Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Datganiad Ardal De Ddwyrain Cymru

Golygfa hydrefol yn Fforest Fawr

Adnoddau naturiol Cymru sydd yn darparu llawer o’n hanghenion sylfaenol- aer i’w anadlu, dŵr i’w yfed, a bwyd i’w fwyta.

Maent yn cynnig egni, ffyniant, a diogelwch.

Maent yn ein hamddiffyn, yn gwella ein hiechyd yn ogystal â safon ein bywydau.

Rhaid i ni reoli a defnyddio ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gydlynol os ydym am i bobl fuddio ohonynt.

Mae Deddf Amgylchedd Cymru yn cynnig cyfle i ni wneud hynny trwy gydweithio ag eraill i greu Datganiad Ardal ar gyfer De Ddwyrain Cymru.

Byddent yn amlinellu;

  • Yr adnoddau naturiol sydd ym mhob ardal a’r buddion y maent yn eu cynnig

  • Yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sydd i’w cael ar lefel leol

  • Sylfaen o dystiolaeth gyffredin sy’n cynnwys gwybodaeth, data a thystiolaeth

Byddent yn gymorth i ni ddeall cyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol yr ardal, y pwysau sydd arnynt, yn ogystal â’r buddion y maent yn eu cynnig.

Bydd Datganiadau Ardal yn cynnig y wybodaeth y mae pobl ei angen i reoli eu hadnoddau naturiol yn fwy effeithlon.

Proffil Ardal

Mae’r ardal hon yn cynnwys:

  • Ucheldir dwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  • Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon sy’n Safle Treftadaeth Byd

  • Cwm Clydach, a chymoedd Sirhywi, Glyn Ebwy, a Rhymni i’r gogledd

  • Bryniau a phantiau Caerffili a Sir Fynwy, gyda’u trefi hanesyddol a glannau tawel y Wysg a’r Gwy

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy sy’n ymestyn dros y ffin i Loegr yn y dwyrain

  • Dinas Casnewydd ar aber Afon Wysg, ger gwastatir Gwent

  • Arfordir hanesyddol a phorfeydd heli Aber Hafren

Gweler map ffiniau ein datganiad ardal.

Ein sefyllfa bresennol

Rydym yn cydgasglu’r dystiolaeth sydd gennym sy’n ymwneud â’n hadnoddau naturiol.

Rydym wedi dechrau cydweithio gydag arbenigwyr i drafod ein hadnoddau naturiol, yr ardaloedd gwahanol a’u rhinweddau, y dulliau o’u gwarchod, a’r rhesymau dros ddefnyddio’r dulliau hynny.

Ein hamcanion

Trwy gydweithio ag eraill gallwn adnabod y buddion (gwasanaethau ecosystem) a gynigir gan ein hadnoddau naturiol.

Byddwn yn gweithio ag eraill er mwyn deall sut y gall Datganiadau Ardal unigol gyfrannu at gyflawniad y Blaenoriaethau Cenedlaethol allweddol, gan ymateb i heriau a manteisio ar y cyfleoedd i wella’r rheolaeth o adnoddau naturiol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys adnabod yr hyn y gallwn ni oll ei wneud i gyfrannu at y broses (gan gynnwys canfod dulliau newydd o gydweithio).

Un o’r heriau allweddol yw sut y gallwn ni gasglu, dadansoddi, a rhannu’r wybodaeth yma gyda phartneriaid ar ffurf sy’n ddefnyddiol iddynt. Rydym yn arbrofi gyda dulliau gwahanol (digidol, adroddiadau, gweithdai, ayyb.) a bydd partneriaid yn ein helpu gyda hyn.

Sut i gyfrannu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’u partneriaid angen pobl o bob sector, sefydliad, a chymuned i gyfrannu at ddatblygiad Datganiadau Ardal.

Trwy gydol y broses, byddwn yn croesawu unrhyw fenter gan bartneriaid i lunio a gwella ymwybyddiaeth o Ddatganiadau Ardal gan ddefnyddio eu rhwydweithiau.

Pe hoffech gyfrannu, cysylltwch ag un o arweinwyr Datganiad Ardal neu gwblhau’r arolwg ar-lein

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.