Cyflwyniad i Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r pedair blynedd ddiwethaf. Rydym yn parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn parhau i addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae gan Ogledd-orllewin Cymru dirwedd nodedig o fynyddoedd ac arfordir rhyfeddol sydd wedi’u ffurfio gan natur a phobl dros amser. Maen nhw’n rhan annatod o hanes a diwylliant, sy’n golygu mai dyma brif ased yr ardal. Mae’r dirwedd yn gallu ysbrydoli a chyfoethogi bywydau a denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Defnyddir y tir yn rhanbarth y Gogledd-orllewin ar gyfer ffermio yn bennaf, er mai nod y thema hon yw cyrraedd rheolwyr adnoddau yn eang – o goedwigoedd a reolir gan gymunedau, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr, ysbytai ac ysgolion, gan gynnwys tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cyfrif am bron wyth y cant o’r ardal. Mae’r Datganiad Ardal hwn yn cynnig cyfle i ddechrau ar ddull integredig o ran sut i reoli ein hadnodd pwysicaf ac anadnewyddadwy – ein tir a’r dŵr sy’n llifo oddi arno i’n hafonydd a’r môr.
Mae’r ucheldiroedd yng Ngogledd-orllewin Cymru yn nodwedd allweddol a hoffus o dirwedd eiconig a diwylliannol yr ardal. Mae rhan helaeth o dirwedd yr ardal yng nghysgod yr ucheldiroedd, ac mae’r tir uwchben y ffin ucheldirol yn cwmpasu 58 y cant (2,711km2) o’r ardal, gyda thraean yn ardaloedd o dirweddau ucheldir/llwyfandir agored, sy’n rhoi i’r rhanbarth ei gymeriad mynyddig unigryw. Mae’r ucheldiroedd yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth a thirwedd ac yn werthfawr i ffermio, coedwigaeth, hamdden, adnoddau naturiol, diwylliant ac iaith hefyd.
Mae cyfanswm hyd yr arfordir godidog yng Ngogledd-orllewin Cymru yn 585km, sy’n cyfateb i 45.5y cant o’r cyfanswm yng Nghymru. Mae gan yr ardal rai o’r dyfroedd a thraethau ymdrochi gorau yng Nghymru, gan gynnwys gwarchodfeydd natur morol, safleoedd morol dynodedig, a rhai o systemau twyni tywod pwysicaf Ewrop ym Morfa Harlech, Morfa Dyffryn a Niwbwrch. Mae cynefinoedd arfordirol yn cynnig nifer o fuddion i gymdeithas, gan gynnwys at ddibenion hamdden ac ardaloedd fel morfeydd heli, twyni tywod a marianau sy’n cynnig amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd ar gyfer cymunedau arfordirol a thir amaethyddol. Datblygwyd Datganiad Ardal Forol sy’n cynnig rhagor o wybodaeth am yr amgylchedd morol ledled Cymru.
Mae gan Ogledd-orllewin Cymru nifer o bysgodfeydd pwysig, gan gynnwys pysgodfeydd cregyn. Mae dalgylchoedd afonydd Conwy, Ogwen, Mawddach, Seiont, Dwyfor, Glaslyn, Clwyd a Dwyryd oll yn cefnogi pysgodfeydd eogiaid a brithyllod y môr o bwys lleol ac mae dalgylchoedd afon Dyfi ac afon Dyfrdwy yn afonydd eogiaid a brithyllod y môr sy’n bwysig yn genedlaethol.
Mae stociau o eogiaid a brithyllod y môr ym mhob un o afonydd Gogledd-orllewin Cymru yn fregus ar hyn o bryd, a rhagfynegir y byddant yn parhau’n fregus am y pum mlynedd nesaf. Afon Ogwen yw’r unig afon y rhagfynegir nad yw ‘mewn perygl’. Bydd rheoli tir a dŵr yn gynaliadwy yn hanfodol wrth helpu i leihau’r heriau i boblogaethau o bysgod a gwella niferoedd a gwydnwch i newidiadau ecolegol.
