocws o risg i gyfle a rhoi cymunedau wrth wraidd y broses. Mae rhwydwaith thema Gwent sy'n Barod am yr Hinsawdd wedi archwilio sut a ble y gallwn weithio'n well gyda'n gilydd i weithredu ar yr achosion ac addasu i ganlyniadau'r newid yn yr hinsawdd.
Yn ystod cyfnod cynnes estynedig yn 2018, gwnaeth Gwent brofi tanau gwyllt niferus. Roedd yr effaith a'r difrod i gynefinoedd a rhywogaethau'n ddinistriol ac mae'r creithiau'n parhau i fod ar y dirwedd. Mae'r digwyddiadau tywydd hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar y gwasanaethau brys ac arian y sector cyhoeddus. Mae gweithio gyda phartneriaid yn y maes hwn wedi'n galluogi i nodi sawl risg hinsawdd sy'n benodol i ardal Gwent a bod angen ymdrin â hwy. Mae'r rhain yn cynnwys risgiau i'r canlynol; unigolion, preswylwyr a chymunedau, seilwaith a'r amgylchedd adeiledig, cyflenwadau dwr cyhoeddus rhag sychder a llif isel yn benodol yn yr amgylchedd gwledig, ecosystemau a busnesau amaethyddol o newidiadau mewn amodau hinsoddol. Gall pobl a chymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan ddigwyddiadau tywydd eithafol fod y lleiaf tebygol o gael eu clywed mewn penderfyniadau cynllunio a chyflawni sy'n ymwneud ag addasu a lliniaru'r hinsawdd.
Sut mae llwyddiant yn edrych | Y weledigaeth ar gyfer De-ddwyrain Cymru |
---|---|
Nid yw adnoddau naturiol yn lleihau'n barhaus ac nid ydynt yn cael eu defnyddio'n gynt nag y gallant gael eu hailgyflenwi |
Mae cyfleoedd i ddatblygu economi fwy cylchol yn cael eu gwireddu. Mae hyn yn golygu datblygu system economaidd sydd wedi'i hanelu at wahardd gwastraff a'r defnydd parhaus o adnoddau. Mae adnoddau'n cael eu defnyddio am gyhyd a phosib, gan dynnu'r gwerth mwyaf ohonynt, yna mae'r cynnyrch a'r deunyddiau'n cael eu hachub a'u hail-greu ar ddiwedd bywyd pob un. Mae datblygiad addysg a sgiliau'n rhoi'r cyfle i swyddi newydd ac arloesedd, arbed costau i fusnesau a'r gallu i gryfhau ein cadwyni cyflenwi, gan wella'n gwydnwch economaidd lleol |
Nid yw iechyd a gwydnwch ein hecosystemau ar draws y pedair nodwedd gwydnwch ecosystemau yn cael eu cyfaddawdu a'u gwella lle y bo angen | Caiff bioamrywiaeth ei ddiogelu, ei wella a bydd yn wydn i hinsawdd sy'n newid, mae ansawdd dwr ac aer yn dda, mae priddoedd yn iach ac mae cysylltedd ecolegol yn cael ei fwyafu. Mae cyfleoedd i atafaelu carbon a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cynnwys bioamrywiaeth fel egwyddor sylfaenol a thanseiliol. Rhagwelir gwrthdrawiadau rhwng 'gweithredu er yr hinsawdd' a 'gweithredu dros fioamrywiaeth' a chant eu hosgoi - er enghraifft, caiff gorchudd canopi coed ei gynyddu lle y bo'n briodol gwneud hynny ac nid mewn lleoliadau a fyddai'n cael effaith niweidiol ar safleoedd Natura 2000 (rhwydwaith o safleoedd wedi'u dynodi i sicrhau goroesiad tymor hir rhywogaethau a chynefinoedd Ewrop mwyaf gwerthfawr a dan fygythiad) |
Mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac mae’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau ecosystemau gwahanol yn cael ei hybu ar gyfer llesiant |
Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang Mae cefnogaeth i gymunedau leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr wedi'i dosbarthu mewn ffordd sy'n gyfiawn yn gymdeithasol. Mae trafnidiaeth yn garbon niwtral. Mae gweithgaredd dal a storio carbon a datgarboneiddio yn rhan hanfodol ac integredig o'n heconomi gwyrdd lleol, gan ddarparu manteision lluosog yn ein cymunedau ac ar eu cyfer a chefnogi'r economi gwyrdd lleol |
