Adeiladu ecosystemau gwydn

Pan fydd adnoddau naturiol yn ffynnu, bydd y gymdeithas a'r economi yn ffynnu hefyd. Mae angen i ni wella gwydnwch ein hecosystemau, gan gynyddu'r buddion maent yn eu darparu ac atal colli bioamrywiaeth

Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.


Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.


Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws. 

Pam y thema hon?


Mae pobl yn wynebu dwy her sylweddol mewn perthynas â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yr her gyntaf yw newid yn yr hinsawdd. Nid oes cymaint o sôn am yr ail fygythiad, er ei fod yr un mor bwysig. Mae hynny'n ymwneud â cholli ein bioamrywiaeth. Mae hyn yn ein harwain at bwnc ecosystemau.

Mae ecosystem yn gymuned fawr o organebau byw, er enghraifft planhigion ac anifeiliaid, sy'n byw mewn ardal benodol ac sy'n rhyngweithio â'i gilydd. Yma yng Nghanol De Cymru, rydym yn ffodus i gael ecosystemau eithriadol ar drothwy'r drws. Cymerwch, er enghraifft, yr hyn a elwir yn ffridd, sef clytwaith pwysig o gynefinoedd a ddarganfyddir yn aml ar lethrau cymoedd sydd nid yn unig yn cysylltu rhywogaethau’r ucheldir a’r iseldir drwy ffurfio cefndir ffisegol a diwylliannol i'r cymunedau lleol, ond hefyd yn gweithredu fel pont rhwng ecosystemau trefol a lled-naturiol/amaethyddol eraill. 

Ond mae yna rwystr. Mae ein hecosystemau o dan fygythiad ar sawl ffrynt gan gynnwys dull amhriodol o reoli tir, llygredd, datblygiadau, rhywogaethau estron goresgynnol, a diffyg rheolaeth. Wedyn mae yna newid yn yr hinsawdd sy'n cyfrannu at golli bioamrywiaeth -  yr amrywiaeth o fywyd a ganfyddir ar y Ddaear, a'r cymunedau a'r cynefinoedd y maent yn byw ynddynt. 

Mae yna ymdeimlad hefyd nad ydyn ni o bosib, fel cymdeithas, yn gwerthfawrogi'n llawn y byd naturiol sydd o'n cwmpas yng Nghanol De Cymru. Er enghraifft, ystyrir yn aml bod rhai ardaloedd o ffridd yn berygl tân ac felly yn risg bosib i eiddo ac i ansawdd aer. Fodd bynnag, pan gaiff ei reoli’n dda, mae gan ffridd werth bioamrywiaeth uchel ac mae'n cyflwyno risg is o dân gwyllt, yn ogystal â darparu gwasanaethau ecosystemau ehangach megis lliniaru llifogydd, storio carbon a chyfleoedd ar gyfer hamdden.

Mae angen i ni amddiffyn ac ail-adeiladu ein hecosystemau fel eu bod yn iach ac yn gallu gwrthsefyll unrhyw fygythiadau posib. Rhaid iddynt fod yn wydn. Rhaid eu rheoli. Rhaid eu gwerthfawrogi.

Coetir derw ym Merthyr

Os byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn gwella'n llesiant, ac ar yr un pryd yn gallu mwynhau ac amddiffyn natur am ei gwerth cynhenid. Mae adnoddau naturiol Cymru, wedi'r cwbl, wedi eu cysylltu'n agos â llesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y wlad, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith. Meddyliwch am y £2,870 miliwn a gynhyrchir gan dwristiaeth ei hun bob blwyddyn yng Nghymru.  

Yng Nghanol De Cymru, wrth weithio gyda'n partneriaid, mae angen i ni ddeall ble i gyfeirio ein hymdrechion i feithrin gwydnwch o fewn ecosystemau hanfodol, gan eu gwneud yn fwy gwydn, gwerthfawr ac o fudd i'n cymunedau. I'n helpu i wneud hynny, rydym yn datblygu'r hyn a elwir yn Broffiliau Ecosystem er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o ecosystemau eu hunain, a'r gwasanaethau maent yn eu darparu ar gyfer llesiant.

Bwriad y Proffiliau Ecosystem hyn yw darparu sylfaen dystiolaeth er mwyn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisïau yn y dyfodol a chynorthwyo â’r broses gynllunio a darparu. Byddant hefyd yn sicrhau y caiff gwybodaeth dechnegol ar lawr gwlad ei hategu gan dystiolaeth genedlaethol ehangach yn ymwneud ag ecosystemau.

Os caiff ei wneud yn gywir, a chyda'r bobl gywir yn cymryd rhan, bydd Proffiliau Ecosystem yn dod yn rhan annatod o’r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid yng Nghanol De Cymru.

Y saith ecosystem allweddol y byddwn yn canolbwyntio arnynt yw:

  • Y Cymoedd

  • Coetiroedd

  • Glaswelltiroedd

  • Trefol

  • Dŵr croyw

  • Mawndiroedd

  • Arfordirol

 

Common blue butterfly in Cefn Cribwr

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith tuag at adeiladu ecosystemau gwydn gweler y fideo hwn.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Gallech feddwl y byddai’r ateb i hynny yn weddol syml, tebyg i 'Rydym yn cyrraedd cyfnod lle bydd ein hecosystemau yn wydn ac yn darparu'r buddion sydd eu hangen arnom'. Fodd bynnag, nid yw bob amser mor syml. Er enghraifft, fel rhan o'r broses, rydym am gyrraedd consensws ynglŷn â'r hyn rydym wir yn ei olygu gan ecosystemau gwydn a sut i feithrin gwydnwch sy'n darparu buddion llesiant. Gall hynny ond digwydd drwy ymgysylltiad parhaus a gweithio gydag eraill. Dros amser, byddwn oll yn datblygu gwell gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'r pwnc.