Mae nifer o lynnoedd a chronfeydd dŵr ledled Gogledd-orllewin Cymru, ac mae gan bob un ohonynt bwysigrwydd sylweddol ar gyfer cyflenwi dŵr, cynhyrchu trydan, rheoli perygl llifogydd, defnydd hamdden, lles ac ecoleg. Mae llynnoedd yn dderbynnydd sensitif a phwysig ar gyfer arferion defnydd tir, gan amsugno gwaddodion a maethynnau o fewn dalgylchoedd. Mae’r rhan fwyaf o lynnoedd yng Ngogledd-orllewin Cymru yn cynnig nifer o gyfleoedd o ran defnydd - er enghraifft, mae Llyn Cwellyn a Llyn Cefni yn cyflenwi dŵr ac yn cael eu defnyddio at ddibenion hamdden tra bo modd defnyddio Llyn Trawsfynydd, sydd hefyd yn cynhyrchu trydan, at ddibenion hamdden fel pysgota, cerdded a beicio. Mae Llyn Tegid yn Ardal Cadwraeth Arbennig sy’n cefnogi nifer o rywogaethau pwysig ac mae ganddo rôl bwysig o ran cyflenwi dŵr a rheoli perygl llifogydd ar hyd afon Dyfrdwy. Mae Llyn Celyn, Llyn Cowlyd a Llyn Peris oll yn bwysig ar gyfer cynhyrchu trydan, a Llyn Padarn yw’r unig ddŵr ymdrochi mewndirol yng Nghymru, gan gynnig ystod o gyfleoedd hamdden sy’n cynnwys nofio, mynd mewn cwch a physgota. Mae hefyd yn gynefin pwysig ar gyfer y torgoch a rhywogaethau pysgod eraill. Mae gan Ynys Môn hefyd nifer o lynnoedd bach a bas sy’n rhan bwysig o ecosystem wlyptirol yr ynys.
Mae gan Ogledd-orllewin Cymru ddyddodion mwynau cyfoethog sydd wedi ffurfio hanes mwyngloddio a chwarela’r ardal, ac maent yn parhau i wneud hynny, gyda nifer o ddyddodion yn cael eu cloddio o hyd. Mae pobl wedi bod yn manteisio ar adnoddau mwynau ers amser maith, gyda thystiolaeth o fwyngloddio am gopr yn yr Oes Efydd yn y Gogarth a Mynydd Parys yn ogystal â defnyddio llechi o Gymru yn yr Oes Rufeinig. Mae tirwedd lechi Gogledd-orllewin Cymru wedi’i henwebu i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i ddathlu dylanwad diwydiannol a diwylliannol llechi yn yr ardal. Erbyn hyn, mae’n rhyfedd sefyll yn y dirwedd wedi’ch amgylchynu gan y chwareli gwag a dychmygu’r sŵn a’r bobl a fyddai wedi bod yno.
Mae sawl ardal yng Ngogledd-orllewin Cymru yn dirwedd ddynodedig - er enghraifft, Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n gorchuddio 47 y cant o’r ardal, a dwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd wedi’u lleoli ar Benrhyn Llŷn ac Ynys Môn. Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu bod oddeutu 56 y cant o’r tir yn yr ardal â statws dynodedig oherwydd ei werth fel tirwedd ddiwylliannol.
Bydd cynnal yr amgylchedd naturiol yn ein helpu ni i gyd. Rydym bellach yn cydnabod bod cymaint o’r hyn sy’n dda i’r amgylchedd hefyd yn dda i lesiant pobl oherwydd bod pob un ohonom yn manteisio ar y gwasanaethau y mae ein hadnoddau naturiol yn eu cynnig, o aer glân a darparu dŵr i gynhyrchu bwyd, deunyddiau a’r economi.
Er mwyn hwyluso’r gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019 a sesiwn i staff. Yn seiliedig ar y trafodaethau hyn, mae’n amlwg fod cefnogaeth am gyfleoedd ar gyfer y thema ‘Cefnogi Rheoli Tir yn Gynaliadwy’ ymhlith y rhanddeiliaid. Cyflwynwyd y themâu a ddatblygwyd i’r rhanddeiliaid eu dilysu yn ein hail rownd o weithdai ymgysylltu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019. Gellir cael rhagor o wybodaeth a manylion am hyn yn y Cyflwyniad i’r Datganiad Ardal ac yn y thema Ffyrdd o Weithio.
Bydd cynnal yr amgylchedd naturiol yn helpu pob un ohonom, gan gynnwys ffermwyr, coedwigwyr, cymunedau ac unigolion oherwydd ein bod ni i gyd yn elwa ar y gwasanaethau y mae ein hadnoddau naturiol yn eu cynnig fel aer a darpariaeth dŵr glân, rheoli gwastraff, cynhyrchu bwyd a deunyddiau.
I gydnabod bod y diwydiant ffermio yn gweithredu mewn cyfnod o ansicrwydd digynsail, er bod hyn yn rhoi cyfle unigryw i ffermwyr bennu gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru.