Mae'r buddiannau sy'n deillio o adnoddau naturiol yn cael eu dosbarthu mewn modd teg a chyfartal ac mae'r cyfraniad y maent yn ei wneud tuag at lesiant yn diwallu ein hanghenion sylfaenol ac nid yw'n lleihau nawr nac yn y tymor hir |
Bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu'n ddigonol rhag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Bod atebion sy'n seiliedig ar natur i addasu'r hinsawdd yn cyfrannu at y cynnydd mewn gwydnwch lleol i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Bod cymunedau'n cael eu haddysgu am risgiau yn sgil yr hinsawdd ac yn weithredol wrth ddylunio a gweithredu'r ymateb. Bod cymunedau'n fwy gwydn i gostau ynni a thrafnidiaeth sy'n codi drwy effeithiolrwydd gwell, ymdrin â thlodi tanwydd, teithio llesol a chynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy lleol |
Camau gweithredu:
Camau gweithredu:
Camau gweithredu:
Camau gweithredu:
Datblygu rhwydwaith thematig o ymarferwyr, ymchwilwyr, rhanddeiliaid allweddol ac asiantaethau perthnasol (a chymunedau, lle bo'n briodol) er mwyn datblygu dealltwriaeth a rennir o atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd
Cydweithio i ddatblygu, poblogi a defnyddio setiau data cyffredin a fydd yn galluogi sefydliadau i creu gwaelodlin ar gyfer tystiolaeth sy'n berthnasol i atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd
Camau gweithredu:
Camau gweithredu:
Sicrhau bod ymyriadau a nodwyd yn cael eu cydlynu’n dda rhwng asiantaethau a bod llwybrau atebolrwydd a llywodraethu cadarn yn eu lle
Sicrhau bod methodolegau cyffredin cytunedig yn gyfiawn yn gymdeithasol ac yn ystyried anghenion ychwanegol cymunedau dan anfantais a bregus
Nodi ble a sut y gall cydweithrediad rhanbarthol adeiladu gwydnwch
Cyfrannu at ddatblygu sylfaen dystiolaeth gyffredin ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd
Nodi mecanweithiau ar gyfer trefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol ar raddfa fwy, lle bo angen hynny (e.e. adnoddau dŵr, rheoli perygl llifogydd a rheoli ucheldir/glaswelltir)
Llywio arferion rheoli asedau, caffael a chynllunio ariannol yn y sector cyhoeddus
Archwilio ffyrdd newydd o weithio ac atgynhyrchu llwyddiant ar raddfa fwy
Gweithio gyda sefydliadau trydydd sector sydd â diddordeb mewn rheoli tir er budd natur i ddatblygu cynllun lle bo ganddynt adnoddau i gynghori ar benderfyniadau rheoli tir sy'n deillio o gymunedau, gan gynnwys nodi cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau ac atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd a dal a storio carbon, gan ganolbwyntio i ddechrau ar dir a reolir yn gyhoeddus ar y raddfa leol gyda chynghorau cymuned a thref
Camau gweithredu:
Sicrhau bod ymyriadau a nodwyd yn cael eu cydlynu’n dda rhwng asiantaethau a bod llwybrau atebolrwydd a llywodraethu cadarn yn eu lle
Sicrhau bod methodolegau cyffredin cytunedig yn gyfiawn yn gymdeithasol ac yn ystyried anghenion ychwanegol cymunedau dan anfantais a bregus
Nodi ble a sut y gall cydweithrediad rhanbarthol adeiladu gwydnwch
Cyfrannu at ddatblygu sylfaen dystiolaeth gyffredin ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd
Nodi mecanweithiau ar gyfer trefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol ar raddfa fwy, lle bo angen hynny (e.e. adnoddau dŵr, rheoli perygl llifogydd a rheoli ucheldir/glaswelltir)