Rydym yn meddwl bod ein hecosystemau yn chwarae rôl hanfodol wrth liniaru ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd. Heb werthfawrogi'n hecosystemau yn iawn, ynghyd â'r buddiannau lliniaru ac ymaddasu maent yn eu darparu, rydym yn wynebu’r risg o greu canlyniadau gwrthgynhyrchiol sy'n cynyddu, yn hytrach na’n lleihau, bregusrwydd.

Yng Nghanol De Cymru, rydym yn bwriadu gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, gan chwilio am gyfleoedd i reoli dulliau lliniaru/ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a mynd i'r afael ag anghenion a chyfleoedd i gymunedau lleol, gan osgoi gwrthdaro rhwng amcanion gwahanol ar yr un pryd.

Yn yr un modd, drwy'n Proffiliau Ecosystem, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu'n sylfaen dystiolaeth mewn ffordd sy'n annatod i benderfyniadau'r dyfodol. Yn sgil hyn, gall y broses ddarparu gael ei chynllunio a gall fod yn fanteisgar, wrth i bartneriaid benderfynu ar eu ffordd ymlaen eu hunain. Ni fydd newid yn digwydd ar unwaith ond, gyda'n gilydd, rydym yn gweithio arno yn y tymor hirach.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cysylltu ag ystod eang o sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleola grwpiau anllywodraethol eraill. Drwy wneud hynny, rydym wedi cyflwyno'n dull i nodi dealltwriaeth a rennir o wydnwch ecosystemau, y gwaith o ddatblygu Proffiliau Ecosystem, a phrofi ein themâu penodol.

Rydym yn cydnabod ein bod wedi cael cyfranogiad allanol cyfyngedig gyda sectorau rheoli tir eraill, er enghraifft amaethyddiaeth a choedwigaeth. Fodd bynnag, rydym wedi ymgysylltu'n genedlaethol â’r sectorau hyn a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu'n ystyrlon wrth i ni symud ymlaen.

Beth yw'r camau nesaf?


Mae gennym lawer o waith i'w wneud o hyd ynghylch y thema hon. Fodd bynnag, byddwn yn ymgysylltu'n agos â phartneriaid i gyflawni blaenoriaethau’r Polisi Adnoddau Naturiol. Yng Nghanol De Cymru, bydd hynny'n cynnwys y canlynol:

a) Awdurdodau lleol yn gorfod ystyried gwydnwch ecosystemau wrth wneud penderfyniadau. Byddwn yn gweithio gyda nhw drwy’r Datganiad Ardal i ddatblygu sylfaen dystiolaeth, er enghraifft Proffiliau Ecosystem, sy'n ategu eu rhwymedigaethau statudol perthnasol megis dyletswydd adran 6 Deddf yr Amgylchedd, gan nodi hefyd feini prawf megis rhwydweithiau ecolegol i'w defnyddio mewn penderfyniadau cynllunio lleol ac asesiadau o seilwaith gwyrdd. Yn dilyn adborth, byddwn yn arwain ar wydnwch ecosystemau (drwy gynlluniau ardal gweithredol Canol De Cymru) ac yn gweithio gydag eraill, megis partneriaethau natur lleol, i greu dealltwriaeth a rennir o wydnwch ecosystemau a'r gwasanaethau maent yn eu darparu.

b) Byddwn yn gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (sydd â'r nod o wella gwaith cydgysylltiedig ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd awdurdod lleol ledled Cymru) i sicrhau bod seilwaith gwyrdd yn ystyriaeth allweddol mewn asesiadau llesiant a chynlluniau llesiant yn y dyfodol, gan gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

c) Byddwn yn gweithio gyda staff a phartneriaid Cyfoeth Naturiol Cymru ar y gwaith o ddatblygu dull ar y cyd o greu coetir ar gyfer ardal Canol De Cymru, gan adeiladu ar y Proffil Ecosystem Coetiroedd er mwyn cefnogi'r dull hwn.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae ecosystem iach a gwydn yn rhoi buddiannau hanfodol a chynhenid i'n bywydau ac i'n llesiant cyffredinol. I ddeall hyn, caiff Proffiliau Ecosystem eu defnyddio i nodi cyfleoedd i wella iechyd ecosystemau drwy ddatrysiadau sy'n seiliedig ar natur, gan ddarparu darlun ehangach o sut maent yn cyd-fynd â’i gilydd, gan ein galluogi i greu blaenoriaethau o ran gwneud penderfyniadau a chyflawni gweithredol.

Ystyrir bod bioamrywiaeth yn elfen hanfodol sy’n cyfrannu at wydnwch ecosystemau. Bydd egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a’r polisi adnoddau naturiol, sy'n datgan bod rhwydweithiau ecolegol gwydn yn flaenoriaeth, yn cael eu datblygu felly gan y Datganiad Ardal, gan ddarparu tystiolaeth ategol (e.e. cynlluniau cyrff cyhoeddus ynghylch bioamrywiaeth, a chynlluniau rheoli tir yn gynaliadwy).

Mae'r thema benodol hon, ar y cyd â'n hail thema (Cysylltu pobl â natur), yn darparu'r dull gweithredu ar gyfer ystyried yr holl benderfyniadau er mwyn sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Rhostir cen ym Merthyr

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng Nghanol De Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd agored a thryloyw. Gan ystyried hynny, rydym am annog pobl i gyfrannu at adeiladu ecosystemau gwydn. Mae proses y Datganiadau Ardal yn ein galluogi i sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael eu nodi wrth i ni ddatblygu'r camau nesaf. Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, ebostio ni ar southcentral.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Rhowch adborth