Yn ystod y gweithdai, cydnabuwyd pwysigrwydd ffermio yn yr ardal yn gryf. Oherwydd mai dyma asgwrn cefn cymunedau gwledig Gogledd-orllewin Cymru, rydym yn cydnabod ei gryfderau ac yn gwireddu ei botensial. Mae ymgyrraedd ac effaith ffermio yn mynd y tu hwnt i’w werth economaidd yn unig, ac mae’n hanfodol fel ffordd o sicrhau gwytnwch cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd a lles cymunedau gwledig.
Codwyd y ffordd mae dŵr yn cael ei reoli sawl gwaith hefyd, o ran ansawdd dŵr a chyflenwad dŵr, a sut roedd cydweithio gan fabwysiadau dull cynaliadwy i ddalgylchoedd yn hanfodol.
Mae cysylltu diwylliant a rheoli’r tir â chynnig cyfleoedd newydd i’r cymunedau mewn mannau fel Penmachno yn allweddol, ac mae prosiectau fel prosiect Uwch Conwy yng Nghwm Penmachno, neu brosiect LIFE ar Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn yn fodelau da i'w dilyn. Mae Bïosffer Dyfi, a ddynodwyd o dan UNESCO, wedi’i leoli’n rhannol yng Ngogledd-orllewin Cymru. Mae Gwarchodfeydd Bïosffer yn archwilio’n lleol sut y gall bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cadarn fod yn seiliedig ar amgylcheddau iach. Byddai’n dda cryfhau cysylltiadau â’r Bïosffer a dysgu o’r nifer o brosiectau maen nhw wedi’u cynnal.
Mae’r thema hon yn cysylltu â’r thema Ecosystemau Gwydn, a bydd y ddwy yn helpu i gyflawni rhaglen Natur Hanfodol Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn sicrhau bod rhwydweithiau bioamrywiaeth ac ecosystemau yn gysylltiedig o safbwynt ecolegol â’r dirwedd ehangach, y morwedd, a’r rhai hynny sy’n byw ac yn gweithio yno.
Yn ôl canfyddiadau’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol statudol, y casgliad cyffredinol yw bod diffyg gwydnwch gan bob ecosystem mewn un agwedd/priodoledd neu fwy. Mae hyn yn golygu y gallai eu gallu i gynnig gwasanaethau ecosystemau a manteision fod mewn perygl. Mae ffermio wedi dylanwadu’n drwm ar y newidiadau yng ngwytnwch cyffredinol yr ecosystemau allweddol hyn, sydd yn ei dro wedi’i ysgogi gan y system gymorth o dan gyfundrefnau polisi amaethyddol amrywiol a gyflwynwyd yn y DU ar ôl y rhyfel.
Mae Polisi Adnoddau Naturiol Cymru yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried y potensial ar gyfer cyflwyno dull sy’n fwy seiliedig ar ganlyniadau i gymorth ar y tir, y bydd ei ganlyniadau gofynnol wedi’u llywio gan ymgynghori’n lleol a Datganiadau Ardal.
Mae nifer o fanteision i bobl ac i fywyd gwyllt sy’n gallu deillio o reoli tir yn gynaliadwy. Mae ecosystemau gwydn sy’n gweithredu’n iach yn cefnogi llif o fanteision gan adnoddau naturiol, gan gynnwys manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Maen nhw hefyd yn cyfrannu at y saith nod llesiant a nodir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Dim ond mewn lleoliadau sy'n briodol i'r amgylchedd y bydd yr holl gyfleoedd a nodir isod yn cael eu cefnogi.
Gweithio gydag atebion sy’n seiliedig ar natur o’r ffynhonnell i’r môr i adfer ac efelychu swyddogaethau naturiol dalgylchoedd, gorlifdiroedd ac afonydd yng Ngogledd-orllewin Cymru. Gellid gwneud hyn drwy weithio gyda Dŵr Cymru i greu dalgylchoedd peilot ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy fel rhan o’u Cynllun Amgylchedd Cenedlaethol i ganfod atebion cynaliadwy a mwy cost effeithiol o gyflawni ansawdd ecolegol gwell.
Mae’r thema hon yn annog cyfleoedd i helpu i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy o gynhyrchu ac yn cynnig y posibilrwydd o ddatblygu brandiau lleol ymhellach (Môn, Meirionydd), y gellir eu defnyddio i ategu allbynnau o ansawdd gan y sectorau bwyd-amaethyddol, coed, twristiaeth ac amgylcheddol.
Rheoli’r dirwedd er budd twristiaeth, hamdden, a chymunedau lleol, y Gymraeg a chymunedau lleol bywiog.