Llywio arferion rheoli asedau, caffael a chynllunio ariannol yn y sector cyhoeddus
Archwilio ffyrdd newydd o weithio ac atgynhyrchu llwyddiant ar raddfa fwy
Yn 2019, wrth weithio drwy Grŵp Gweithredu Strategol Gwent ar Lesiant, gwnaeth rhwydwaith thematig Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd hwyluso cyfres o gyfleoedd cyfranogi ar gyfer y sector cyhoeddus, y trydydd sector a chymunedau a oedd â’r nod o wella dealltwriaeth ar y cyd o’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ar raddfa leol a rhanbarthol. Gweithiodd y prosiect hwn gyda grwpiau amrywiol â ffocws i ddysgu o brofiad byw o ddigwyddiadau tywydd eithafol yn y gorffennol er mwyn nodi dulliau o gynyddu’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Gweithiodd y prosiect hwn, “Ymaddasu’r i’r Newid yn yr Hinsawdd: O Brofiad Byw i Gamau Strategol”, gyda phobl a sefydliadau ledled Gwent a ddaeth ynghyd drwy gysylltiadau partneriaeth a oedd eisoes yn bodoli, gan gynnwys Uwch-gyngor Plant Blaenau Gwent, Fforwm Pobl Hŷn Blaenau Gwent, Cyngor Tref Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, Transition Monmouth, Partneriaeth Gwastadeddau Byw, Cyngor Cymuned Allteuryn, cymuned amaethyddol Gwent, a rhanddeiliaid yn ardaloedd Cwm-carn ac Aber-carn.
Mae rhwydwaith Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd wedi bod yn gweithio hefyd drwy gysylltiadau sefydledig â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i hwyluso gwaith datgarboneiddio'r sector cyhoeddus drwy rannu dysgu ac arfer gorau o Brosiect Carbon Bositif Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'n cydweithwyr yn y sector cyhoeddus. Gan weithio'n benodol gyda rheolwyr fflyd, asedau, cyllid a data lleol, rydym hefyd wedi cyflenwi nifer o brosiectau datgarboneiddio arddangos ar draws y rhanbarth.
Bydd y canlyniadau o dan bob un o’r pedair thema strategol yn cyflenwi gweledigaeth y Datganiad Ardal ar gyfer De-ddwyrain Cymru. Er bod gan bob thema ei gweledigaeth ei hun ar gyfer De-ddwyrain Cymru, mae pob un yn rhan o'r un dull trosfwaol o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn y lle.
Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cynrychioli ffyrdd o weithio sy'n fwy cydweithredol, integredig a chysylltiedig; mae'n cynrychioli'r gwaith rydym eisoes wedi'i wneud yng Ngwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gryfhau'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda’n gilydd yn wahanol, o fewn ein sefydliadau ein hunain ac fel partneriaid.
Yn y De-ddwyrain, ein nod oedd creu Datganiad Ardal sy'n llywio gwaith cynllunio mewnol ac allanol ar y raddfa briodol ac sy'n helpu rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd gwahanol o gydweithio wrth wneud hyn. Mae proses y Datganiad Ardal yn ymaddasol a bydd yn helpu i archwilio a llywio ffyrdd uchelgeisiol o weithio.
Bydd rhwydweithiau thematig yn parhau i ganolbwyntio ar gydweithio’n wahanol i adeiladu gwydnwch ecosystemau. Bydd pob rhwydwaith yn cydweithio i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin yn ogystal â hwyluso ymyriadau ataliol dros y tymor hwy.
Os hoffech fod yn rhan o’r gwaith o gyflawni'r camau a restrir yma, cyfrannu at ddatblygu'r rhwydwaith thematig, neu rannu eich delweddau a straeon eich hun ar effaith y newid yn yr hinsawdd, cysylltwch â ni.