Cydweithio mewn grwpiau ac adeiladu’r wybodaeth a’r sgiliau i gyflawni deilliannau a rennir, yn enwedig lle mae ecosystemau’n gorgyffwrdd ffermydd, tir comin a dalgylchoedd afonydd.
Cydweithio er mwyn datblygu opsiynau ar gyfer cynlluniau amaethyddol lleol sy’n cynnig nifer o fanteision. Mae rheoli’r tir yn gynaliadwy’n dechrau gyda chael dealltwriaeth leol o’r problemau. Mae angen i ni ei gwneud yn haws i gefnogi ffermwyr i gynnal elw a rheoli eu ffermydd mewn ffordd sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, e.e. iechyd a ffrwythlondeb gwell mewn pridd, ansawdd dŵr gwell, llai o golledion maethynnau i ddŵr, mwy o storio carbon, a mwy o gynefinoedd sy'n llawn bioamrywiaeth. Gallem archwilio cyfleoedd i gael mentrau peilot ar ffermydd lle gellir olrhain a dangos gwaith i fonitro rhywogaethau ac ansawdd dŵr, gyda’r arferion gorau a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu.
Gweithio ar lefel leol i osgoi dulliau “addas i bawb” o ran cymorthdaliadau ffermydd er mwyn caniatáu gwahaniaethu amlwg mewn ffermio ar draws yr ardal oherwydd bod yr ardal yn amrywiol a cheir cynefinoedd gwahanol.
Mae llai o lawer o orchudd coetir yn yr ardal (13.0 y cant), ac mor isel â 4.5 y cant ar Ynys Môn, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 15 y cant yng Nghymru. Mae angen i ni sicrhau bod y coed cywir yn cael eu plannu yn y lleoedd iawn ac mae hwn yn faes sydd angen ymchwil bellach. Mae angen targedu’r gwaith o ehangu coetiroedd newydd yn ofalus er mwyn sicrhau'r budd mwyaf i’r cyhoedd. Dylai rheolaeth coetiroedd gael ei hymgorffori i raddau llawer mwy yn yr economi ffermio.
Gall gwella cysylltedd a chreu cynefinoedd trwy adfer coetiroedd a esgeuluswyd a gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt ganiatáu i rywogaethau symud rhwng ardaloedd. Gall caniatáu ymylon caeau glaswelltog hefyd gynnig buddion bioamrywiaeth ychwanegol trwy gysylltu cynefinoedd.
Gall plannu coed yn strategol o amgylch unedau da byw/ieir lle bo hynny'n briodol helpu i leihau drifft amonia, gan leihau dyddodiad nitrogen ar safleoedd amgylcheddol sensitif. Bydd hefyd yn gwella’r rheolaeth o ddŵr ar ffermydd, ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at iechyd anifeiliaid trwy ddarparu lloches wrth gynyddu bioamrywiaeth a chyfrannu at storio carbon.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli’n uniongyrchol 34,622 hectar (bron 8 y cant) o dir yn y Gogledd-orllewin. Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn sefydliad sy’n esiampl o’r ffordd rydym yn mynd ati yn ein gweithgareddau beunyddiol i reoli ein tir a’n hasedau.
Gall y sector cyhoeddus a chyrff anllywodraethol hefyd chwarae rôl enghreifftiol wrth reoli’r tir yn gynaliadwy trwy roi cynnig ar ddulliau newydd o reoli’r tir a’r dŵr.
Mae gweithio gyda Chymdeithasau Tir Comin trwy annog cytundebau ar raddfa fawr ar dir comin, ac annog cydweithio rhwng cominwyr, ar ucheldiroedd mawr a borir yn aml, yn hanfodol.
Rydym yn cydnabod bod cwmnïau dŵr yn mabwysiadu mwy o ddulliau arloesol ar gyfer diogelu dŵr yfed glân drwy reoli dalgylchoedd gyda pherchenogion tir a phartneriaid. Mae angen inni barhau i weithio ar leihau plaladdwyr, gwrteithiau, maethynnau a phathogenau yn y tarddle a lleihau’r meintiau ohonynt sy’n cyrraedd nentydd, afonydd a chronfeydd dŵr. Gyda hinsawdd sy’n newid, mae angen i ni barhau i sicrhau bod modd cynnal y swm o ddŵr a gymerir o afonydd, cronfeydd dŵr neu’r ddaear heb ddifrodi’r amgylchedd yn awr ac yn y dyfodol.
Mae hanes hir mwyngloddio a chwarela yn yr ardal wedi gadael etifeddiaeth o hen chwareli, tomenni glo, siafftiau a gweithfeydd dan ddaear. Mae cyfle i asesu effaith bosibl pa fesurau hamdden, lliniaru ac adfer fyddai’n effeithiol.
Ceir cyfle i gydweithio gyda phartneriaid i wella cynefinoedd mewn afonydd, dŵr croyw a gwlyptiroedd, gan weithio tuag at gynnig y cynefinoedd gorau ar gyfer pysgod a bywyd dyfrol dŵr croyw brodorol yn y Gogledd-orllewin – er enghraifft, trwy greu coridorau coetir afonydd a nentydd i helpu i reoli a dal silt a lleihau dŵr ffo. Adfer cynefinoedd ar lannau afonydd, gan gynnwys lleiniau clustogi a phlannu coed (lle bo hynny'n briodol) i gadw afonydd yn oer a lleihau llwyth gwaddod a dŵr ffo, sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr a gorchuddio wyau pysgod mewn graean afonydd. Adfer y strwythur mewn afonydd, gan gynnwys ailgyflwyno clogfeini neu ddeunydd coediog yn afonydd Conwy, Llyfni, Mawddach, Clwyd a Dyfrdwy lle bo hynny'n briodol. Mae hyn hefyd yn cysylltu â'n thema Ecosystemau Gwydn. Mae cyfleoedd hefyd i adfer prosesau geomorffolegol naturiol, yn enwedig cael gwared ar rwystrau i bysgod sy’n mudo sy’n atal mynediad i fannau silio a symudiadau graean naturiol fel tynnu coredau na ddefnyddir mwyach ar afonydd Llyfni, Dyfi, Dyfrdwy, Clwyd a Chonwy.
Ceir cyfleoedd i ehangu’r llain arfordirol i’r tir, lle mae’r amodau’n caniatáu hynny, er mwyn adfer cynefinoedd o bosibl ar hyd arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn ac Ynys Môn. Gallai creu parthau clustogi rhwng clogwyni ac ardaloedd o reolaeth amaethyddol ddwys yn y mewndir fod o fudd.
Mae’r thema Annog Economi Gynaliadwy yn tynnu sylw at gyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar gynnyrch lleol a chaffael lleol.
Byddwn yn datblygu gweledigaeth yr ardal gyfan ar gyfer y thema hon gyda rhanddeiliaid – gyda chylch gwaith eang a chynrychiolaeth eang. Byddwn yn nodi darpar bartneriaid ac unigolion/grwpiau sydd â diddordeb, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (allanol, mewnol, gyda phartneriaid fel yr Awdurdod Parc Cenedlaethol) i arwain gweithgareddau ac i ddylanwadu ar gynlluniau sefydliadol.
Ar gyfer pob thema bydd angen i ni adolygu pa wybodaeth a data sydd gennym hyd yn hyn, cynllunio gyda phwy rydyn ni'n siarad â nhw nesaf, edrych am ddamcaniaethau newid, nodi rhwystrau a sut i’w goresgyn, ac archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithredu'n briodol. Bydd y Datganiad Ardal yn ddogfen iterus a fydd yn newid ac yn esblygu dros amser. Bydd y grwpiau'n gyfrifol am benderfynu pryd mae angen i gynlluniau newid a phwy sydd angen bod yn rhan o'r broses honno.
O hyn, byddwn yn gallu ennyn diddordeb ac ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach mewn ffordd wedi'i thargedu, a chanolbwyntio'n fwy ar gynnwys ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion lleol. Gallai hyn olygu amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau traddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau ein partneriaid fel ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.
Ymhellach, bydd rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn briodol ar raddfa addas ac ailblannu’r coed sydd wedi’u difetha gan afiechydon hefyd yn cefnogi gwytnwch ecosystemau.
Bydd y Datganiad Ardal yn caniatáu inni oll wneud penderfyniadau clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio gwybodaeth sydd gennym yn ogystal â thystiolaeth y mae ein partneriaid yn ei darparu sy'n cael ei chadw'n lleol. Bydd llawer o’r data ar gael i bawb trwy borth data newydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi bod bylchau yn ein tystiolaeth, ond rydym yn gweithio i'w llenwi.
Rydym yn croesawu cyfleoedd i’r cyhoedd ymwneud â ni ar unrhyw gam o broses y Datganiad Ardal.
Ceir hefyd ffurflen a chyfeiriad e-bost i roi adborth: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os ydych yn dymuno ysgrifennu atom ni gyda’ch syniadau ar gyfer datblygu camau gweithredu dan y thema hon.